Natur | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/events_category/natur/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Thu, 13 Apr 2023 09:20:50 +0000 cy hourly 1 Creaduriaid y Nos https://elanvalley.org.uk/cy/events/creaduriaid-y-nos/ Wed, 12 Apr 2023 08:19:12 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5614 Ymunwch â Sorcha Lewis, sy’n frwd dros fywyd gwyllt lleol i ddysgu am ryfeddodau ein bywyd gwyllt nosol. Bydd Sorcha yn archwilio gyda chi fyd nos hynod ddiddorol...

The post Creaduriaid y Nos appeared first on Elan Valley.

]]>
Ymunwch â Sorcha Lewis, sy’n frwd dros fywyd gwyllt lleol i ddysgu am ryfeddodau ein bywyd gwyllt nosol. Bydd Sorcha yn archwilio gyda chi fyd nos hynod ddiddorol ein gwyfynod, ystlumod, tylluanod, mamaliaid a sut y gallwch ddarganfod mwy am y rhywogaethau mwy swil a gwibiog hyn.

Byddwn yn mynd am dro gyda’r cyfnos, gan ddefnyddio datguddwyr ystlumod a’n synhwyrau ein hunain i weld beth allwn ni ei ddarganfod yng nghoedwig Cnwch y tu ôl i Bentref Elan. Yn ôl yn y cynhesrwydd, byddwn yn edrych ar ffilm trailcam wrth i Sorcha esbonio mwy am y creaduriaid hynod ddiddorol hyn a’u cynefinoedd.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae angen archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

The post Creaduriaid y Nos appeared first on Elan Valley.

]]>
Taith Gerdded Synnwyr Perffaith https://elanvalley.org.uk/cy/events/taith-gerdded-synnwyr-perffaith/ Tue, 14 Mar 2023 15:09:25 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5532 Mwynhewch holl deimladau’r coedlannau ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar hon. Dilynwch eich trwyn, yfwch synau’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas a theimlwch weadau gwahanol y goedwig. Mae Rosie...

The post <strong>Taith Gerdded Synnwyr Perffaith</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Mwynhewch holl deimladau’r coedlannau ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar hon.

Dilynwch eich trwyn, yfwch synau’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas a theimlwch weadau gwahanol y goedwig. Mae Rosie yn hyfforddwr ioga, a bydd y daith gerdded hon yn llawn anadl, symudiad a myfyrdod a byddwch yn teimlo wedi ymlacio ac wedi’ch tawelu.

Bydd hon yn daith gerdded hamddenol ond mae’r dirwedd yn anwastad mewn mannau ac nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Dehongliad BSL ar gael.

Tocynnau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw yma.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o SENSE – penwythnos o ddigwyddiadau sy’n archwilio gorffennol a phresennol Elan drwy’r synhwyrau.

The post <strong>Taith Gerdded Synnwyr Perffaith</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
SENSE https://elanvalley.org.uk/cy/events/sense/ Tue, 14 Mar 2023 14:48:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5525 Mae mwy i Gwm Elan na’r disgwyl… Ymunwch â ni am daith o’r synhwyrau yng Nghwm Elan. Ewch ar drywydd Drewdod o’r Gorffennol Elan, gwrandwch ar sain deuawd...

The post SENSE appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae mwy i Gwm Elan na’r disgwyl…

Ymunwch â ni am daith o’r synhwyrau yng Nghwm Elan. Ewch ar drywydd Drewdod o’r Gorffennol Elan, gwrandwch ar sain deuawd chwilota Ardal Bicnic ac archwiliwch ein bywyd gwyllt nosol gyda Sorcha Lewis. Penwythnos o brofiadau a digwyddiadau rhad ac am ddim i ddathlu pob un o’r pum synnwyr.

Trwy’r penwythnos

Lleisiau’r Cwm, Arddangosfa sain yn y ganolfan ymwelwyr

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae prosiect Elan Links wedi casglu straeon gan bobl sydd â chysylltiad â Chwm Elan. Bydd yr arddangosfa sain hon yn dod â rhai o’r straeon hyn ynghyd, gyda ffotograffau, cynlluniau ac arteffactau sy’n cyfuno hanes dynol Elan.

Dydd Gwener

1-4pm Taith Gerdded Twrio Sain gydag Ardal Bicnic

7pm Edrychwch ar y sêr mewn parc awyr dywyll

Dydd Sadwrn

10am-4pm Taith Gerdded Twrio Sain gydag Ardal Bicnic

10am- 4pm Drewdod o’r Gorffennol gyda Gary Ball

Dewch i gael profiad ymarferol o arogleuon a theimladau’r gorffennol gyda’n hanesion erchyll ein hunain o Gwm Elan.

11am Taith Gerdded Synnwyr Perffaith gyda Rosie Slay

Mwynhewch holl deimladau’r coedlannau ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar hon.

8pm Creaduriaid y Nos gyda Sorcha Lewis

Am ddim ond bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai digwyddiadau

The post SENSE appeared first on Elan Valley.

]]>
Gwylio Adar Yn Ardd https://elanvalley.org.uk/cy/events/gwylio-adar-yn-ardd/ Thu, 19 Jan 2023 11:18:16 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=4753 Ar benwythnos Gwylio Adar yr Ardd  yr RSPB, byddwn yn cynnal digwyddiad bach yng Nghwm Elan i’ch helpu i wella eich sgiliau adnabod adar. Bydd cyfle i sgwrsio...

The post Gwylio Adar Yn Ardd appeared first on Elan Valley.

]]>
Ar benwythnos Gwylio Adar yr Ardd  yr RSPB, byddwn yn cynnal digwyddiad bach yng Nghwm Elan i’ch helpu i wella eich sgiliau adnabod adar.

Bydd cyfle i sgwrsio ag ecolegwyr lleol am brosiectau cadwraeth sy’n digwydd yn yr ardal, ac yna taith dywys lle byddwn yn adnabod rhai o’n hadar bach a gardd arferol. Gan gyfarfod yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, byddwn yn mynd am dro hamddenol drwy’r coed am tua awr, ac yna’n ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr am de, coffi a bisgedi!

Cofiwch wisgo’n gynnes a gwisgo esgidiau glaw neu esgidiau cryf. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn.

Mae’r digwyddiad am ddim ond gofynwn yn garedig i chi archebu le fel bod gennym syniad o niferoedd.

The post Gwylio Adar Yn Ardd appeared first on Elan Valley.

]]>
Helfa Planhigion Blwyddyn Newydd Cwm Elan https://elanvalley.org.uk/cy/events/helfa-planhigion-blwyddyn-newydd-cwm-elan/ Fri, 09 Dec 2022 08:27:50 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=3822 Dydd Mawrth 3ydd Ionawr 2023, 10.30am-1pm, Ystafelloedd Te Penbont, AM DDIM https://www.eventbrite.co.uk/e/elan-valley-new-year-plant-hunt-tickets-477979789417 Dysgwch fwy am blanhigion brodorol gydag arbenigwr a chofnodwch blanhigion blodeuol i helpu BSBI i fonitro sut...

The post Helfa Planhigion Blwyddyn Newydd Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Dydd Mawrth 3ydd Ionawr 2023, 10.30am-1pm, Ystafelloedd Te Penbont, AM DDIM

https://www.eventbrite.co.uk/e/elan-valley-new-year-plant-hunt-tickets-477979789417

Dysgwch fwy am blanhigion brodorol gydag arbenigwr a chofnodwch blanhigion blodeuol i helpu BSBI i fonitro sut mae planhigion yn ymateb i newid hinsawdd

Bob blwyddyn mae grwpiau o wirfoddolwyr yn mynd allan yn ystod dyddiau cyntaf y flwyddyn newydd i weld pa blanhigion sy’n blodeuo. Mae’r wybodaeth hon yn helpu BSBI i ddeall sut mae planhigion yn ymateb i hinsawdd sy’n newid. Eleni dewch i gwrdd â Fiona Gormesall, Swyddog Treftadaeth Genedlaethol Elan Links, i chwilio am fywyd planhigion Cwm Elan a gweld faint o blanhigion sydd yn eu blodau. Darperir lluniaeth.

The post Helfa Planhigion Blwyddyn Newydd Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>