Rosie Slay, Author at Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/author/rosieslay/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Wed, 11 Oct 2023 13:59:04 +0000 cy hourly 1 Adnodd Addysgiadol Elan Links https://elanvalley.org.uk/cy/addysg/adnodd-addysgiadol-elan-links/ Wed, 11 Oct 2023 13:59:04 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6533 Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â...

The post Adnodd Addysgiadol Elan Links appeared first on Elan Valley.

]]>
Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â gorffennol, presennol a dyfodol Elan, gan gynnwys defnydd gynaliadwy o ddŵr, y dyffrynnoedd coll, newid hinsawdd ynghyd â chelf.

Mae’r adnodd traws cwricwla wedi’i anelu at Flynyddoedd 6 a 7 ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, yn amgylchedd stepen drws y myfyriwr neu yng Nghwm Elan ei hun.  Mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim trwy’r cysylltau isod

Lawrlwytho’r Adnodd yn Saesneg

Lawrlwytho’r Adnodd yn Gymraeg

Rydym hefyd yn cynnal nifer o alwadau cyflwyniadol ar gyfer athrawon er mwyn esbonio’r adnoddau, esbonio ein methodoleg, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am weithio gyda rhain.  Rydym yn cynnig y galwadau hyn trwy Google Meet ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol, fe allwch ddefnyddio’r cyswllt hwn ar gyfer galwad.

Os nad ydy’r amserau neu’r llwyfannau hyn yn gyfleus i chi, cysylltwch â rosie.slay@elanvalley.org.uk i drefnu galwad arall.

Dydd Iau, 12fed o Hydref 3.30-4.30yp

Dydd Mercher, 25ain o Hydref 3.30-4.30yp

Dydd Iau 26ain o Hydref 4-5yh

Dydd Mercher 1af o Dachwedd 3.30-4.30yh

The post Adnodd Addysgiadol Elan Links appeared first on Elan Valley.

]]>
Llwybr Sain ar gyfer Blinder https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/llwybr-sain-ar-gyfer-blinder/ Mon, 17 Jul 2023 14:56:01 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6131 Mae ein hartist preswyl, Rowena Harris, wedi datblygu gwaith celf sain sy’n hygyrch i flinder o amgylch Argae Caban Coch. Cynhaliwyd preswyliad Rowena y gwanwyn hwn, ac mae’n...

The post Llwybr Sain ar gyfer Blinder appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae ein hartist preswyl, Rowena Harris, wedi datblygu gwaith celf sain sy’n hygyrch i flinder o amgylch Argae Caban Coch.

Cynhaliwyd preswyliad Rowena y gwanwyn hwn, ac mae’n breswyliad dwy ran, a gynhelir gan Elan Links, a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr ym Mirmingham. Ysbrydolwyd gwaith Rowena gan system rheoli dŵr ac ynni Cwm Elan mewn perthynas â blinder sy’n newid bywyd. Caiff ei lefaru o safbwynt dŵr, mae’n cymryd ysbrydoliaeth o arferion cyflymdra ar gyfer blinder a phreswyliad amgen radical y gofod a’r amser a ddaw o fyw gyda blinder.

Mae Crip Body of Water ar gael i wrando trwy Spotify, a gellir dod o hyd i fanylion llawn y gwaith, gan gynnwys y dewis o lwybrau gwrando, lleoliadau a chanllawiau hygyrchedd sy’n hygyrch i flinder, yma.

Arweinlyfr Cymraeg (modd tywyll) (modd ysgafn)

Mae’r sain yn gyfuniad o’r Gymraeg a Saesneg.

Gellir gweld trosolwg o’r lleoliadau gwrando ar y map isod.

The post Llwybr Sain ar gyfer Blinder appeared first on Elan Valley.

]]>
Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/elan-links-a-chanolfan-gelfyddydau-canolbarth-lloegr-yn-cyflwyno-arddangosfa-am-hanes-a-dyfodol-ein-dwr/ Mon, 03 Jul 2023 10:44:47 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6137 Zillah Bowes, Bethan ‘Frondorddu’ a Ruby (portread lloergan) o’r gyfres Green Dark (2021). Print math C, 62 x 87 x 4cm. Mae Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth...

The post <strong>Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Zillah Bowes, Bethan ‘Frondorddu’ a Ruby (portread lloergan) o’r gyfres Green Dark (2021). Print math C, 62 x 87 x 4cm.

Mae Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno Watershed, arddangosfa grŵp sy’n edrych ar hanes, tirwedd a diwylliant Cwm Elan yng nghanolbarth Cymru.

Ar ddiwedd 19eg ganrif, arweiniodd dŵr anniogel at glefyd eang yn ninas ddiwydiannol gynyddol Birmingham. Pasiwyd Deddf Seneddol, gan alluogi i Adran Ddŵr Corfforaeth Birmingham brynu Cwm Elan yn orfodol. Crëwyd cyfres o gronfeydd dŵr trwy adeiladu argae yn afonydd Elan a Chlaerwen, a gorfodwyd dros 100 o drigolion Cwm Elan i symud.

Mae Watershed yn cyflwyno ymatebion artistig i’r newid dadleuol hwn i dir Cymru, y cysylltiadau rhwng y ddwy dirwedd nodedig hyn, a’r rhan y mae pobl yn ei chwarae yng nghydbwysedd natur.

Mae’r arddangosfa’n rhychwantu cyfryngau, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain, ffilm a phaentio. Mae’n casglu deunydd o archif Elan Links, gan gynnwys llyfr o ysgythriadau gan brif beiriannydd adeiladu’r argae Eustace Tickell, a roddwyd ar waith i gipio’r dyffryn cyn iddo gael ei orlifo.

Cymerodd yr artistiaid dan sylw ran mewn rhaglen breswyl unigryw dan arweiniad Elan Links, gan gynnwys gwaith gan yr artist Rowena Harris a wnaed yng ngwanwyn 2023 yn ystod eu cyfnod preswyl gydag Elan Links a MAC.

Cynhelir yr arddangosfa yn MAC ym Mirmingham, ac fe’i cyflwynir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Watershed yn agor ar 28ain Mehefin ac fe’i cynhelir tan 5ed Tachwedd 2023, yn y Teras a’r Oriel Gymunedol yng Nghanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr. Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau ac allgymorth ym Mirmingham cliciwch yma.

The post <strong>Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>