Uncategorized | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/category/uncategorized-cy/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Tue, 04 Feb 2025 08:37:22 +0000 cy hourly 1 Llygaid ar Awyr y Nos – Chwefror 2025 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/llygaid-ar-awyr-y-nos-chwefror-2025/ Thu, 30 Jan 2025 16:06:27 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=9013 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd i’w weld yn yr wybren ym mis Chwefror. Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae hi’n tywyllu...

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Chwefror 2025 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd i’w weld yn yr wybren ym mis Chwefror.


Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae hi’n tywyllu tua 6.58pm ar ddechrau’r mis ac am 7.44pm erbyn y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Golygfa awyr gyfan o’r cytserau o 10pm ym mis Chwefror o in-the-sky.org

Yn wynebu’r de am 10pm, byddwch chi’n gweld cytserau’r Efeilliaid, y Cranc a’r Canis Major. Mae’r Orïon nerthol a chytserau eraill y gaeaf sef y Cerbydwr, y Tarw, a’r Lepus yn symud i’r de-orllewin gan greu lle i gytserau gwanwn y Llew, y Forwyn a’r Boötes wrth iddynt godi yn y dwyrain. Mae’r Arth Fawr yn codi’n uwch i awyr y nos yn hwyr yn y gaeaf/gwanwyn hyd nes iddo gyrraedd yr anterth yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Digwydd y Lleuad Lawn ar 12fed Chwefror a’r Lleuad Newydd ar 28 Chwefror.

Cytser y Mis

Bob mis, byddwn yn rhoi sylw i gytser a’r fethodoleg y tu ôl iddo. Mae 88 o gytserau a gydnabyddir gan IAU yn awyr y nos a tua 36 sydd i’w gweld yn hemisffer y gogledd. Gyda dyfodiad gwyddoniaeth, meddwl yn gritigol a rhesymegol, a mwy o ffocws ar y byd arsylladwy, nid ydym yn defnyddio awyr y nos i gynorthwyo’r calendr ffermio, ar gyfer llywio neu gyfleu gwerthoedd cymdeithasol neu grefyddol. Mae rhai o enwau’r 88 o gytserau a gydnabyddir gan IAU yn filoedd o flynyddoedd oed. Felly, ewch allan i weld a allwch chi adnabod y cytserau hyn. Yr amser gorau i weld pob cytser y byddwn yn rhoi sylw iddynt yw tua 90 munud ar ôl machlud.

Ym methodoleg Groegaidd, cynrychiola’r cytser hwn yr efeilliaid Castor a Pollux, nad oedd modd eu gwahanu ac fe’u galwyd yn ‘Dioscuri’, sy’n golygu ‘meibion Sews’. Yn yr un modd â’r holl ffigurau ym Methodoleg Groegaidd, roeddynt yn enwog am eu cryfder mawr a’u sgiliau niferus. Gwyddom iddynt ddod yng nghwmni Jason a’r Argonawtiaid ar ei fordaith enwog i chwilio am y Cnu Euraid. Un diwrnod, lladdwyd Castor mewn brwydr. Gofynnodd Pollux, nad oedd modd ei gysuro yn dilyn marwolaeth ei annwyl frawd, i Sews wneud Castor yn anfarwol. Caniataodd Sews ei gais ar un amod: y byddai Pollux hefyd yn dod yn anfarwol a bod y brodyr yn treulio hanner eu hamser ar y ddaear a’r hanner arall yn y nefoedd. Cytunodd Pollux i hyn a gosododd Sews nhw yn y sêr.

Gweler Chwe Phlaned mewn Un Noson

Manteisiwch ar y cyfle i ganfod pob un o’r chwe phlaned ym mhythefnos cyntaf mis Chwefror.

Ar ddechrau’r mis, pan fydd tywyllwch yn taro, mae Sadwrn i’w weld yn isel yn y Gorllewin, ac yna Gwener lachar iawn. Gorwedd Neifion yn agos at Wener ac mae Wranws mewn safle da yn y de, wrth ymyl Iau yng nghytser y Tarw, gyda’r Cytser Sêr Pleaides rhyngddynt.

Mae Mawrth yn cwblhau’r orymdaith wybrennol, sydd wedi’i gosod yng nghytser yr Efeilliaid.

Mae Sadwrn, Iau a Mawrth i’w gweld i’r llygaid heb gymorth ond mae angen telesgop, amynedd ac awyr dywyll i weld cewri rhew Wranws a Neifion. Er bod y ddwy tua phedair gwaith yn fwy na’r Ddaear, maen nhw’n gorwedd 2.8 biliwn a 4.5 biliwn km o’r Ddaear!

Trwy delesgop, bydd Wranws yn ymddangos fel pelen sefydlog o laswyrdd a’r Neifion llawer mwy heriol fel pigiad pin tebyg i seren o las.

I gwblhau’r goron driphlyg o weld yr holl blanedau yng Nghysawd yr Haul, bydd Mercwri yn codi yn y gorllewin yn y nos tuag at ddiwedd y mis a daw’n amlycach fel gwrthrych nos o wythnos ddiwethaf Chwefror, gan gyrraedd estyniad dwyreiniol mwyaf ar 9 Mawrth.

Cytser Bwcl Esgid (M35)

Right ascension: 06h 08m 54.0s
Declination: +24° 20′ 00″
Mae Messier 35, sy’n cael ei alw’n fwy cyffredin yn Gytser Bwcl Esgid, yn gytser agored o sêr sydd wedi’i leoli ar ‘droed’ chwith un o’r efeilliaid yng nghytser yr Efeilliaid. Gorwedd 2,970 o flynyddoedd golau i ffwrdd ac mae tua maint y Lleuad lawn o’n safbwynt maes golwg.

I’w ganfod gyda’ch ysbienddrych, edrychwch am 1 Geminorum, neu droed chwith Castor a sganiwch eich ysbienddrych yn araf tua’r dwyrain os na allwch ei weld o fewn eich maes golwg.

Cafodd ei ddarganfod yn gyntaf ym 1745 gan y seryddwr o’r Swistir Philippe Loys de Chéseaux, a gyflawnodd gymaint yn ei fywyd byr, gan gynnwys ysgrifennu llyfrau ar ei arsylwadau a’i ddarganfyddiadau o gomedau a nifylau. Bu farw yn 33 oed.

Credit: Two Micron All Sky Survey (2MASS)

Nifwl Llew (NGC 2392)

RA 7h 29m 11s | Dec +20° 54′ 42″

Yr Almaenwr William Herschel, seryddwr a chyfansoddwr medrus a ddarganfu NGC 2392 yn 1787. Yn gryno, roedd yn gyfarwydd am iddo ddarganfod planed Wranws a’i lleuadau, damcaniaethu am gyfansoddiad nifylau ac wedi sefydlu seryddiaeth serol, fe wnaeth hefyd gatalogio dros 2500 o wrthrychau wybrennol a 9,000 o sêr, ymhlith llawer o lwyddiannau eraill.

Gorwedd NGC 2392, a elwir yn Nifwl y Llew neu Nifwl Wyneb Clown, 6500 o flynyddoedd golau oddi wrth gytser yr Efeilliaid ac mae’n nifwl planedol.

Digwydd nifwl planedol pan fydd seren mas isel, hen yn dechrau colli tanwydd; gan ehangu i gewri coch a bwrw heibio’i haenau allanol. Wrth i’r craidd gyfyngu, mae pelydredd yn cael ei ryddhau dros dro, gan ïoneiddio’r haenau allanol hynny a pheri iddynt oleuo. Rhagwelir y bydd ein haul ein hunain yn marw’r ffordd hon; gan ei bod o fas gweddol isel. Bydd sêr sydd 8 gwaith mas ein Haul yn gorffen eu bywydau yn fwy dramatig; gan ffrwydro fel uwchnofa ac yn ffurfio nifwl – mae hyd yn oed sêr mwy yn cwympo i dwll du.  

Credyd: ASA, ESA, Andrew Fruchter (STScI), a’r tîm ERO (STScI + ST-ECF)

Trwy delesgop bach, mae’n debyg i ben wedi’i amgylchynu gan fwng golau niwlog. Gallai telesgop mwy ddatgelu awgrym bychan o ffilamentau.

Credyd: Michael Vlasov o Deep Sky Watch

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Chwefror 2025 appeared first on Elan Valley.

]]>
Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/curlew-monitoring-volunteer-project/ Sat, 30 Nov 2024 13:28:18 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8839 Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.

The post Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr appeared first on Elan Valley.

]]>

Ydych chi’n caru’r awyr agored a chadwraeth?


Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.


Mae’n bwysig bod gylfinirod yn cael eu hadnabod a lle bo hynny’n bosibl, darparwch amddiffyniad yn ystod y tymor bridio a nodwch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus wrth fagu eu hifanc.

Os gallwch chi helpu, cysylltwch â ni ar volunteering@elanvalley.org.uk

Ffotograff: ©Ian McFarlane

The post Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr appeared first on Elan Valley.

]]>
Llygaid ar Awyr y Nos – Rhagfyr 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/llygaid-ar-awyr-y-nos-rhagfyr-2024/ Sat, 30 Nov 2024 13:17:48 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8819 Croeso i ddiweddariad y mis hwn o beth sydd yn yr wybren ar gyfer mis Rhagfyr. Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae’n tywyllu hyd yn oed...

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Rhagfyr 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn o beth sydd yn yr wybren ar gyfer mis Rhagfyr.


Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae’n tywyllu hyd yn oed yn gynt y mis hwn – 6.10pm ar ddechrau’r mis a 6.18pm ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Golwg o gytserau’r wybren gyfan o hanner nos ym mis Rhagfyr o in-the-sky.org

Am hanner nos, y cytserau sy’n dominyddu wybren ddeheuol y nos yn ystod mis Rhagfyr yw Orion, y Cerbydwr, y Tarw a’r Efeilliaid.

Mae Andromeda, Perseus a Chadair Dôn mewn safle da yn yr awyr orllewinol. Mae cytserau’r haf Dolen yr Alarch a Thelyn Arthur yn machlud ar y gorwel gorllewinol ac mae cytserau’r gwanwyn Trofan y Cranc a’r Llew yn codi yn y dwyrain.

Digwydd y Lleuad Lawn ar 15fed Rhagfyr. Mae dwy Leuad Newydd y mis hwn: y cyntaf ar 1af Rhagfyr a’r ail, a elwir hefyd yn lleuad ddu, ar 30 Rhagfyr. 

Mae Heuldro’r Rhagfyr ar 21ain Rhagfyr 2024, sef y diwrnod byrraf ar 7 awr, 39 munud â’r noson hiraf o 12 awr a 5 munud. Digon o amser i syllu ar y sêr!

Credyd: Sorcha Lewis

Cawod o Sêr Gwib Geminids

Disgyn Cawod o Sêr Gwib Geminids rhwng 4ydd a 20fed Rhagfyr, ac yn cyrraedd uchafbwynt yn hwyr yn y nos ar 14eg Rhagfyr ac yn gynnar ym more 15fed Rhagfyr.

Gwŷr ei fod yn cynhyrchu 150 o sêr gwib ar ei hanterth, mae’r gawod wib yn gyflym, yn llachar ac yn lliwgar, gan oleuo’r awyr gyda sêr gwib coch, gwyrdd, gwyn, melyn a glas. Yn rheiddio o gytser yr Efeilliaid, credir bod y gawod yn tarddu o’r gweddillion a adawyd gan asteroid 3200 Phaethon. Yn anffodus, bydd y Lleuad Lawn yn llesteirio gweld cawod o sêr gwib yn ei llawnder felly mae’n werth edrych i fyny yn ystod y dyddiau cyn ac ar ôl yr anterth.

Credyd: NASA/JPL

Y Lleuad a Fenws

Ar 4ydd Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Fenws ar orwel de-orllewin isel.

Bydd y Lleuad wedi’i oleuo’n 12% felly edrychwch am lewyrch hyfryd y Ddaear, lle mae golau’r haul yn adlewyrchu oddi ar wyneb y Ddaear, gan oleuo rhan dywyllaf y Lleuad. Digwydd hyn am ychydig ar ôl machlud haul.

Credyd: Sam Price

Ar noson 14eg Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Iau ar bellter o 5°26′.  Mae hyn ychydig dros led tri bys wedi’u dal gyda’i gilydd a’u dal hyd braich.


Ar noson 18fed Rhagfyr, bydd y Lleuad yn pasio’n agos at Fawrth. Yr amser gorau i’w weld byddai yn y bore cyn iddi wawrio.
 


Bydd y Lleuad yn pasio o flaen (cuddio) Mawrth tua 9.30am ond yn anffodus bydd golau dydd yn ei gwneud hi’n anodd ei weld.

Ar gyfer y rheini â thelesgopau bach, efallai y byddwch chi’n gallu ei weld os ydych chi’n gwybod ble i edrych, yn enwedig wrth i Fawrth gyrraedd ei wrthsafiad, gan ymddangos ar ei fwyaf a’i ddisgleiriaf (16 Ionawr 2025), sy’n golygu bod y cyfle i weld yr argeliad hwn yn dda.

Bydd Mawrth yn ymddangos o ystlys de-ddwyreiniol y Lleuad am 10:16am ond erbyn yr amser hwn, mae’r ddau wrthrych yn isel iawn ar y gorwel.

Credyd: Stellarium

Nifwl Orion (M42) 

RA 5h 35m 17s | Dec -5° 23′ 28″

Mae’n werth crybwyll Nifwl Orion adeg yma’r flwyddyn gan mai dyma’r nifwl harddaf i’w hastudio, p’un a oes gennych chi ysbienddrych neu delesgop.

Hyd yn oed heb un o’r rhain, mae’r nifwl hwn yn ymddangos fel seren ddisglair, foliog, fel tlws yng ngwain cleddyf sy’n hongian o wregys Cytser Orion.

Credyd: NASA ESA M. Robberto Space Telescope Science Institute ESA a Thîm Prosiect Hubble Space Telescope Orion Treasury



Mae mewn safle da yn yr awyr de-ddwyreiniol / deheuol tua 10pm yn ystod mis Rhagfyr. Mae’r cytser hefyd yn hawdd ei ganfod gan mai ef yw un o’r rhai disgleiriaf a mwyaf cyfarwydd.

Y ffordd hawsaf o adnabod y cytser hwn yw edrych am dair seren yn agos at ei gilydd ac â’r un pellter rhyngddynt sy’n cynrychioli Llathen Fair.




Ychydig islaw iddi y mae tair seren fechan sy’n hongian yn fertigol fel cleddyf. Edrychwch am ddwy seren lachar sydd y naill ochr i’r llall o’r cleddyf, gan gynrychioli traed Orion a thair uwchlaw’r gwregys, sy’n cynnwys yr ysgwyddau a’r pen. Dylai debygu i awrwydr onglogs.

Credit: Sam Price



Trwy ysbienddrych 10×50, ymddengys bod y Nifwl Orion yn edrych fel proffil ochr blodyn agored bychan, gyda chraidd llachar ac amlinelliad aneglur, tenau. Mae’r nifwl yn cydrannu yn hyfryd trwy delesgopau o agorfa chwe modfedd ac uwch. Trwy delesgopau mwy, gellir gweld ffilamentau nifylaidd a gyda llygaid ifanc, fe welwch ychydig o liw.

Credyd: Michael Vlasov o Deepskywatch.com

37 Clwstwr (NGC 2169) 

RA: 06h 08m 24.3s | Dec:  +13° 57′ 53″

Dyma wrthrych hwyliog i’w ddarganfod. Wedi’i leoli 3600 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, mae’r clwstwr agored hwn wedi’i leoli yng nghytser Orïon ac mae’n heriol i’w ganfod. Edrychwch am seren gawraidd goch Betelgeuse ac yn y wybrennau tywyll, byddwch chi’n gweld braich Orïon wedi’i chodi.

Defnyddiwch eich cwmpas canfod i leoli’r ddwy seren wrth y ‘cymal penelin’ a’i symud i lawr ychydig hyd nes i chi weld clwstwr tynn, bychan o sêr.

Edrychwch drwy eich sylladur; dylai’r sêr hyn ymdebygu i’r rhif 37, neu’n dibynnu ar y telesgop, XY, neu LE neu hyd yn oed fersiwn drych o’r rhif 37.

Credyd:  ScottRak – Own work CC BY-SA 3.0

Clwstwr coeden Nadolig (NGC 2264)

RA:  06h 42m 20s | DEC: +09° 52’ 13”
Gorwedd y clwstwr agored hwn, sy’n llawn sêr ifanc, 2350 o flynyddoedd golau oddi wrthym ac mae wedi’i leoli yng nghytser Monoceros.

Edrychwch am y seren goch Betelgeuse sy’n cynnwys ysgwydd ochr dde cytser Orion. Edrychwch am y seren llaw chwith sy’n droed i gytser yr Efeilliaid a gorwedd Cytser Coed Nadolig ychydig bellter o’r seren honno. Defnyddiwch gwmpas canfod eich telesgop i leoli clwstwr tynn, bach o sêr ac yna edrychwch drwy’ch sylladur i’w weld yn fanwl iawn.


Gellir gweld y sêr yn hawdd ond gallai’r Côn Nifwl fod yn ychydig o her – yn bennaf gan ei fod yn fach iawn! Defnyddiwch eich golwg ochr i weld a allwch chi weld y côn.

Gallwch weld o’r ddelwedd bod y clwstwr agored hwn yn debyg i olau ar goeden Nadolig. Ar ben y goeden, gorwedd y Côn Nifwl ar bellter o 2700 o flynyddoedd golau. Digwydd bod, ymddengys bod y ddau wrthrych hyn yn ffurfio’r siâp Nadoligaidd hwn o’n safbwynt yng Ngalaeth y Llwybr Llaethog.

Credyd: ESA


Mae’r NGC2264 yn nifwl allyriad lle ffurfiodd y sêr, ond dim ond camerâu sy’n gallu eu cipio. 

Ym mis Rhagfyr 2023, creodd NASA animeiddiad lle cafodd ffotograff o’r sêr ifanc yn allyrru pelydrau X eu troshaenu ar yr allyriad nifylaidd. Gallwch ei weld trwy dapio ar y ddelwedd.

Gallwch weld dwy o’r tair cydran hon yn weledol gan ddefnyddio telesgopau wyth modfedd neu fwy – cyhyd â’ch bod yn ddigon pell o lygredd golau.

Credyd: NASA

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Rhagfyr 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Llygaid ar Awyr y Nos – Tachwedd 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/llygaid-ar-awyr-y-nos-tachwedd-2024/ Fri, 01 Nov 2024 15:50:12 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8670 Croeso i ddiweddariad y mis hwn o beth sydd yn yr wybren ar gyfer mis Tachwedd. Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae tywyllwch yn cwympo hyd...

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Tachwedd 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn o beth sydd yn yr wybren ar gyfer mis Tachwedd.

Ym Mharc Awyr Dywyll Ryngwladol Cwm Elan, mae tywyllwch yn cwympo hyd yn oed yn gynharach y mis hwn – 6.40pm ar ddechrau’r mis a 6.10pm ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10pm, y cytserau sy’n dominyddu yn awyr y nos ddeheuol yn ystod mis Tachwedd yw Pegasws, Andromeda, Y Triongl, Y Pysgod ac Yr Hwrdd.

Mae Persews, Y Cerbydwr a’r Tarw mewn safle da, mae’r Alarch a’r Ddraig yn dal i fod yn uchel yn yr awyr orllewinol. Mae cytserau haf Saethlin, Telyn Arthur a Ercwlff wedi’u gosod ar y gorwel gorllewinol ac mae cytserau gaeaf Orïon, Yr Efeilliaid a Monoceros yn codi yn y dwyrain. Mae’r Arth Fawr, er ei bod yn gylchol, yn gorwedd yn isel ar Orwel y Gogledd, gan wneud y cytser llachar hwn yn bwnc astro-ffotograffiaeth tirwedd da.

 Y Dyfrwr a’r cytser gwan isel o Capricornus. Mae Seffews mewn safle da. Mae cytserau haf Ercwlff, Aquila, Y Saethydd a Thelyn Arthur yn symud tua’r gorllewin ac, yn y dwyrain, mae cytserau gaeaf Y Cerbydwr a’r Tarw yn dechrau codi.

Mae’r Lleuad Newydd yn disgyn ar 1 Tachwedd a’r Lleuad Lawn ar 15 Tachwedd.

Cawod o Sêr Gwib Leonidau

Mae Cawod o Sêr Gwib Leonidau yn weithredol rhwng 6 a 30 Tachwedd ac yn cyrraedd uchafbwynt ar noson 18 Tachwedd, gyda 15 o sêr gwib yr awr (ZHR). Gelwir y pwynt y mae’r sêr gwib yn ymddangos ohono yn rheiddbwynt ac mae wedi’i leoli yng Nghytser y Llew.

Gan fod yr anterth yn digwydd ychydig ddyddiau ar ôl y Lleuad Lawn, dim ond y rhai disglair iawn y byddwch chi’n gallu eu gweld eleni, sy’n teithio’n gyflym ac yn gadael cytiau hir.

Mae gan y gawod o sêr gwib hon gylch diddorol: bob 33 mlynedd mae’r ZHR yn cynyddu’n ddramatig gan fod ffrwydrad ac yn aml gall fod cannoedd lawer o sêr gwib yr awr. Roedd y stormydd olaf o’r fath yn 1799, 1833, 1866, 1966 a 1999 -2001. Roedd storm 1833 yn nodedig gan fod 3000 o sêr gwib yr awr yn cael eu gweld gan wylwyr brawychus:
“Ar noson Tachwedd 12 -13, 1833, torrodd tymestl o sêr yn cwympo dros y Ddaear… Sgoriwyd yr awyr i bob cyfeiriad gyda thraciau disglair a goleuwyd gyda phelenni tân mawreddog. Yn Boston, amcangyfrifwyd bod amlder meteorau tua hanner y fflochiau eira mewn storm eira ar gyfartaledd. Roedd eu niferoedd… ymhell y tu hwnt i gyfrif; ond wrth wanhau, ceisiwyd cyfrifo, a daethpwyd i’r casgliad ar sail y gyfradd lai o lawer honno, bod yn rhaid bod 240,000 wedi bod yn weladwy yn ystod y naw awr y buont yn parhau i ddisgyn.” – Agnes Clerke, Awdur Seryddiaeth Fictoraidd
Ffigwr 1: toriad coed o’r 19eg ganrif gydag argraffiad o storm ysblennydd Tachwedd 13, 1833 Leonid. Diolch i Eglwys Adfentydd y Seithfed Dydd. Ymsefydlwyr cynnar yn edrych i fyny mewn syndod ar awyr yn llawn sêr gwib.

Credir y byd ein ‘ffrwydrad’ Leonid nesaf mewn tua deng mlynedd felly gadewch i ni obeithio ei fod yn un da!

Stellarium

Y Planedau

Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae Iau a Sadwrn mewn safle da ac maent yn werth eu hastudio trwy delesgopau.

Mae Sadwrn mewn lle da yn y de-orllewin ac mae Iau yn codi yn awyr y de-ddwyrain am 6.30pm.

Os nad ydych erioed wedi gweld cysgod ar wyneb cawr nwy, ar 4 Tachwedd, hyfforddwch eich telesgopau ar Sadwrn pan fydd cysgod y lleuad nerthol Titan yn mynd ar ei draws rhwng 21.05 a 22:50 – efallai y byddwch yn sylwi ar ric bach ar ymyl Sadwrn. Bydd cyfle arall i weld hyn ar 20 Tachwedd rhwng 19:42-22:49, lle mae cysgod Titan yn edrych fel blob du yn symud ar draws wyneb Sadwrn.

Mae symudiadau cysgodol hefyd yn digwydd ar Iau yn rheolaidd. Mae un i gadw llygad amdano ar 10 Tachwedd, lle gallwch weld cysgod Io yn pasio ar draws wyneb Iau, gan ddechrau am 20:20 ac yn gorffen am 22:33.

Bydd Gwener yn ymddangos yn isel yn awyr y de-orllewin ar ôl machlud haul.

Mae Mawrth yn blaned mewn safle da y mis hwn, gan godi yn y gogledd-ddwyrain am 21:10.

Clwstwr Tylluanod

Mae cytser Cadair Dôn yn cynnwys rhai clystyrau agored hyfryd, y gellir eu gweld i gyd gydag ysbienddrych 10×50. Un y gallwn argymell eich bod yn edrych amdano’r mis hwn yw Clwstwr y Tylluanod (NGC 457).

Trwy ysbienddrych 10×50, byddwch yn gallu gweld dau ‘lygad‘ llachar y clwstwr a llinell o sêr sy’n berpendicwlar i’r llygaid. Os oes gennych ysbienddrychau mwy, mae corff y dylluan yn dod yn fwy amlwg a gellir gweld ‘adenydd’.

glwstwr ET oherwydd ei debygrwydd i’r cymeriad estron o’r ffilm ffuglen wyddonol adnabyddus o’r 1980au.
Wedi’i ddarganfod gan William Herschel, gallwch ddod o hyd iddo drosoch eich hun trwy edrych am y seren Ruchbah. Wrth edrych ar y seren honno, codwch eich ysbienddrychau at eich llygaid a sganiwch yr ardal uniongyrchol nes i’r clwstwr ddod i’r golwg.

Credyd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com

Ysbryd Mirach

Os oes gennych delesgop bach, gallwch chwilio am gydymaith diddorol i seren tra byddwch yn y rhanbarth Andromeda/Pegasws.

I ddod o hyd iddo, edrychwch am Sgwâr Pegasws a’i seren chwith uchaf. Cyfrifwch ddwy seren ar y chwith, a’r ail seren yw Mirach. Y ffordd i ddweud mai hi yw’r seren iawn yw edrych am ddwy seren sydd yn union uwch ei phen, a gwrthrych niwlog sef Galaeth Andromeda.

Rhowch eich telesgop ar y seren Mirach a defnyddiwch eich golwg ar dro i chwilio am gydymaith ysbrydol sy’n gorwedd yn agos at y seren.

Credyd: Michael Vlasov from www.deepskywatch.com

Mae NGC 404 yn alaeth sy’n gorwedd 11 miliwn o flynyddoedd golau o’r Ddaear. Y rheswm pam mae’n edrych yn bŵl trwy delesgopau yw bod disgleirdeb Mirach yn lleihau ein golwg o’r alaeth hwn. Er eu bod yn ymddangos yn agos at ei gilydd yma ar y Ddaear, mae tua 10,999,800 o flynyddoedd golau rhyngddynt!

Mae’r ddelwedd gyntaf ar y dde yn dangos Mirach a NGC 404 – galaeth sy’n lensaidd ei siâp ac nad oes ganddi freichiau troellog. Credwyd hefyd ei fod yn hen iawn ac yn isel wrth gynhyrchu sêr nes i’r prosiect GALEX (NASA Galaxy Evolution Explorer) ddefnyddio telesgop uwchfioled-sensitif i ddatgelu cylch nwy a nifer o sêr poeth, ifanc. Mae astudiaethau newydd wedi datgelu bod y ffurfiant sêr newydd hwn o ganlyniad i NGC 404 yn gwrthdaro â galaeth gyfagos amser maith yn ôl.

Credyd: NASA/JPL – Caltech

Yn weledol, efallai y gwelwch wrthrych gwan yn agos iawn at Mirach sydd bron yn dynwared arteffact lens o ’ôl-ddelwedd’ y cawr coch, a dyna pam y’i gelwir yn ‘Ysbryd y Mirach ‘.

Credyd: Michael Vlasov from www.deepskywatch.com

The post Llygaid ar Awyr y Nos – Tachwedd 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Gwaith i Wella’r Bont https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/gwaith-i-wellar-bont/ Fri, 04 Oct 2024 11:04:59 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8500 Llwybr Cwm Elan ar gau rhwng y Garreg Ddu a Phenbont 14 Hydref i 31 Hydref 2024 Oherwydd gwaith i wella dwy bont ar Lwybr Cwm Elan ym...

The post Gwaith i Wella’r Bont appeared first on Elan Valley.

]]>
Llwybr Cwm Elan ar gau rhwng y Garreg Ddu a Phenbont
14 Hydref i 31 Hydref 2024

Oherwydd gwaith i wella dwy bont ar Lwybr Cwm Elan ym mis Hydref, bydd angen cau rhan o Lwybr Cwm Elan..

Bydd y gwaith yma’n effeithio’n uniongyrchol ar gerddwyr a beicwyr ar nifer o lwybrau.

Y Llwybrau Cerdded o Dan Sylw

Llwybr Cwm Elan i Graig Goch

Cylch y Garreg Ddu

Y Llwybrau Beicio o Dan Sylw

Llwybr Cwm Elan

Cylch Nannerth

Y Gwersyll Rhufeinig

Y Bwthyn Du

Llwybr Epig Elan

Mae’r llwybr ar y lan arall Cronfa Ddŵr y Garreg Ddu yn ffordd arall o deithio rhwng argaeau’r Garreg Ddu a Phenbont, ond nid yw’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn na phramiau. Opsiwn arall yw defnyddio’r ffordd gyhoeddus, ond pwyll piau hi am y bydd traffig yn dod atoch ac mae’r troeon yn golygu ei bod hi’n anodd gweld cerddwyr. Cymrwch ofal.

Cofiwch fod croeso bob amser i ymwelwyr alw draw i’r ganolfan ymwelwyr i ofyn am y cyngor diweddaraf am lwybrau cerdded a beicio Cwm Elan.

The post Gwaith i Wella’r Bont appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Hydref 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-hydref-2024/ Tue, 01 Oct 2024 14:58:24 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8400 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ym mis Hydref. Mae’n tywyllu’n gynnar y mis hwn ac mae’n dda gallu syllu ar...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Hydref 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ym mis Hydref.

Mae’n tywyllu’n gynnar y mis hwn ac mae’n dda gallu syllu ar y sêr heb orfod colli cwsg.  Mae llawer yn digwydd yn ystod y mis hydrefol hwn gyda phosibilrwydd o gomed i’w weld gyda’r llygaid noeth yn ogystal â chawod o sêr gwib.

Mae’n tywyllu oddeutu 8.40yh ar ddechrau’r mis a 6.40yh ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10yh y cytserau sy’n dominyddu yn wybren nos deheuol yn ystod mis Medi yw Pegasws, y Dyfrwr a’r cytser gwan sy’n gorwedd yn isel, yr Afr.  Mae Seffews wedi’i leoli’n dda.  Mae cytser hafaidd Ercwlff, Acwila, y Saethydd a’r Delyn yn symud tua’r gorllewin, ac yn y dwyrain mae’r cytser gaeafol Auriga a’r Tarw yn dechrau codi. 

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar yr 2il o Hydref a’r Lleuad Lawn ar y 17eg o Hydref.  Fe fydd y Lleuad yn perigê (sef yr agosaf at y Ddaear) ar y 17eg o Hydref, fel arall fe’i hadwaenir ar y cyfryngau fel ‘Gorleuad’. Mae’r Gorleuad yn 30% yn fwy llachar a 14% yn fwy nag yn ystod y cyfnod cyferbyniol yr apoge, sef pan mae’r Lleuad ar ei phellaf bwynt i ffwrdd oddi wrthym yn ei horbit o’n hamgylch.  Gan fod y symudiad hwn mewn disgleirdeb a maint yn raddol, ni fyddwn yn sylwi ar y cynnydd, ond mae’n hyfryd i edrych ar y Lleuad Lawn yn codi yn yr hwyr; felly, edrychwch amdani yn codi yn y dwyrain wrth i’r Haul fachlud oddeutu 6yh ar y 17eg o Hydref.

Planedau

Mae’r hydref yn amser da ar gyfer astudio’r planedau yng nghysawd yr Haul.  Fe fydd y planedau Sadwrn ac Iau yn cynyddu mewn uchder yn ystod y tymor; yn fwy eleni nag yn y blynyddoedd blaenorol.  Fe fydd y blaned Sadwrn yn barod yn y de pan fydd hi’n nosi ac yn eistedd yng nghytser Acwariws.  Mae’r blaned Iau yn codi yn y gogledd-ddwyrain oddeutu 9.20yh.  Mae’r blaned Mawrth yn codi o 11yh ar ddechrau’r mis ac oddeutu 10yh ar y diwedd, ac wrth iddi agosáu at y gwrthwynebiad ar yr 16eg o Ionawr 2025, fe ddaw’n haws i’w gweld.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Sadwrn

Ar y 14eg o Hydref, fe fydd y Blaned Sadwrn yn mynd heibio’n agos at y Lleuad, a fydd yn 90% yn llawn.  Fe fydd yn ymddangos yn isel ar y gorwel deheuol ar ôl iddi ddechrau nosi.

Cysylltiad y Lleuad a’r Blaned Iau

Wythnos yn ddiweddarach fe fydd ailgyfle i weld cysylltiad blanedol.  Fe fydd y blaned Iau yn mynd heibio’n agos at y Lleuad, a fydd yn 83% yn llawn.  Edrychwch am y blaned Mawrth yn codi yn y gogledd-ddwyrain

Comed C/2023 A3 (Tsuchinshan-ATLAS) am 8yh ar y 14eg o Hydref.  Mae llinell goch yn dynodi orbit rhagdybiedig y gomed dros y mis nesaf. (Ffynhonnell y ddelwedd: Stellarium)

A fydd Comed Lachar yn yr Hydref?

Efallai y bydd hi’n bosibl i weld Comed C/2023 A3 (Tsuchinshan-ATLAS) gyda’r llygaid noeth yr hydref hwn. Ar adeg ysgrifennu, mae’r gomed mewn cyflwr da ac mae’r cyfle i’w gweld yn hawdd yn dda.  Edrychwch amdani yn ystod tri diwrnod cynta’r mis pan fydd yn gorwedd yn isel ar y gorwel dwyreiniol gyda’r wawr – pan fydd y gomed yn cyrraedd perihelion – (sef ei man agosaf at yr Haul) ar ddiwedd mis Medi, felly dylai fod ar ei mwyaf disglair.  Oddeutu’r 10fed o Hydref mae’n ymddangos yn isel cyn y cyfnos, yn yr wybren orllewinol, ond wrth i’r mis mynd yn ei flaen, fe fydd yn ymddangos yn uwch yn wybren y nos, ac yn mynd heibio cytserau Serpens ac Offiwchus.  Cofiwch er hynny, fe fydd y Gomed yn gwanhau felly os na fyddwch yn gallu ei gweld gyda’r llygaid noeth, ewch ag ysbienddrych tu allan a chrafwch yr ardal.  Mae ymddygiad y Gomed yn anrhagweladwy felly fe all fod yn anodd i fesur pa mor llachar y gall bod.

Cawod o Sêr Gwib Orionid

Fe fydd cawod o sêr gwib Orionid (2il o Hydref – 7fed o Dachwedd) ar ei hanterth ar noson yr 21ain o Hydref.  Fe fydd 82% o’r Lleuad crychlyd wan yn ein hatal rhag fwynhau’r gawod hon ar ei gorau, ond efallai y bydd hi’n werth mynd tu allan a cheisio ddod o hyd i’r sêr gwib mwyaf llachar;  mae rhain yn symud yn gyflym ac yn gadael traciau parhaol ar ei holau.  Llwch comedol yw’r meteorau hyn a adawyd gan yr enwog Gomed Halley wrth i’r Ddaear fynd trwy’r malurion a adawyd yn ei sgil.

Trysorau’r Ysbienddrych

Mae dwy seren liwgar y gellir eu gweld trwy ysbienddrych.

Nid oes dynodiad swyddogol ar gyfer y trysorau wybrennol disglair hyn.  Mae 30 Cygni a 31 Cygni yng nghytser yr Alarch a gellir eu gweld tra’n edrych am dair seren lachar a adwaenir fel Triongl yr Haf:  Altair, Fega a Deneb.  Mae Deneb yn Nghytser yr Alarch ac mae’r ddau wedi’u lleoli yn safle pedwar o’r gloch fel seren wan gyda’r llygaid noeth.  Codwch yr ysbienddrych at eich llygaid ac fe fydd y seren unigol hon yn cydrannu’n un seren euraidd melyn (30 Cygni) ac un seren las (31 Cygni).  Fe fyddant yn ymddangos yn llachar ac yn ddirgrynol ac yn atgoffaol o’r sêr dwyran Albireo yn yr Alarch.  Adwaenir y ddau fel seren ddwbl, yn ymddangos yn agos at ei gilydd wrth i ni eu gweld o’r Ddaear.


Her y Telesgop

RA | 1 42 19.75
Dec | 51° 34′ 30.86″

Gan ddilyn ymlaen o nifwl planedol y mis diwethaf, mae un arall i’w ddarganfod.  I’r rhai sydd ddim yn defnyddio’r Equatorial Coordinate System er mwyn darganfod gwrthrychau yn yr wybren bell, fe allwch ddod o hyd i’r targed heriol hwn trwy ddod o hyd i Sgwâr Pegasws.

Dewch o hyd i seren ar y llaw dde uchaf yn y sgwâr a chyfrifwch dair seren ar draws (Cytser Andromeda).  Uwchben y seren honno, fe leolir y nifwl Little Dumbbell hanner ffordd rhwng y seren honno a chytser Cassiopeia.

Ffordd arall o ddod o hyd iddi yw i roi ongl eang sylladur chwyddo isel arni, chwilio am y Clwstwr Dwbl, sydd o dan ochr orllewinol cytser Cassiopeia, gan symud eich telesgop i’r dde hyd nes y bydd y nifwl yn symud i’w le.  Defnyddiwch fwy o chwyddiant er mwyn astudio’r gwrthrych.

Mewn wybren dywyll, fe fydd yn edrych fel craidd afal yn cael ei amgylchynu gan ychydig o niwlogrwydd.  Credir i’r nifwl hwn gan ei enwi ar ôl ei gefnder fwy, Nifwl Dumbbell (m27) yng nghytser Fwlpecwla.

Wedi’i leoli oddeutu 3400 o flynyddoedd golau oddi wrth y Ddaear, plisgyn nwy yn ehangu yw’r nifwl hwn a gafodd ei fwrw allan gan seren sy’n marw.

Canmoliaeth am y ddelwedd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Hydref 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/holiadur-ymddiriodolaeth-cwm-elan/ Tue, 03 Sep 2024 12:06:35 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8333 The post Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>

Mae Ymddiriedolaeth Cwm Elan yn gyfrifol am ddaliad tir sylweddol, sy’n cynnwys nifer o fythynod gwyliau, dau fwthyn a Byncws CwmClyd. Hoffwn gael eich barn ar ddefnydd parhaus Cwm Clyd fel lletyymwelwyr. Gwerthfawrogwn pe baech yn cwblhau’r holiadur byr hwn erbyn 30ain Medi 2024.

The post Holiadur Ymddiriodolaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-medi-2024/ Sat, 31 Aug 2024 15:19:52 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8290 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi. Mae hwn yn amser gwych o’r flwyddyn er mwyn syllu ar...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar beth sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Medi.

Mae hwn yn amser gwych o’r flwyddyn er mwyn syllu ar y sêr gan nad oes rhaid i chi aros tan yr hwyr i weld y gwir dywyllwch, ac fe allwch astudio clystyrau’r sêr, nifylau a’r galaethau ar eu gorau.

Mae hi’n nosi oddeutu 10yh ar ddechrau’r mis a 8.50yh ar y diwedd.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Am 10yh, y cytserau sy’n amlwg yn wybren ddeheuol y nos yn ystod mis Medi yw’r Alarch, sydd wedi’i leoli’n dda, Telyn Arthur, sy’n gorwedd ar ochr ddwyreiniol y Llwybr Llaethog, a’r Saethydd a’i gytser tebot enwog, sy’n gorwedd yn isel ar y gorwel.

Mae Ercwlff ac Ophiuchus yn gorymdeithio tua’r dwyrain a Boötes gyda’i seren lachar Arcturus yn dechrau machlud.

Mae’r Lleuad Newydd yn digwydd ar y 3ydd o Fedi a’r Lleuad Lawn ar y 17eg o Fedi.

Planedau

Fe fydd y blaned Sadwrn mewn gwrthsafiad ar yr 8fed o Fedi, sy’n golygu pe fyddech chi’n tynnu llinell ddychmygol o’r Haul sy’n mynd trwy’r Ddaear, fe fyddai’r blaned Sadwrn hefyd ar y llinell honno gyda’r Ddaear yn y canol.  Mae hyn yn digwydd tua unwaith y flwyddyn wrth i’r planedau troi o gwmpas yr Haul.  Mae’r blaned Sadwrn yn wych i’w gweld yn ystod y cyfnod hwn, gan ei bod yn ymddangos ar ei mwyaf llachar a mawr.

Erbyn diwedd mis Medi, mae’r blaned Iau wedi’i lleoli’n dda yn wybren y nos er mwyn ei hastudio.  Edrychwch am leuadau Iau a’r cyfle i astudio’r bandiau o gymylau sydd ar wyneb y blaned.  Cymerwch amser i’w hastudio, gan fydd adegau pan fydd yr atmosffer yn tawelu ac fe gewch gipolwg byr o’r troellau a’r bandiau mewn manylder gwych.

Fe fydd cefnogwyr y planedau enfawr o iâ, Neifion ac Wranws, yn cael y cyfle i’w hastudio y mis hwn, gan eu bod hefyd wedi’u lleoli’n

dda.  Fe fydd Neifion mewn gwrthsafiad ar yr 21ain o Fedi.  Fe fyddant yn ymddangos fel smotiau niwlog cyson o las/gwyrdd.  Fe fydd unrhyw un sydd â thelesgop ag agorfa o 10 modfedd neu fwy efallai yn gallu gweld Triton, sef un o 16 lleuad mwyaf Neifion.

Diffyg Rhannol ar y Lleuad

Ar y 18fed o Fedi fe fydd diffyg rhannol ar y Lleuad.  Fe fydd y Lleuad yn symud i ogysgod oeddeutu 1.41yb – hwn yw cysgod allanol y Ddaear wrth iddi symud yn raddol i’w safle rhwng y Lleuad a’r Haul. 

Mae’r Lleuad yn symud i’r cysgod wmbrol oddeutu 3.13yb, gyda phwynt mwyaf y diffyg rhannol yn digwydd am 3.44yb.  Fe fydd hyn yn weledol – wybren glir yn caniatáu! – gan fod yr wmbrol (y cysgod mewnol) yn fwy tywyll a’r Lleuad yn ymddangos fel pe bai brathiad wedi’i dynnu allan ohoni ar yr ochr orllewinol uchaf.  Fe fydd y Lleuad yn gadael y gogysgod am 4.16yb a’r wmbrol am 5.47yb.

Nifwl Pelen Eira Las

RA | 23h 27m 05s
Dec | +42° 40’ 14”

Y mis hwn, mae gennym her ddiddorol i wylwyr i ddarganfod.  Fe adwaenir NGC 7662 yn fwy cyffredinol fel Nifwl Pelen Eira Las.

Mae wedi’i leoli oddeutu 2500 o flynyddoedd golau o’r Ddaear, ac achosir y nifwl planedol hwn gan seren sy’n marw ond sydd heb y màs i ffrwydro fel uwchnofa. Yn hytrach, mae’n gollwng ei haenau allanol yn dawel fel nwy ïoneiddiedig, gan greu’r nifwl, sy’n apelio’n weledol, ac a all ddisgleirio’n ddigon llachar i’w weld trwy delesgop.  Mae’n disgleirio’n las gan fod y nwyon yn cynnwys ocsigen yn bennaf.  Mae’r braslun ar y dde yn dangos sut olwg fyddai ar y nifwl hwn trwy delesgop ag agorfa 8 modfedd mewn wybren dywyll iawn.  Fe ellir gweld lliw glas y nifwl hyfryd hwn.  Credir y bydd ein haul ni hefyd yn gorffen ei fywyd fel nifwl planedol, yn hytrach na fel uwchnofa ysblennydd, fel sy’n gyffredin gyda sêr llawer mwy.

Canmoliaeth am y ddelwedd: Michael Vlasov o www.deepskywatch.com



Fe allwch ddod o hyd i’r gwrthrych hwn trwy leoli pedwar cytser: Llys Dôn, Andromeda, Pegasws a Lacerta.  Edrychwch am seren Caph yn Llys Dôn a thynnwch linell ddychmygol ar draws i’r seren Scheat yng nghytser Pegasws – mae’r nifwl Pelen Eira Las bron yng nghanol y llinell.  Os ydych yn defnyddio’ch darganfyddwr i leoli’r asterism tair seren fach: Lambda Andromedae, Kappa Andromedae ac Iota Andromedae, mae’r nifwl wedi’i lleoli ger y sêr hyn, ond wedi i chi ddefnyddio’ch darganfyddwr i weld y sêr hyn, fe fydd angen i chi edrych trwy’ch sylladur i weld y nifwl wrth iddo ddod i’ch golwg.

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Medi 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/cyfle-i-wirfoddoli-ar-brosiect-adfer-y-mawndir/ Sat, 31 Aug 2024 14:27:15 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8285 Tir gyda mannau gwlyb yw’r mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystem y Ddaear.  Mae’r ardaloedd dyfrlawn yn atal y planhigion rhag pydru’n llawn, gan greu rhai o’r ardaloedd...

The post Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir appeared first on Elan Valley.

]]>

Tir gyda mannau gwlyb yw’r mawndiroedd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystem y Ddaear.  Mae’r ardaloedd dyfrlawn yn atal y planhigion rhag pydru’n llawn, gan greu rhai o’r ardaloedd mwyaf cyfoethog mewn carbon ar y Ddaear; hyd yn oed yn fwy na’n fforestydd.  Mae’r ardaloedd hanfodol hyn yn dal ac yn storio carbon deuocsid, ac yn oeri’n hinsawdd sy’n parhau i gynhesu.  Yn anffodus, yng Nghwm Elan, mae’r rhan fwyaf o’n tir yn cynnwys mawn; mae peth ohono mewn cyflwr gwael ac mae angen eich help chi arnom er mwyn adfer yr adnodd gwerthfawr hwn.

Rydym yn arbrofi gyda gwahanol ddulliau er mwyn arafu llif y dŵr ac i drapio’r gwaddodion o erydiad y mawn ar ddau safle gorgors lle mae’r mawn wedi cael ei dorri.  Y syniad yw i weld beth all rheolwyr y tir wneud ar raddfa fach gyda deunyddiau lleol, lle nad yw defnyddio peirianwaith yn ymarferol.  Y canlyniad dymunol yw ardaloedd o orsydd gwlypach, gyda mwsoglau migwyn yn cytrefu, a lleihau goruchafiaeth gwellt y gweunydd.

Fe fydd y prosiect yn parhau am 5 wythnos, ac mae croeso i chi ymuno â ni am beth neu ar yr holl ddiwrnodau gwirfoddoli.

Fe fydd y sesiynau yn dechrau am 10yb tan 3yp.

Y dyddiadau yw:

• 12fed o Fedi – Creu Byndiau Gwlân


• 19eg o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 26ain o Fedi – Safle 1 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd


• 3ydd o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

10fed o Hydref – Safle 2 Gosod Byrnau Gwellt y Gweunydd a Byndiau Gwlân

Credwn na ddylai gostio dim i chi wirfoddoli.  Rydym yn talu costau teithio gwirfoddolwyr o 45c y milltir bob ffordd ac rydym yn gallu ad-dalu pryniannau cinio hyd at £5 (fe fydd angen derbynneb).   I gofrestru ar gyfer cyfle i wirfoddoli neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.

The post Cyfle i Wirfoddoli ar Brosiect Adfer y Mawndir appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/eyes-on-the-night-sky-august-2024/ Tue, 30 Jul 2024 15:13:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=8169 Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Awst. Fe fydd tywyllwch seryddol yn dychwelyd i’r rhan fwyaf o’r...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>
Croeso i ddiweddariad y mis hwn ar yr hyn sydd yn wybren y nos ar gyfer mis Awst.

Fe fydd tywyllwch seryddol yn dychwelyd i’r rhan fwyaf o’r DU y mis hwn sydd yn golygu y bydd yr wybren yn wirioneddol ddigon tywyll ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig am y gofod pell.  Yng Nghanolbarth Cymru, mae gwir dywyllwch yn digwydd rhwng hanner nos a 2.30yb ar ddechrau’r mis ac amser mwy parchus, 10.12yh a 4.16yb ar y diwedd.  Bydd hyn yn amlwg yn cael ei rwystro gan bresenoldeb y Lleuad ar unrhyw noson bendodol, felly i geisio ddod o hyd i’r wybren dywyll hwnnw, cadwch lygad barcud yma ar godiad a machlud y Lleuad.

© Dominic Ford www.in-the-sky.org

Mae cytserau’r Alarch a Thelyn Arthur dal yn y lle gorau yn wybren y nos am 10yh.  Mae’r Saethydd yn gorwedd yn uniongyrchol ar y gorwel deheuol.  Mae Boötes gyda’i seren oren lachar Arctwrws, yn symud tua’r gorllewin.

Tua’r dwyrain, mae cyd-gytserau Pegasws ac Andromeda yn gorwedd o dan Lys Dôn sydd ar ffurf w, a chytser ar ffurf tŷ Seffews, gyda Perseus a’r Arth Fawr yn goruchafu’r gogledd.  Mae’r Ddraig wedi’i lleoli’n uchel ar y anterth (sef y darn o wybren sydd yn uniongyrchol uwch eich pen).

Fe ddigwydd y Lleuad Newydd ar y 4ydd o Awst a’r Lleuad Lawn ar y 19eg o Awst.

Cawod o Sêr Gwib Perseid

Mae Cawod o Sêr Gwib Perseid ar ei hanterth ar noson y 12fed o Awst ac yn oriau mân y bore ar y 13eg o Awst.  Credir mai hwn fydd y digwyddiad cawod o sêr gwib mwyaf ysblennydd y flwyddyn, gan gynnwys y nifer uchaf o sêr gwib yr awr, oddeutu 100.  Daw’r malurion o’r deunydd gweddilliol o gomed Swift Tuttle sydd yn llosgi yn ein hatmosffer.  Tarddodd y pelydr o’r cytser Perseus, ond mae wedi symud yn eithaf diweddar i ardal Camelopardalis.  Fe fydd y Lleuad yn 51% llawn ond yn machlud tua 11yh. Ymunwch â Thîm Wybren Dywyll Cwm Elan ar y 12fed o Awst lle fyddwch mewn cwmni da er mwyn gwylio Cawod Sêr Gwib Perseid ar ei hanterth.  Fe fydd gennym delesgopau wrth law er mwyn i chi allu cael taith o gwmpas trysorau disglair y nos. 

MAE HWN YN DDIGWYDDIAD SY’N DDIBYNNOL AR Y TYWYDD felly archebwch le yma

Argeliadau’r Lleuad a’r Blaned Sadwrn

Ar fore’r 21ain o Awst, fe fydd y Blaned Sadwrn yn agosáu at y Lleuad ac yn mynd tu ôl iddi.  Fe allwch fwynhau gwylio dyfodiad y blaned nes iddi fynd tu ôl i’r Lleuad oddeutu 4.35yb ac yn ymddangos o’r pedrant dde isaf oddeutu 5yb.  Mae’n werth codi’n gynnar er mwyn gweld y digwyddiad prin hwn – y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 2007.

Delwedd: Artists impression, ESO/Nico Bartmann/spaceengine.org

Messier 57 – Y Nifwl Modrwy

RA 18h 53m 35s | Dec +33° 1′ 45″
I’r rhai ohonoch â thelesgop gydag agorfa sydd yn fwy nag 8 modfedd, mae’r Nifwl Modrwy yn werth astudio.  Wedi’i lleoli yng nghytser Telyn Arthur (Lyra), fe allwch ei darganfod wrth ddefnyddio’r cyfesurynnau uwchben neu ddefnyddio dull megis hercian sêr.

Chwiliwch am y seren Fega, sydd fwyaf disglair ar ben y cytser ac edrychwch am baralelogram hirgul gyda seren wrth bob cornel.  Edrychwch am y ddwy seren ar y top a symudwch eich llygaid i’r ddau ar y gwaelod – mae Nifwl Modrwy wedi’i leoli ychydig dros y man hanner ffordd rhwng y ddwy seren yn y gornel waelod.

Fe fydd yn ymddangos fel hirgrwn gwyn bach yn eich telesgop.  Mae’r Nifwl Modrwy yn nifwl blanedol, sy’n cynnwys haenau allanol seren sy’n marw.  Mae’r braslun hwn, trwy ganiatad caredig Michael Vlasov o deepskywatch.com, yn dangos golygfa fras o Nifwl Modrwy fel y’i gwelir trwy delesgop 8 modfedd.

Edrychwch ar y seren sydd yng nghanol y nifwl hwn, a luniwyd gan NASA/ESA – rydych yn edrych ar graidd y seren sy’n marw, a adwaenir hefyd fel corrach gwyn.  Ni fyddwch yn gallu gweld hwn trwy delesgop bach:  mewn gwirionedd, fe fyddai angen telesgop anferth arnoch gydag agorfa o 16 modfedd neu’n uwch mewn wybren dywyll iawn.  Mae ei adweithiau ymasaid wedi dod i ben, ar hyn rydych yn edrych arno yw’r egni gweddilliol yn oeri’n araf – ond dal yn eiriasboeth 100,000 Kelvins (99,727 gradd selsiws).  Credir y gall y sêr hyn gymryd oddeutu biliwn o flynyddoedd i oeri.

‘Dychweliad’ y Llwybr Llaethog

Edrychwch i’r de wrth iddi ddechrau nosi ac edrychwch gyda llygaid noeth ar y gwrthych hyfryd yn ymddangos yn wybren y nos – fe fydd yn edrych fel band niwlog o olau, yn ymestyn o’r de ac yn fwa mawreddog uwch eich pen, sy’n cynnwys braich y Saethydd yn ein galaeth.

Delwedd gan Sean Gates

Mae nifer o chwedlau ynghylch hyn: yn ôl y llyfr Dark Land, Dark Skies (gan Martin Griffiths), mae’r Cymry yn rhoi’r Llwybr Llaethog fel afon nefolaidd a elwir Sarn Gwydion, sy’n cynrychioli’r ffordd y gwnaeth y dewin a’r arwr Gwydion deithio arno er mwyn achub enaid Lleu, ei nai, a’i ddychwelyd ef yn fyw.

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Awst 2024 appeared first on Elan Valley.

]]>