Sam Price, Author at Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/author/samprice/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Tue, 03 Sep 2024 12:13:15 +0000 cy hourly 1 Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/holiadur-ymddiriodolaeth-cwm-elan/ Tue, 03 Sep 2024 12:06:35 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8333 The post Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>

Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn gyfrifol am ddaliad tir sylweddol, sy’n cynnwys nifer o fythynod gwyliau, dau fwthyn a Byncws CwmClyd. Hoffwn gael eich barn ar ddefnydd parhaus Cwm Clyd fel lletyymwelwyr. Gwerthfawrogwn pe baech yn cwblhau’r holiadur byr hwn erbyn 30ain Medi 2024.

The post Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-medi-2024/ Sat, 31 Aug 2024 15:19:52 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8290 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi. Mae hwn yn amser gwych o’r flwyddyn er mwyn syllu ar...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi.

Mae hwn yn amser gwych o’r flwyddyn er mwyn syllu ar y sêr gan nad oes rhaid i chi aros tan yr hwyr i weld y gwir dywyllwch, ac fe allwch astudio clystyrau’r sêr, nifylau a’r galaethau ar eu gorau.

Mae hi’n nosi oddeutu 10yh ar ddechrau’r mis a 8.50yh ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10yh, y cytserau sy’n amlwg yn wybren ddeheuol y nos yn ystod mis Medi yw’r Alarch, sydd wedi’i leoli’n dda, Telyn Arthur, sy’n gorwedd ar ochr ddwyreiniol y Llwybr Llaethog, a’r Saethydd a’i gytser tebot enwog, sy’n gorwedd yn isel ar y gorwel.

Mae Ercwlff ac Ophiuchus yn gorymdeithio tua’r dwyrain a Boötes gyda’i seren lachar Arcturus yn dechrau machlud.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 3ydd o Fedi a’r Lleuad Lawn ar y 17eg o Fedi.

Planedau

Fe fydd y blaned Sadwrn mewn gwrthsafiad ar yr 8fed o Fedi, sy’n golygu pe fyddech chi’n tynnu llinell ddychmygol o’r Haul sy’n mynd trwy’r Ddaear, fe fyddai’r blaned Sadwrn hefyd ar y llinell honno gyda’r Ddaear yn y canol.  Mae hyn yn digwydd tua unwaith y flwyddyn wrth i’r planedau troi o gwmpas yr Haul.  Mae’r blaned Sadwrn yn wych i’w gweld yn ystod y cyfnod hwn, gan ei bod yn ymddangos ar ei mwyaf llachar a mawr.

Erbyn diwedd mis Medi, mae’r blaned Iau wedi’i lleoli’n dda yn wybren y nos er mwyn ei hastudio.  Edrychwch am leuadau Iau a’r cyfle i astudio’r bandiau o gymylau sydd ar wyneb y blaned.  Cymerwch amser i’w hastudio, gan fydd adegau pan fydd yr atmosffer yn tawelu ac fe gewch gipolwg byr o’r troellau a’r bandiau mewn manylder gwych.

Fe fydd cefnogwyr y planedau enfawr o iâ, Neifion ac Wranws, yn cael y cyfle i’w hastudio y mis hwn, gan eu bod hefyd wedi’u lleoli’n

dda.  Fe fydd Neifion mewn gwrthsafiad ar yr 21ain o Fedi.  Fe fyddant yn ymddangos fel smotiau niwlog cyson o las/gwyrdd.  Fe fydd unrhyw un sydd â thelesgop ag agorfa o 10 modfedd neu fwy efallai yn gallu gweld Triton, sef un o 16 lleuad mwyaf Neifion.

Diffyg Rhannol ar y Lleuad

Ar y 18fed o Fedi fe fydd diffyg rhannol ar y Lleuad.  Fe fydd y Lleuad yn symud i ogysgod oeddeutu 1.41yb – hwn yw cysgod allanol y Ddaear wrth iddi symud yn raddol i’w safle rhwng y Lleuad a’r Haul. 

Mae’r Lleuad yn symud i’r cysgod wmbrol oddeutu 3.13yb, gyda phwynt mwyaf y diffyg rhannol yn digwydd am 3.44yb.  Fe fydd hyn yn weledol – wybren glir yn caniatáu! – gan fod yr wmbrol (y cysgod mewnol) yn fwy tywyll a’r Lleuad yn ymddangos fel pe bai brathiad wedi’i dynnu allan ohoni ar yr ochr orllewinol uchaf.  Fe fydd y Lleuad yn gadael y gogysgod am 4.16yb a’r wmbrol am 5.47yb.

Nifwl Pelen Eira Las

RA | 23h 27m 05s
Dec | +42° 40’ 14”

Y mis hwn, mae gennym her ddiddorol i wylwyr i ddarganfod.  Fe adwaenir NGC 7662 yn fwy cyffredinol fel Nifwl Pelen Eira Las.

Mae wedi’i leoli oddeutu 2500 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, ac achosir y nifwl planedol hwn gan seren sy’n marw ond sydd heb y màs i ffrwydro fel uwchnofa. Yn hytrach, mae’n gollwng ei haenau allanol yn dawel fel nwy ïoneiddiedig, gan greu’r nifwl, sy’n apelio’n weledol, ac a all ddisgleirio’n ddigon llachar i’w weld trwy delesgop.  Mae’n disgleirio’n las gan fod y nwyon yn cynnwys ocsigen yn bennaf.  Mae’r braslun ar y dde yn dangos sut olwg fyddai ar y nifwl hwn trwy delesgop ag agorfa 8 modfedd mewn wybren dywyll iawn.  Fe ellir gweld lliw glas y nifwl hyfryd hwn.  Credir y bydd ein haul ni hefyd yn gorffen ei fywyd fel nifwl planedol, yn hytrach na fel uwchnofa ysblennydd, fel sy’n gyffredin gyda sêr llawer mwy.

Canmoliaeth am y ddelwedd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com



Fe allwch ddod o hyd i’r gwrthrych hwn trwy leoli pedwar cytser: Llys Dôn, Andromeda, Pegasws a Lacerta.  Edrychwch am seren Caph yn Llys Dôn a thynnwch linell ddychmygol ar draws i’r seren Scheat yng nghytser Pegasws – mae’r nifwl Pelen Eira Las bron yng nghanol y llinell.  Os ydych yn defnyddio’ch darganfyddwr i leoli’r asterism tair seren fach: Lambda Andromedae, Kappa Andromedae ac Iota Andromedae, mae’r nifwl wedi’i lleoli ger y sêr hyn, ond wedi i chi ddefnyddio’ch darganfyddwr i weld y sêr hyn, fe fydd angen i chi edrych trwy’ch sylladur i weld y nifwl wrth iddo ddod i’ch golwg.

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/cyfle-i-wirfoddoli-ar-brosiect-adfer-y-mawndir/ Sat, 31 Aug 2024 14:27:15 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8285 Tir gyda mannau gwlyb yw’r mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystem y Ddaear.  Mae’r ardaloedd dyfrlawn yn atal y planhigion rhag pydru’n llawn, gan greu rhai o’r ardaloedd...

The post Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir appeared first on Elan Valley.

]]>

Tir gyda mannau gwlyb yw’r mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystem y Ddaear.  Mae’r ardaloedd dyfrlawn yn atal y planhigion rhag pydru’n llawn, gan greu rhai o’r ardaloedd mwyaf cyfoethog mewn carbon ar y Ddaear; hyd yn oed yn fwy na’n fforestydd.  Mae’r ardaloedd hanfodol hyn yn dal ac yn storio carbon deuocsid, ac yn oeri’n hinsawdd sy’n parhau i gynhesu.  Yn anffodus, yng Nghwm Elan, mae’r rhan fwyaf o’n tir yn cynnwys mawn; mae peth ohono mewn cyflwr gwael ac mae angen eich help chi arnom er mwyn adfer yr adnodd gwerthfawr hwn.

Rydym yn arbrofi gyda gwahanol ddulliau er mwyn arafu llif y dŵr ac i drapio’r gwaddodion o erydiad y mawn ar ddau safle gorgors lle mae’r mawn wedi cael ei dorri.  Y syniad yw i weld beth all rheolwyr y tir wneud ar raddfa fach gyda deunyddiau lleol, lle nad yw defnyddio peirianwaith yn ymarferol.  Y canlyniad dymunol yw ardaloedd o orsydd gwlypach, gyda mwsoglau migwyn yn cytrefu, a lleihau goruchafiaeth gwellt y gweunydd.

Fe fydd y prosiect yn parhau am 5 wythnos, ac mae croeso i chi ymuno â ni am beth neu ar yr holl ddiwrnodau gwirfoddoli.

Fe fydd y sesiynau yn dechrau am 10yb tan 3yp.

Y dyddiadau yw:

• 12fed o Fedi – Creu Byndiau Gwlân


• 19eg o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 26ain o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 3ydd o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

10fed o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

Credwn na ddylai gostio dim i chi wirfoddoli.  Rydym yn talu costau teithio gwirfoddolwyr o 45c y milltir bob ffordd ac rydym yn gallu ad-dalu pryniannau cinio hyd at £5 (fe fydd angen derbynneb).   I gofrestru ar gyfer cyfle i wirfoddoli neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

The post Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/eyes-on-the-night-sky-august-2024/ Tue, 30 Jul 2024 15:13:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8169 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Awst. Fe fydd tywyllwch seryddol yn dychwelyd i’r rhan fwyaf o’r...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Awst.

Fe fydd tywyllwch seryddol yn dychwelyd i’r rhan fwyaf o’r DU y mis hwn sydd yn golygu y bydd yr wybren yn wirioneddol ddigon tywyll ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig am y gofod pell.  Yng Nghanolbarth Cymru, mae gwir dywyllwch yn digwydd rhwng hanner nos a 2.30yb ar ddechrau’r mis ac amser mwy parchus, 10.12yh a 4.16yb ar y diwedd.  Bydd hyn yn amlwg yn cael ei rwystro gan bresenoldeb y Lleuad ar unrhyw noson bendodol, felly i geisio ddod o hyd i’r wybren dywyll hwnnw, cadwch lygad barcud yma ar godiad a machlud y Lleuad.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Mae cytserau’r Alarch a Thelyn Arthur dal yn y lle gorau yn wybren y nos am 10yh.  Mae’r Saethydd yn gorwedd yn uniongyrchol ar y gorwel deheuol.  Mae Boötes gyda’i seren oren lachar Arctwrws, yn symud tua’r gorllewin.

Tua’r dwyrain, mae cyd-gytserau Pegasws ac Andromeda yn gorwedd o dan Lys Dôn sydd ar ffurf w, a chytser ar ffurf tŷ Seffews, gyda Perseus a’r Arth Fawr yn goruchafu’r gogledd.  Mae’r Ddraig wedi’i lleoli’n uchel ar y anterth (sef y darn o wybren sydd yn uniongyrchol uwch eich pen).

Fe ddigwydd y Lleuad Newydd ar y 4ydd o Awst a’r Lleuad Lawn ar y 19eg o Awst.

Cawod o Sêr Gwib Perseid

Mae Cawod o Sêr Gwib Perseid ar ei hanterth ar noson y 12fed o Awst ac yn oriau mân y bore ar y 13eg o Awst.  Credir mai hwn fydd y digwyddiad cawod o sêr gwib mwyaf ysblennydd y flwyddyn, gan gynnwys y nifer uchaf o sêr gwib yr awr, oddeutu 100.  Daw’r malurion o’r deunydd gweddilliol o gomed Swift Tuttle sydd yn llosgi yn ein hatmosffer.  Tarddodd y pelydr o’r cytser Perseus, ond mae wedi symud yn eithaf diweddar i ardal Camelopardalis.  Fe fydd y Lleuad yn 51% llawn ond yn machlud tua 11yh. Ymunwch â Thîm Wybren Dywyll Cwm Elan ar y 12fed o Awst lle fyddwch mewn cwmni da er mwyn gwylio Cawod Sêr Gwib Perseid ar ei hanterth.  Fe fydd gennym delesgopau wrth law er mwyn i chi allu cael taith o gwmpas trysorau disglair y nos. 

MAE HWN YN DDIGWYDDIAD SY’N DDIBYNNOL AR Y TYWYDD felly archebwch le yma

Argeliadau’r Lleuad a’r Blaned Sadwrn

Ar fore’r 21ain o Awst, fe fydd y Blaned Sadwrn yn agosáu at y Lleuad ac yn mynd tu ôl iddi.  Fe allwch fwynhau gwylio dyfodiad y blaned nes iddi fynd tu ôl i’r Lleuad oddeutu 4.35yb ac yn ymddangos o’r pedrant dde isaf oddeutu 5yb.  Mae’n werth codi’n gynnar er mwyn gweld y digwyddiad prin hwn – y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 2007.

Delwedd: Artists impression, ESO/Nico Bartmann/spaceengine.org

Messier 57 – Y Nifwl Modrwy

RA 18h 53m 35s | Dec +33° 1′ 45″
I’r rhai ohonoch â thelesgop gydag agorfa sydd yn fwy nag 8 modfedd, mae’r Nifwl Modrwy yn werth astudio.  Wedi’i lleoli yng nghytser Telyn Arthur (Lyra), fe allwch ei darganfod wrth ddefnyddio’r cyfesurynnau uwchben neu ddefnyddio dull megis hercian sêr.

Chwiliwch am y seren Fega, sydd fwyaf disglair ar ben y cytser ac edrychwch am baralelogram hirgul gyda seren wrth bob cornel.  Edrychwch am y ddwy seren ar y top a symudwch eich llygaid i’r ddau ar y gwaelod – mae Nifwl Modrwy wedi’i leoli ychydig dros y man hanner ffordd rhwng y ddwy seren yn y gornel waelod.

Fe fydd yn ymddangos fel hirgrwn gwyn bach yn eich telesgop.  Mae’r Nifwl Modrwy yn nifwl blanedol, sy’n cynnwys haenau allanol seren sy’n marw.  Mae’r braslun hwn, trwy ganiatad caredig Michael Vlasov o deepskywatch.com, yn dangos golygfa fras o Nifwl Modrwy fel y’i gwelir trwy delesgop 8 modfedd.

Edrychwch ar y seren sydd yng nghanol y nifwl hwn, a luniwyd gan NASA/ESA – rydych yn edrych ar graidd y seren sy’n marw, a adwaenir hefyd fel corrach gwyn.  Ni fyddwch yn gallu gweld hwn trwy delesgop bach:  mewn gwirionedd, fe fyddai angen telesgop anferth arnoch gydag agorfa o 16 modfedd neu’n uwch mewn wybren dywyll iawn.  Mae ei adweithiau ymasaid wedi dod i ben, ar hyn rydych yn edrych arno yw’r egni gweddilliol yn oeri’n araf – ond dal yn eiriasboeth 100,000 Kelvins (99,727 gradd selsiws).  Credir y gall y sêr hyn gymryd oddeutu biliwn o flynyddoedd i oeri.

‘Dychweliad’ y Llwybr Llaethog

Edrychwch i’r de wrth iddi ddechrau nosi ac edrychwch gyda llygaid noeth ar y gwrthych hyfryd yn ymddangos yn wybren y nos – fe fydd yn edrych fel band niwlog o olau, yn ymestyn o’r de ac yn fwa mawreddog uwch eich pen, sy’n cynnwys braich y Saethydd yn ein galaeth.

Delwedd gan Sean Gates

Mae nifer o chwedlau ynghylch hyn: yn ôl y llyfr Dark Land, Dark Skies (gan Martin Griffiths), mae’r Cymry yn rhoi’r Llwybr Llaethog fel afon nefolaidd a elwir Sarn Gwydion, sy’n cynrychioli’r ffordd y gwnaeth y dewin a’r arwr Gwydion deithio arno er mwyn achub enaid Lleu, ei nai, a’i ddychwelyd ef yn fyw.

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos mis Gorffennaf https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-gorffennaf/ Wed, 26 Jun 2024 15:29:53 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8123 Ni fydd y nosweithiau yn ystod mis Gorffennaf yn ddigon tywyll ar gyfer gwrthrychau yn yr wybren bell megis nifylau tan ddiwedd y mis. Fe fydd sêr-dywyllwch yn...

The post Golwg ar Wybren y Nos mis Gorffennaf appeared first on Elan Valley.

]]>
Ni fydd y nosweithiau yn ystod mis Gorffennaf yn ddigon tywyll ar gyfer gwrthrychau yn yr wybren bell megis nifylau tan ddiwedd y mis. Fe fydd sêr-dywyllwch yn dychwelyd ar y 24ain o fis Gorffennaf yma yng Nghanolbarth Cymru rhwng 1.10 a 3.30yb – fe fydd yr amserau yn gwahaniaethu gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw yn y DU – ond fe fydd y Lleuad amgrwm yn atal y rhai sy’n frwdfrydig dros weld gwrthrychau’r wybren bell rhag weld y pethau pell ac aneglur tan yr 2il o fis Awst.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

The constellations of Hercules, Lyra and Cygnus are well placed in the south at 10pm. The constellation of Sagittarius grazes the southern horizon, with Ophiuchus directly above and Aquila in the south-east. Eastwards, the constellations of Pegasus and Andromeda rises and in the west, Leo is all but set and Virgo lies low on the horizon. The circumpolar constellations of Cepheus, Ursa Major, Draco and Cassiopeia are well-placed. Circumpolar is a term used in Astronomy to indicate celestial objects that are above the horizon at all times.

Fe fydd Lleuad Newydd yn digwydd ar y 5ed o Orffennaf a’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 14eg o Orffennaf.

Cymylau Noctilwsaidd

Mae cymylau noctiliwsaidd yn parhau i ymddangos yn ystod y mis hwn – credir y byddant ar eu hanterth y tymor hwn tua’r ail wythnos ym mis Gorffennaf pan fydd yr arddangosfa ar ei gorau.  Fe ddylent ddechrau ymddangos pan fydd yr sêr mwyaf llachar yn ymddangos yn yr wybren ar ôl iddi fachlud – peidiwch ag anghofio am oriau mân y bore hefyd – tua 90 – 120 o funudau cyn iddi wawrio.

Yn ystod oriau mân y bore ar y 3ydd o Orffennaf, fe fydd ciliad y lleuad gilgant yn symud yn agos 4.6 gradd heibio’r Blaned Iau.  Fe fydd y Blaned Iau yn codi yng ngorwel y gogledd-ddwyrain tua 3yb.  Edrychwch am y blaned coch Mawrth wedi’i lleoli i’r dwyrain o’r Lleuad ac os yw’n ddigon tywyll, ceisiwch ddod o hyd i Glwstwr Seren Pleiades sydd ychydig i’r de-ddwyrain o’r Lleuad.

Ar y 24ain o Orffennaf, fe fydd y Lleuad yn codi gyda’r Blaned Sadwrn yn y de-ddwyrain tua 11.15yh.

Clwstwr Sêr Agored NGC 6940

RA | 20h 34m 26s

Dec | +28° 17′ 00″

Ar gyfer y rhai sy’n defnyddio ysbienddrych, mae NGC 6940 yn glwstwr o sêr agored y gellir ei weld yng nghytser Vulpecula. 

Mae wedi’i lleoli 2500 o flynyddoedd golau i ffwrdd, ac mae’n cynnwys clwstwr llac o dua 100 o sêr ar ffurf hirgrwn – mewn wybren fwy tywyll fe all bron ymddangos yn niwlog gyda gwasgariad o sêr mwy llachar.

Llun Di Roberto Mura – Opera propria, CC BY-SA3.0,

Y Dwbl Dwbl

Ger cytser Telyn Arthur mae yna seren sy’n llawn syndod. Mae Epsilon Lyrae (Lyrae) yn ymddangos fel seren unigol i’r llygad noeth.

Ceisiwch edrych arni trwy’ch ysbienddrych – ac mae Epsilon Lyrae yn sydyn yn rhannu’n ddwy.

Os oes gennych delesgop ag agorfa 60mm neu’n uwch, rydym yn eich argymell i ddefnyddio sylladur 100 x chwyddhad er mwyn gweld y ddwy seren yn rhannu eto i bedair seren, sy’n cael eu dal at ei gilydd gan ddisgyrchiant! Mae pumed seren yn y grŵp hwn, a ddarganfyddwyd mor ddiweddar a 1985 gan ddefnyddio techneg a elwir ‘speckle interferometry’.

Cytser y Mis – Telyn Arthur

Cytser bach, hafaidd yw Telyn Arthur ac mae i’w weld yn y DU yn ystod rhan fwyaf o’r flwyddyn. Fodd bynnaf, yr amser gorau i’w weld pan mae yn y lleoliad gorau yn yr wybren, yw rhwng mis Mehefin a mis Hydref.

Yn gyffredinol, mae’n debyg i offeryn cerdd hynafol a elwir yn delyn, ac mae gwahanol mythau a chwedlau ar draws y byd amdani.

Yn chwedlau Groegaidd, mae Telyn Arthur yn cynrychioli telyn fach y bardd Orffews.  Fe ddysgodd Apollo ef i’w chwarae ac fe greuodd cerddoriaeth mor brydferth, roedd hyd yn oed y creigiau dan deimlad.  Fe’i ddefnyddiodd ar long Argonaught er mwyn boddi allan sŵn hudolus galwadau’r Sirens wrth iddynt hwylio heibio.  Fe’i chwaraeodd hefyd wedi marwolaeth ei wraig Eurydice, yn y gobaith y byddai’r duwiau yn ei glywed.  Fe wnaethant,  ac wrth i dduwiau’r isfyd Hades a Persephone glywed ei gerddoriaeth fe wnaethant gytuno i ddychwelyd ei wraig i fyd y byw.  Roedd un amod – nid oedd i edrych yn ôl tan iddo adael yr isfyd.  Yn anffodus, fe edrychodd yn ôl, ac fe wnaeth ei wraig a oedd yn cyd-gerdded gydag ef, ddiflannu.  O’r diwedd bu farw Orffews ar ôl iddo gael ei erlid gan y Thracian Maenads a thaflwyd ei delyn fach i’r afon.  Fe anfonodd Sews ei eryr i’w hadennill, ac fe’i rhoddwyd yn yr wybren. 

Mae hyd yn oed chwedl Gymreig hynafol am ddyn o’r enw Morgan a oedd yn dwlu ar ei lais ei hun gan berfformio pryd bynnag y gallai, er yn anfantais i’w gymdogion. Y broblem oedd, nid oedd yn gerddorol iawn ac roedd y  seiniau a gynhyrchodd yn arteithiol.  Un diwrnod aeth bardd heibio, a oedd yn beirniadu ei ganu.  Ychydig yn ddiweddarach, aeth tri teithiwr blinedig heibio, ac fe wnaeth Morgan, a oedd yn ddyn hael,  estyn lletygarwch iddynt.  Yr hyn na wyddai, oedd bod y tri teithiwr mewn gwirionedd yn bobl o wlad gyfrinol y Tylwyth Teg a oedd yn ddiolchgar am ei garedigrwydd gan roi telyn aur hudol i Morgan.  Fe drawsnewidiwyd ei gerddoriaeth gymaint fel daeth pobl o bell ac agos i wrando ar y canu bendigedig a’r alawon hyfryd.  Fe achosodd y cerddoriaeth i bobl i ddawnsio am oriau.  Roedd y bardd a wnaeth unwaith ei feirniadu yn chwilfrydig a daeth i wrando ar Morgan yn perfformio.  Fodd bynnaf, roedd Morgan eisiau dial ar y bardd gan ddefnyddio’r delyn yn ei erbyn, gan achosi’r bardd i ddawnsio’n orffwyll heb ball nes i esgyrn ei goesau dorri.  Roedd y tylwyth teg, a rhoddodd y delyn iddo, yn ddig gyda Morgan gan gymryd y delyn oddi wrtho a’i rhoi yn yr wybren, fel na ellid ei defnyddio byth eto i niweidio neb. 

The post Golwg ar Wybren y Nos mis Gorffennaf appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-mehefin-2024/ Mon, 27 May 2024 15:18:16 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=7948 Croeso i ddiweddariad mis Mehefin ar gyfer beth sydd yn wybren y nos y mis hwn. Fe fydd y nosweithiau mewn cyfnos parahol y mis hwn ond nid...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad mis Mehefin ar gyfer beth sydd yn wybren y nos y mis hwn.

Fe fydd y nosweithiau mewn cyfnos parahol y mis hwn ond nid yw’n golygu bod syllu ar y sêr wedi dod i ben!  Gellir gweld ambell i gytser ynghyd ag ambell i wrthrych arall.  Mae wybren y nos yn ystod yr haf yn hyfryd i’w weld, gyda glas tywyll, dirgrynol y cyfnos a thywyn tanllyd pelydrau’r haul ar y gorwel.

Mae Heuldro’r Haf yn digwydd ar yr 20fed o Fehefin sy’n dynodi’r oriau hiraf o olau dydd yn y flwyddyn, gyda hemisffer y gogledd ar ei uchaf yn gogwyddo tuag at yr Haul.  Ar y diwrnod hwn, fe fydd golau dydd yn parhau am 17 awr.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Y cytserau sydd drechaf y mis hwn yw Boötes, Corona Borealis a Ercwlff, wedi’u lleoli yn y de.  Ychydig tua’r dwyrain ond wedi’i lleoli’n dda yw Telyn Arthur, gyda’i seren ddisglair Fega. Mae’r Alarch wedi’i lleoli’n dda yn y dwyrain.  Mae’r cytser gwanwynol y Forwyn a’r Llew yn symud tua’r gorllewin. 

Fe fydd y Lleuad Newydd yn digwydd ar y 6ed o Fehefin a’r Lleuad Lawn ar yr 22ain o Fehefin.

Triongl yr Haf

Ceisiwch ddod o hyd i Driongl yr Haf sy’n cynnwys tair o’r sêr fwyaf llachar yn Hemisffer y Gogledd.  Mae’r asterism enfawr yn ymddangos y mis Mehefin wrth iddi ddechrau nosi, ac fel arfer fel y dair seren gyntaf i ymddangos yn wybren y nos ar ôl iddi fachlud.  Y seren fwyaf haws i’w gweld yw Fega, yng nghytser Telyn Arthur.  Nesaf, Altair sydd yng nghytser Aquila sydd wedi’i leoli’n isel tuag at y gorwel dwyreiniol yr adeg hon o’r flwyddyn.  Gellir gweld Triongl yr Haf tan ddiwedd mis Tachwedd ond mae’n fwy hawdd i’w weld gyda chefndir y cyfnos.

Clwstwr Crwn Ercwlff

Cyfesurynnau: RA 16h 41m 41s | Dec +36° 27′ 35″

Gwrthrych anhygoel ond heriol i’w weld yn ystod misoedd y cyfnos yw’r Clwstwr Crwn Mawr yn Ercwlff (M13).  Mae’r gwrthrych llachar hwn yn syfrdanol yn wybren y nos ond mae’n werth edrych amdano ym mis Mehefin. 

Wedi’i leoli yng nghytser Ercwlff, mae’r gwrthrych hwn 25,000 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym ac yn cynnwys 300,00 – 500,00 o sêr. 

Os oes gennych delesgop 8 modfedd, fe fyddwch yn gallu gweld gwrthrych niwlog yn wybren yr haf, ond pan fydd sêr-tywyllwch yn dychwelyd, fe fyddwch yn gallu cydrannu’r sêr allanol, ac yn ymddangos fel golau bach maint pigiad pin.  Po fwyaf yw’r telesgop, y mwyaf o sêr y byddwch yn gallu cydrannu.  Dylai hefyd fod yn weladwy trwy ysbienddrych.

Wedi’i rannu gyda chaniatâd caredig Michael Vlasov o www.deepskywatch.com

Cytser y Mis: Ercwlff

Mae cytser Ercwlff wedi’i leoli’n dda y mis hwn ond fe all y cyfnos cymylu’ch golwg ar y sêr mwyaf aneglur yn y cytser hwn.  Y ffordd orau i ddod o hyd i’r cytser hwn yw i chwilio am y sêr mwyaf llachar sef Arcturus yn Boötes a Fega yn Nhelyn Arthur.  Edrychwch am asterism mewn siap maen clo sydd wedi’i leoli i’r chwith o gytser Corona Borealis. 

Enwyd y cytser ar ôl y fersiwn Rhufeinig Ercwlff, sef un o arwyr chwedloniaeth Groeg.  Mae’r darluniad yn ei ddangos yn cario croen llew, sef llew a wnaeth ymosod ar ddinas Nemea – un o 12 Llafur Ercwlff roedd rhaid iddo eu cyflawni er mwyn talu penyd dros ladd ei wraig a’i feibion.

Anfonwyd y ddau neidr yn ei ddwylo i’w ladd yn ystod ei blentyndod gan Hera, a oedd yn genfigennus o unrhyw blant anghyfreithlon a genhedlwyd gan Zews.  Fe lwyddodd i ddinistrio’r nadredd, a ddatgelodd ei nerth arbennig. 

Credir bod y cytser hwn hefyd yn cynrychioli Gilgamesh, sef arwr mytholegol Sumeraidd 4000 o flynyddoedd yn ôl.

Cymylau Noctilwsaidd

Mae mis Mehefin yn ddechrau ar dymor y Cymylau Noctilwsaidd.  Cymylau yw rhain sy’n cynnwys crisialau iâ,  sydd wedi’u lleoli 200,000 troedfedd yn yr atmosffer, ac wedi’u creu gan lwch o losgfynyddoedd, llygryddion a wnaed gan ddyn neu hyd yn oed gronynnau bach meteor o’r gofod.  Mae angen anwedd dŵr hefyd a chredir i hyn darddu o’r tropopaus.  Nid yw’r haul yn machlud yn is na 18˚o dan y gorwel ac felly mae pelydrau’r haul yn parhau i ddisgleirio, gan oleuo’r ‘cymylau sy’n disgleirio yn y nos’ hyn.  Maent yn sgleinio yn las neu’n arian gyda choch yn fwy prin.  Edrychwch amdanynt yn y gorwel gogleddol pan fydd y sêr mwyaf llachar yn dechrau ymddangos. 

Ar y 27ain o Fehefin, fe fydd cysylltiad rhwng y Lleuad a’r Blaned Sadwrn.  Yn rhannu’r un esgyniad i’r dde, fe’u rhennir gan 4’38”.  

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Mai 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-ebrill-2024-2/ Sat, 27 Apr 2024 08:00:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=7799 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar gyfer Golwg ar Wybren y Nos ar gyfer mis Mai. Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae pwynt isaf yr...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mai 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar gyfer Golwg ar Wybren y Nos ar gyfer mis Mai.

Wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen, mae pwynt isaf yr haul ar y gorwel ar ôl machlud yn codi tan heuldro’r haf, lle nad yw’n machlud yn is na 18 gradd o dan y gorwel. O ganlyniad, mae mwy o belydrau’r haul yn disgleirio i awyr y nos, sy’n golygu bod y nos yn dod yn gyfnos yn ystod ychydig fisoedd yr haf. Yng Nghanolbarth Cymru, rydym yn colli ein gwir dywyllwch ac yn symud i gyfnos seryddol o 17 Mai.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10pm, y cytserau sy’n dominyddu yn awyr y nos yn ystod mis Mai yw Coma Berenices, Boötes, Virgo a Leo. Lleolir Ursa Major ar yr uchafbwynt. Mae cytser Orion i gyd ond wedi’i osod; Efallai y gwelwch y seren goch Betelgeuse yn gosod yn y gorllewin, ac yna Gemini ac Auriga. Mae cytserau Haf Hercules, Lyra a Cygnus yn codi o’r dwyrain.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar 8 Mai a’r Lleuad Lawn ar 23 Mai.

Cawod Feteorau Eta Aquariid

Ar 6 Mai, mae cawod feteorau Eta Aquariid (19 Ebrill a 28 Mai) ar ei hanterth, gan gynhyrchu hyd at 50 meteor yr awr. Yr amser gorau i’w gweld yw yn oriau mân y bore o tua 3am. Mae’r rheiddbwynt yn gorwedd yn isel ar y gorwel dwyreiniol.

Ar 31 Mai, bydd cysylltiad rhwng y Lleuad a Sadwrn. Gellir eu gweld gyda’r llygad heb gymorth, yn codi o’r gorwel dwyreiniol tua 2.30am a bydd ganddynt wahaniad o 22 gradd. Cadwch lygad am y blaned goch, Mawrth wrth iddi ddilyn y cysylltiad, gan godi ychydig yn ddiweddarach am 3.45am.

Cytser y mis: Coma Berenices

Mae cytser Coma Berenices mewn sefyllfa dda yn y de pan fydd tywyllwch yn cwympo. Mae’n gytser gwan sydd wedi’i leoli rhwng Boötes a Leo. Oherwydd bod y sêr sy’n ffurfio’r cytser hwn yn eithaf gwan; chwiliwch am y seren ddisglair Arcturus yng nghytser Boötes a Denebola yng nghytser Leo – mae Coma Berenices yn gorwedd rhwng y ddau ac yn cynnwys dim ond tair seren wedi’u trefnu mewn siâp ongl dde.

Mewn mytholeg, mae Coma Berenices yn cynrychioli Berenice II, brenhines yr Aifft yn ystod Cyfnod Helenistaidd 246 i 222 CC ac yn wraig i Ptolemy III. Roedd Berenice yn bryderus am ei gŵr yn mynd i frwydro felly apeliodd at Aphrodite trwy aberthu ei gwallt. Dychwelodd Ptolemy III yn ddiogel ac anrhydeddodd Berenices ei rhan trwy dorri ei gwallt moethus a’i osod yn nheml y dduwies. Un diwrnod, aeth ar goll ac ar ôl chwilio, honnodd y seryddwr Conon o Samos fod ei gwallt wedi’i gymryd yn uchel i’r nefoedd, gan ddangos y cytser brenhinol ym mhen ôl cytser Leo.

Messier 3

Gwrthrych cyfagos i astudio gyda thelesgopau yw Messier 3, sydd wedi’i leoli yng nghytser Canes Venatici. Mae’n glwstwr crwn trawiadol sy’n cynnwys tua hanner miliwn o sêr ac wedi’i leoli 33,900 o flynyddoedd golau o’r Ddaear.

Trwy delesgop 4 modfedd, mae’n dangos craidd disglair ond gyda thelesgopau mwy o faint, efallai y byddwch yn gallu gweld sêr unigol o amgylch cylchedd allanol y gwrthrych. Bydd telesgopau o 12 modfedd a mwy yn cydrannu sêr i’r craidd. Mewn awyr dywyllach, byddwch yn gallu gweld y gwrthrych hwn trwy ysbienddrych.

Dyma fraslun o’r hyn y gallech ei weld trwy delesgop 10 modfedd mewn awyr wledig, wedi’i rannu gyda chaniatâd caredig gan Michael Vlasov o Deepskywatch.com

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mai 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Datganiad gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/datganiad-gan-ymddiriedolaeth-cwm-elan/ Wed, 17 Apr 2024 14:47:52 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=7771 Roedd Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn bryderus o glywed am gŵyn a wnaed mewn perthynas â gosod Cynefin Defaid Tymawr yn dilyn marwolaeth drist y tenant. Rydym yn cymryd...

The post Datganiad gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Roedd Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn bryderus o glywed am gŵyn a wnaed mewn perthynas â gosod Cynefin Defaid Tymawr yn dilyn marwolaeth drist y tenant.

Rydym yn cymryd cwynion o’r fath o ddifri a rhoddwyd stop ar y broses osod er mwyn cynnal adolygiad trylwyr, cawsom hefyd farn gyfreithiol allanol mewn perthynas â’r broses osod.  Mae canlyniad y ddwy broses yn cadarnhau bod gweithdrefnau’r Ymddiriedolaeth yn gyfreithiol gywir a’u bod wedi’u cymhwyso i safon uchel.

Rydym yn sefyll yn gadarn yn erbyn gwahaniaethu ac rydym yn falch o gael gweithlu gydag ystod oedran amrywiol a chyflogir menywod ar bob lefel o’r sefydliad.

Ar yr achlysur prin pan ddaw tenantiaeth cynefin defaid i ben, rydym yn mynd ati i wahodd pobl i wneud cais drwy broses dendro agored.  Gofynnir i’r holl bartïon â diddordeb ddarparu manylion am eu profiad a’u hymagwedd at ffermio, eu gwybodaeth am yr ardal, cynllun busnes, cyllidebau a geirdaon.

Mae ein proses osod yn ceisio cynnig dull teg a thryloyw sy’n cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol fel landlord ac elusen. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ddysgu a gwella a byddwn yn adolygu ein dull mewn ymgynghoriad â’n tenantiaid a’n rhanddeiliaid. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein tenantiaid a’u teuluoedd yn ei chwarae wrth reoli’r dalgylch a’r cynefinoedd dŵr pwysig sy’n rhan o Gwm Elan ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan ein cymuned ffermio ddyfodol cryf yma. Mae’n siom inni, ar yr achlysur hwn, bod y broses a ddefnyddiwyd gennym wedi achosi gofid i deulu tenant.

Yn anffodus, mae’r amserlenni bellach yn golygu na allwn gwblhau’r broses osod cyn 15 Mai 2024 a fyddai wedi caniatáu i denant gael rheolaeth dros y tir at ddibenion Cynllun y Taliad Sylfaenol 2024.  O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a’r goblygiadau y gallai’r cynllun eu cael ar gyllid ffermydd, y cynnig presennol yw ailosod y daliad yn gynnar yn 2025 er mwyn caniatáu i ddarpar ymgeiswyr adolygu’r holl ffactorau perthnasol yn eu cynigion.

The post Datganiad gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Ebrill 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-ebrill-2024/ Thu, 28 Mar 2024 16:19:52 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=7734 Croeso i rifyn mis Ebrill o Olwg ar Wybren y Nos lle byddwn yn rhoi manylion i chi am y pethau i’w gweld yn ystod y mis hwn....

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Ebrill 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i rifyn mis Ebrill o Olwg ar Wybren y Nos lle byddwn yn rhoi manylion i chi am y pethau i’w gweld yn ystod y mis hwn.

Fe fydd mis Ebrill yn dechrau gyda diffyg llwyr ar yr haul – ond yn anffodus, ni fyddwn yn gallu gweld y diffyg ar dir mawr y DU, ond fe fydd pobl lwcus yng ngorllewin Iwerddon yn gallu gweld rhan ohono o 8yh tan y machlud.

Fe fydd hi’n tywyllu oddeutu 10yh ar ddechrau’r mis a 11yh ar y diwedd.

Am 10yh, y cytserau sy’n drechol yn wybren y nos yn ystod mis Ebrill yw’r Arth Fawr, sydd fri yn yr wybren, gyda’r Llew a’r Forwyn wedi’u lleoli’n dda ar gyfer gallu gweld y meysydd yn llawn o gyfoeth yr alaethau. Mae Orion yn parhau i suddo’n isel i’r gorwel gorllewinol, gydag Ercwlff a Thelyn Arthur, cytserau’r haf, yn codi yn y dwyrain.


Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 8fed o Ebrill a’r Lleuad Lawn ar y 24ain o Ebrill.

Cawod o Sêr Gwib Lyrid

Ar yr 22ain a’r 23ain o Ebrill, fe fydd y gawod o sêr gwib Lyrid ar ei hanterth – fodd bynnag efallai y bydd goleuni oddi wrth y lleuad sydd bron yn llawn yn ein hatal rhag weld y cawodydd gwanaf.  Maent yn weledol o’r 14eg –  30ain o Ebrill, felly mae’n werth gwylio’r wybren am sêr gwib yn ystod y cyfnod hwn pan na fydd golau’r Lleuad yn amharu ar yr amser gwylio.  Cysylltir y Lyridau â’r Gomed Thatcher gyda’r pelydr wedi’i leoli yng nghytser Lyra.

Tymor y Galaethau


Fe adwaenir mis Ebrill yn y DU fel tymor y galaethau.  Mae galaethau’n cynnwys casgliad wedi’i rwymo gan ddisgyrchiant o sêr, nwyon, llwch a phlanedau, ac maent yn dod mewn pob siâp a maint.  Fe all rhai galaethau ond cynnwys miloedd o sêr, ac eraill yn gallu cynnwys triliynau o sêr; yr alaeth fwyaf rydym wedi darganfod cyn belled yn 2022 yw ESO 383-76, sydd 1.76 miliwn o flynyddoedd golau mewn diamedr, sy’n 17 gwaith yn fwy na’n Llwybr Llaethog ni!  Oherwydd cyd-ddisgyrchiant, fe all galaethau grwpio gyda’i gilydd gan ffurfio clystyrau. 

(Llun: ESO 383-76 gan y DESI Legacy Imaging Surveys, Data Release 10.)


Mae dwsinau o alaethau sy’n weledol trwy delesgop bach, o gytser isel Y Forwyn, trwy’r Llew, Coma Berenices, Canes Venatici hyd at yr Arth Fawr.  Fe fydd rhai yn edrych fel smotiau niwlog, llwyd, yn wahanol i sêr, ac eraill efallai yn datgelu breichiau troellog hynod, llwybrau o lwch a chreiddiau llachar.  Mae’n amser gwych o’r flwyddyn i brofi pŵer casglu golau eich telesgop a mynd allan i wybren dywyll i weld faint o alaethau y gallwch chi eu darganfod.  Fe allwch ddefnyddio apiau megis Stellarium i ddarganfod ble mae’r galaethau hyn yn gorwedd a’u gweld dros eich hunan.


Fe allwch fod yn sganio’r wybren gyda’ch telesgop ac yn sydyn, fe ddaw grŵp o ‘fuzzies gwan’ i mewn i’ch sylladur fel y dangosir isod gan Michael Vlasov o deepskywatch.com.  Mae’r ffaith bod y ‘blobiau’ hyn yn alaethau sy’n cynnwys miliynau a thriliynau o sêr, sy’n ddwsinau o flynyddoedd golau i ffwrdd, ac efallai sy’n cynnwys system blanedol fel un ein hun yn gwneud i rywun arswydo wrth feddwl am y peth. 

Rhannir y braslun gan ganiatâd caredig Michael Vlasov, deepskywatch.com.

Yr Alaeth Drobwll (Mesier 51)

RA 13h 29m 53s | Dec +47° 11′ 43″

Un gwrthrych dymunol i’w astudio yw’r Alaeth Drobwll yng nghytser Canes Venatici, neu Messier 51.  Mewn gwirionedd dwy alaeth ryngweithiol ydynt.  Fe ddatgelodd y Telesgop Hubble ein bod yn gweld un alaeth yn mynd tu ôl i un arall.  Yr alaeth llai i’r de yw NGC 5195 ac mae wedi bod yn symud yn araf heibio ei gymydog mwy, gan greu grym llanw sy’n tynnu ar M51, gan achosi i’w fraich gwyrdroi.  Mae’r grym hefyd yn sbarduno ffurfiant o sêr.

Gallwch ddefnyddio dull hopian sêr.  Edrychwch am gytser Yr Arth Fawr ac edrychwch am y seren sydd ar ddiwedd ‘ddolen y badell’ a elwir yn Alkaid – chwiliwch amdano yn eich darganfyddwr a symudwch eich telesgop yn araf ychydig i’r dde hyd nes i chi weld smotyn gwan iawn – rhowch hwn yn y canol gan edrych arno trwy’ch sylladur.  Fe fydd telesgop pum modfedd yn datgelu smotyn aneglur, ond trwy delesgop gydag agorfa o wyth modfedd neu fwy, fe fyddwch yn dechrau gweld y breichiau troellog o’r alaeth fwy ynghyd â’i chydymaith.  Defnyddiwch golwg wedi’i osgoi er mwyn gweld rhagor o fanylion.

Goleuni Sidyddol

Mae dal digon o amser i weld y Goleuni Sidyddol anhygoel.

Ymwelwch â Pharc Rhyngwladog Wybren Dywyll Cwm Elan ac edrychwch allan am y côn hyfryd o oleuni awyrol sy’n disgleirio’n groesgornel i mewn i’r wybren orllewinol sy’n tywyllu.  Mae hwn ar ei orau oddeutu awr ar ôl y machlud.

Cytser y Mis – y Llew

Fe ellir gweld cytser y Llew yn y gwanwyn wedi iddi nosi.  Y ffordd hawsaf i’w weld yw edrych am farc cwestiwn am yn ôl (asterism) yn wybren y nos.  Gelwir y seren ar waelod yr asterism yn Algieba sy’n golygu ‘Mwng y Llew’.  Edrychwch am y seren ddisglair Regulus (sy’n golygu seren frenhinol) ac fe ddylech fod yn gallu gweld gweddill corff gorweddol y llew.

Yn yr hen anser, fe adwaenwyd y cytser hwn yn gyffredinol fel y llew, o’r Eifftwyr hynafol a oedd yn parchu’r cytser hwn, y Persiad hynafol hyd at fytholeg y Rhufeiniaid a’r Groegiaid.

Ym mytholeg Groegaidd, roedd y Llew yn cynrychioli’r Llew Nemean a oedd wedi achosi llawer o broblemau yn ei amser.  Roedd ganddo’r ddawn o fynd â phobl i’w wâl ac yna herio’r rhyfelwyr i ddod i’w hachub.  Ercwlff oedd yr unig un oedd yn gallu trechi’r llew yma, gan roedd ganddo fwng euraid a oedd yn ei warchod rhag gael ei ladd gan arfau.  Rhoddodd Ercwlff ei arfau i lawr gan drechu’r llew a’i ddwylo noeth.    

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Ebrill 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Tir fferm I’w osod drwy dendre https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/tir-fferm-iw-osod-drwy-dendre-2/ Wed, 20 Mar 2024 11:32:19 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=7624 Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn cynnig cyfle prin i rentu 348 erw (neu tua) ar Ystâd Elan.  Mae Cynefin Ddefaid Tŷ Mawr yn ymestyn i ryw 140.80 hectar...

The post Tir fferm I’w osod drwy dendre appeared first on Elan Valley.

]]>

Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn cynnig cyfle prin i rentu 348 erw (neu tua) ar Ystâd Elan. 

Mae Cynefin Ddefaid Tŷ Mawr yn ymestyn i ryw 140.80 hectar (347.90 erw) o borfa barhaol heb derfyn sy’n ffinio â Thir Comin Cwmdauddwr ac mae wedi’i leoli ym mhen gogleddol Cronfa Ddŵr Graig Goch ger Ffordd Mynydd Aberystwyth a thua 5 milltir o dref farchnad Rhaeadr. Mae gan y cynefin ddefaid agored hwn gorlannau trin defaid efo mynediad uniongyrchol i gerbydau oddi ar Ffordd Mynydd Aberystwyth.  Mae’r daliad yn gorwedd yn gyfan gwbl o fewn yr ardal a ddynodir yn “Llai Ffafriol” gan gynnwys dynodiadau fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig.

Mae’r daliad yn cael ei gynnig i’w osod mewn grym o 13 Mai 2024 fel Tenantiaeth Busnes Fferm o dan ddarpariaethau Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995.

Bydd y daliad ar gael i’w weld drwy apwyntiad yn unig.   Mae’r tendrau’n cau ar 12:00 hanner dydd ddydd Mawrth 9 Ebrill 2024.

Cysylltwch â Swyddfa Ystad Elan am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad.

The post Tir fferm I’w osod drwy dendre appeared first on Elan Valley.

]]>