Cwm Elan | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/location/cwm-elan/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Wed, 12 Apr 2023 08:19:13 +0000 cy hourly 1 Creaduriaid y Nos https://elanvalley.org.uk/cy/events/creaduriaid-y-nos/ Wed, 12 Apr 2023 08:19:12 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5614 Ymunwch â Sorcha Lewis, sy’n frwd dros fywyd gwyllt lleol i ddysgu am ryfeddodau ein bywyd gwyllt nosol. Bydd Sorcha yn archwilio gyda chi fyd nos hynod ddiddorol...

The post Creaduriaid y Nos appeared first on Elan Valley.

]]>
Ymunwch â Sorcha Lewis, sy’n frwd dros fywyd gwyllt lleol i ddysgu am ryfeddodau ein bywyd gwyllt nosol. Bydd Sorcha yn archwilio gyda chi fyd nos hynod ddiddorol ein gwyfynod, ystlumod, tylluanod, mamaliaid a sut y gallwch ddarganfod mwy am y rhywogaethau mwy swil a gwibiog hyn.

Byddwn yn mynd am dro gyda’r cyfnos, gan ddefnyddio datguddwyr ystlumod a’n synhwyrau ein hunain i weld beth allwn ni ei ddarganfod yng nghoedwig Cnwch y tu ôl i Bentref Elan. Yn ôl yn y cynhesrwydd, byddwn yn edrych ar ffilm trailcam wrth i Sorcha esbonio mwy am y creaduriaid hynod ddiddorol hyn a’u cynefinoedd.

Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae angen archebu lle ymlaen llaw. Archebwch yma.

The post Creaduriaid y Nos appeared first on Elan Valley.

]]>
SENSE https://elanvalley.org.uk/cy/events/sense/ Tue, 14 Mar 2023 14:48:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5525 Mae mwy i Gwm Elan na’r disgwyl… Ymunwch â ni am daith o’r synhwyrau yng Nghwm Elan. Ewch ar drywydd Drewdod o’r Gorffennol Elan, gwrandwch ar sain deuawd...

The post SENSE appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae mwy i Gwm Elan na’r disgwyl…

Ymunwch â ni am daith o’r synhwyrau yng Nghwm Elan. Ewch ar drywydd Drewdod o’r Gorffennol Elan, gwrandwch ar sain deuawd chwilota Ardal Bicnic ac archwiliwch ein bywyd gwyllt nosol gyda Sorcha Lewis. Penwythnos o brofiadau a digwyddiadau rhad ac am ddim i ddathlu pob un o’r pum synnwyr.

Trwy’r penwythnos

Lleisiau’r Cwm, Arddangosfa sain yn y ganolfan ymwelwyr

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae prosiect Elan Links wedi casglu straeon gan bobl sydd â chysylltiad â Chwm Elan. Bydd yr arddangosfa sain hon yn dod â rhai o’r straeon hyn ynghyd, gyda ffotograffau, cynlluniau ac arteffactau sy’n cyfuno hanes dynol Elan.

Dydd Gwener

1-4pm Taith Gerdded Twrio Sain gydag Ardal Bicnic

7pm Edrychwch ar y sêr mewn parc awyr dywyll

Dydd Sadwrn

10am-4pm Taith Gerdded Twrio Sain gydag Ardal Bicnic

10am- 4pm Drewdod o’r Gorffennol gyda Gary Ball

Dewch i gael profiad ymarferol o arogleuon a theimladau’r gorffennol gyda’n hanesion erchyll ein hunain o Gwm Elan.

11am Taith Gerdded Synnwyr Perffaith gyda Rosie Slay

Mwynhewch holl deimladau’r coedlannau ar y daith gerdded ymwybyddiaeth ofalgar hon.

8pm Creaduriaid y Nos gyda Sorcha Lewis

Am ddim ond bydd angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai digwyddiadau

The post SENSE appeared first on Elan Valley.

]]>