July 2023 | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/month/2023-07-01/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Mon, 17 Jul 2023 14:56:02 +0000 cy hourly 1 Llwybr Sain ar gyfer Blinder https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/llwybr-sain-ar-gyfer-blinder/ Mon, 17 Jul 2023 14:56:01 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6131 Mae ein hartist preswyl, Rowena Harris, wedi datblygu gwaith celf sain sy’n hygyrch i flinder o amgylch Argae Caban Coch. Cynhaliwyd preswyliad Rowena y gwanwyn hwn, ac mae’n...

The post Llwybr Sain ar gyfer Blinder appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae ein hartist preswyl, Rowena Harris, wedi datblygu gwaith celf sain sy’n hygyrch i flinder o amgylch Argae Caban Coch.

Cynhaliwyd preswyliad Rowena y gwanwyn hwn, ac mae’n breswyliad dwy ran, a gynhelir gan Elan Links, a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr ym Mirmingham. Ysbrydolwyd gwaith Rowena gan system rheoli dŵr ac ynni Cwm Elan mewn perthynas â blinder sy’n newid bywyd. Caiff ei lefaru o safbwynt dŵr, mae’n cymryd ysbrydoliaeth o arferion cyflymdra ar gyfer blinder a phreswyliad amgen radical y gofod a’r amser a ddaw o fyw gyda blinder.

Mae Crip Body of Water ar gael i wrando trwy Spotify, a gellir dod o hyd i fanylion llawn y gwaith, gan gynnwys y dewis o lwybrau gwrando, lleoliadau a chanllawiau hygyrchedd sy’n hygyrch i flinder, yma.

Arweinlyfr Cymraeg (modd tywyll) (modd ysgafn)

Mae’r sain yn gyfuniad o’r Gymraeg a Saesneg.

Gellir gweld trosolwg o’r lleoliadau gwrando ar y map isod.

The post Llwybr Sain ar gyfer Blinder appeared first on Elan Valley.

]]>
Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/elan-links-a-chanolfan-gelfyddydau-canolbarth-lloegr-yn-cyflwyno-arddangosfa-am-hanes-a-dyfodol-ein-dwr/ Mon, 03 Jul 2023 10:44:47 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6137 Zillah Bowes, Bethan ‘Frondorddu’ a Ruby (portread lloergan) o’r gyfres Green Dark (2021). Print math C, 62 x 87 x 4cm. Mae Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth...

The post <strong>Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Zillah Bowes, Bethan ‘Frondorddu’ a Ruby (portread lloergan) o’r gyfres Green Dark (2021). Print math C, 62 x 87 x 4cm.

Mae Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno Watershed, arddangosfa grŵp sy’n edrych ar hanes, tirwedd a diwylliant Cwm Elan yng nghanolbarth Cymru.

Ar ddiwedd 19eg ganrif, arweiniodd dŵr anniogel at glefyd eang yn ninas ddiwydiannol gynyddol Birmingham. Pasiwyd Deddf Seneddol, gan alluogi i Adran Ddŵr Corfforaeth Birmingham brynu Cwm Elan yn orfodol. Crëwyd cyfres o gronfeydd dŵr trwy adeiladu argae yn afonydd Elan a Chlaerwen, a gorfodwyd dros 100 o drigolion Cwm Elan i symud.

Mae Watershed yn cyflwyno ymatebion artistig i’r newid dadleuol hwn i dir Cymru, y cysylltiadau rhwng y ddwy dirwedd nodedig hyn, a’r rhan y mae pobl yn ei chwarae yng nghydbwysedd natur.

Mae’r arddangosfa’n rhychwantu cyfryngau, gan gynnwys ffotograffiaeth, sain, ffilm a phaentio. Mae’n casglu deunydd o archif Elan Links, gan gynnwys llyfr o ysgythriadau gan brif beiriannydd adeiladu’r argae Eustace Tickell, a roddwyd ar waith i gipio’r dyffryn cyn iddo gael ei orlifo.

Cymerodd yr artistiaid dan sylw ran mewn rhaglen breswyl unigryw dan arweiniad Elan Links, gan gynnwys gwaith gan yr artist Rowena Harris a wnaed yng ngwanwyn 2023 yn ystod eu cyfnod preswyl gydag Elan Links a MAC.

Cynhelir yr arddangosfa yn MAC ym Mirmingham, ac fe’i cyflwynir yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae Watershed yn agor ar 28ain Mehefin ac fe’i cynhelir tan 5ed Tachwedd 2023, yn y Teras a’r Oriel Gymunedol yng Nghanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr. Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau ac allgymorth ym Mirmingham cliciwch yma.

The post <strong>Elan Links a Chanolfan Gelfyddydau Canolbarth Lloegr yn cyflwyno arddangosfa am hanes a dyfodol ein dŵr</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Tomenydd Hynafol ac Olion yn y Ddaear https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/tomenydd-hynafol-ac-olion-yn-y-ddaear/ Sat, 01 Jul 2023 08:02:28 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6119 Mae gan Gwm Elan nifer fawr o safleoedd archeolegol, llawer ond wedi’u cofnodi’n ddiweddar fel rhan o gynllun Elan Links, ac eraill wedi’u darganfod gan wirfoddolwyr tra’n cerdded...

The post <strong>Tomenydd Hynafol ac Olion yn y Ddaear</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Cerrig Craig Cnwch

Mae gan Gwm Elan nifer fawr o safleoedd archeolegol, llawer ond wedi’u cofnodi’n ddiweddar fel rhan o gynllun Elan Links, ac eraill wedi’u darganfod gan wirfoddolwyr tra’n cerdded ar lwybrau llai hysbys yr ucheldiroedd.  Yn ganfyddadwy fel banciau daear, ffosydd a chlystyrau o gerrig mae hanes cyfoethog am bobl sydd wedi sefydlu, byw, marw a’u claddu ar draws yr Ystâd.

Cerrig Craig Cnwch

O’n hynafiaid cynhanes a ffermiodd yr ucheldiroedd a chladdu eu meirwon ar y terasau ar y bryniau a’r mynyddoedd, i’r nifer fawr o bobl canoloesol a adeiladodd dai ar gyrion y cymoedd, mae cliwiau profoclyd os ydych yn gwybod ble i edrych a beth rydych yn edrych amdano.

Mae Cerrig Craig Cnwch yn rhan o safle cofadail cynhanes Craig Cnwch gyda phump carnedd crwn, tri charnedd cliriad posibl a phump neu chwech o feini hirion o fewn yr ardal.

(Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Mae Carnedd Riced yr Oes Efydd, er yn ymddangos ar fapiau cynnar bron wedi diflannu o’r cyfnod cyfoes ac yn cael ei fygwth gan draffig cerbydau gyriant pedair olwyn.

(Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Wedi’i arolygu gan Trysor Heritage Services ac wedi dod yn weladwy ar ôl eira yn gynnar yn 2023, mae cloddiad arbrofol wedi dangos ei fod wedi goroesi o dan y tywyrch.

Yn aml fe all tyfiant trwchus o redyn guddio nodweddion archeolegol megis gwrthgloddiau a llwyfannau tai cynnar.  Weithiau mae uchder unffurf y rhedyn yn dangos amlinelliad gwrthgloddiau o dan yr wyneb, fel yr enghraifft hwn o gronfa ddŵr Pen y Garreg a ddangoswyd fel rhan o arolwg Trysor. (Clod am y llun: Trysor heritage servies)

Some platforms are so slight that they are easily missed, especially when, for example, they have a wire fence across them! This is one of a number of medieval or post medieval house platforms that sit below the Claerwen dam. Low sunlight often helps to see these features , exaggerating their shadows, so it’s often a combination of knowing where and when to look. Next issue I will point out some other ways to ‘see’ the archaeology to reveal some of the hidden history of the area.

Mae rhai llwyfannau mor fach fel y gellir eu colli, yn enwedig pan, er enghraifft, mae ffens wifren ar eu traws!  Dyma un o nifer o lwyfannau tai canoloesol neu cyn canoloesol sy’n gorwedd o dan argae Claerwen.  Mae golau haul isel yn aml yn help i weld y nodweddion hyn, yn chwyddo eu cysgodion, felly mae’n aml yn gyfuniad o wybod lle a ble i edrych.  Yn y rhifyn nesaf fe fyddaf yn dangos ffyrdd eraill o ‘weld’ yr archeoleg er mwyn datgelu peth o hanes cuddiedig yr ardal.

Fe allwch ddysgu mwy am archeoleg Elan a’r darganfyddiadau diweddaraf yng Nghŵyl Archeoleg a Hanes dros benwythnos diwethaf mis Gorffennaf yn y Ganolfan Ymwelwyr.  Mae dal cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai hyfforddiant ac i wirfoddoli mewn cloddiadau cymunedol, er mwyn darganfod mwy am hanes Cwm Elan, cysylltwch â fi ar gary.ball@elanvalley.org.uk am ragor o fanylion.

Gary Ball, Swyddog Ymgysylltu Addysg a Digwyddiadau: Treftadaeth

Elan Links

The post <strong>Tomenydd Hynafol ac Olion yn y Ddaear</strong> appeared first on Elan Valley.

]]>
Golwg ar Wybren y Nos – mis Gorffennaf 2023 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-gorffennaf-2023/ Sat, 01 Jul 2023 07:51:30 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6109 Mae mis Gorffennaf yn gyfnod hyfryd i fynd allan ac i edrych i fyny – gwnewch y mwyaf o nosweithiau cynnes yr haf a mwynhewch olygfa gwrthrychau’r nos...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Gorffennaf 2023 appeared first on Elan Valley.

]]>

Mae mis Gorffennaf yn gyfnod hyfryd i fynd allan ac i edrych i fyny – gwnewch y mwyaf o nosweithiau cynnes yr haf a mwynhewch olygfa gwrthrychau’r nos gyda’r llygaid noeth,  neu gydag ysbienddrych a thelesgop.

Fe fydd y tywyllwch seryddol yn dychwelyd ar y 25ain o Orffennaf yn ystod oriau mân y bore (1.34yb-3.39yb) ar gyfer syllwyr y sêr sy’n hoffi chwilio am ‘wrthrychau aneglur’ a gweld y Llwybr Llaethog yn ei holl ogoniant.  Edrychwch tua’r de-orllewin ar ôl 1.30yb a chwiliwch am fand o sêr gwan sydd fel bwa yn yr wybren – y tywylla y bo’r wybren, po gorau’r manylder y gwelwch.

Cytserau mis Gorffennaf

Yr amser gorau yn y nos i edrych ar wybren y nos yw oddeutu hanner nos, pan fydd Yr Alarch ac Ercwlff yn eu lleoliadau gorau.  Fe ellir gweld Sgwâr Pegasus yn codi yn y dwyrain a’r Forwyn yn machlud yn y gorllewin.  Fe ellir gweld cytserau Ophiuchus ac Aquila yn y de, gyda’r Saethydd yn isel ar y gorwel.

Mae dal amser i gael cipolwg ar y cymylau notilucent.  Er i’r tymor fod ychydig yn dawel hyd yn hyn, mae canfod cymylau’r nos llachar hyn, wedi’u lleoli yn y mesoffer, yn anodd dros ben ac efallai y cawn weld arddangosfa hyfryd eto.

Fe allwch lawrlwytho map o’r cytserau a gellir ei brintio oddi yma

(clod:  Dominic Ford, awdur in-the-sky.org)

Fe fydd y Lleuad Lawn yn digwydd ar y 3ydd o Orffennaf a’r Lleuad Newydd ar yr 17eg o Orffennaf.

Y Planedau

Y Blaned Gwener

Yr amser gorau i weld y blaned Gwener yw ar ôl iddi fachlud yn ystod dechrau’r mis – edrychwch tua’r gorllewin a chwiliwch am wrthrych llachar sy’n debyg i seren ger  y gorwel.  Mae’r blaned Gwener ar ei chilgant ac mae’n werth edrych ar y blaned hon trwy delesgop.  Yn ystod wythnos gyntaf y mis, fe fydd y blaned Mawrth a’r blaned Gwener yn pasio’n agos iawn at ei gilydd.

Delwedd:  Gweddau’r blaned Gwener gan Statis Kalyvas –  rhaglen VY-2004

Y Blaned Mawrth

Mae’r blaned hon wedi’i lleoli’n dda yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf – mae hefyd yn isel ar y gorwel gorllewinol ac yn ymddangos yn y cyfnos. 

Ar y 10fed o Orffennaf, ceisiwch weld Regwlws, sef seren yng nghytser y Llew yn union o dan y blaned Mawrth.  Yr amser gorau i weld hwn yw awr ar ôl y machlud.  Mae’r cysylltiad Mawrth-Regwlws yn digwydd oddeutu unwaith bob dwy flynedd.

Y Blaned Iau

Yr amser gorau i weld y blaned Iau yw yn ystod ail hanner y mis – mae’n codi yn y dwyrain oddeutu 2yb ar ddechrau’r mis a hanner nos tuag at y diwedd.

Y Blaned Sadwrn

Mae’n codi yn y dwyrain am hanner nos ar ddechrau’r mis a 10.15yh ar y diwedd. 

Ar y 7fed o Orffennaf, i’r rhai ohonoch sy’n hoffi aros i fyny’n hwyr, fe fydd y Lleuad a’r blaned Sadwrn yn ymddangos yn agos at ei gilydd; gyda’r Lleuad yn pasio 4 gradd i’r de o’r blaned.  Edrychwch tua’r de-ddwyrain oddeutu 1yb.  Fe allwch weld hwn gyda’r llygaid noeth ac os oes gennych chi delesgop, edrychwch ar gylchau y blaned Sadwrn a rhai o’i lleuadau.

Gwrthrychau’r Wybren Bell

M11 Clwstwr yr Hwyaden Wyllt
RA: 18h 51m 05.0s | Dec −06° 16′ 12″

Fe all y clwstwr agored hwn fod ychydig yn heriol i’w ddarganfod, felly chwiliwch am wybren dywyll, i ffwrdd o ganolfannau poblog.  Os ydych yn gallu gweld hwn, llongyfarchiadau i chi, gan mai hwn yw’r gwrthrych pellaf y gallwch weld gyda’r llygaid noeth.  Mae’n ymddangos fel cwmwl gwan gyda’r llygaid noeth ond trwy ysbienddrych, fel allwch weld y darn gwan o olau mewn mwy o fanylder.  Dim ond trwy delesgop y byddwch yn gallu gweld y sêr ar wahân, sy’n eithaf tebyg i’r ddelwedd ar y dde.  Mae Messir 11 6,197 o flynyddoedd golau i ffwrdd oddi wrthym.

Messier 13 – y clwstwr mawr yn Ercwlff
RA 16h 41m 41s | Dec +36° 27′ 35″

Dau wrthrych nodedig yn yr wybren bell  yw’r Clwstwr Mawr syfrdanol yn Ercwlff (M13) a M92, y ddau yn glystyrau crwn sydd 22,180 a 26,740 o flynyddoedd golau i ffwrdd yn ôl eu trefn.  Mae M13 yn cynnwys 300,000 o sêr a M92, oddeutu 330,000. 

Er bod M13 yn fwy llachar, ac yn cynnwys ychydig yn llai o sêr na’i gymydog, mae ganddo dwbl y radiws ac mae’n agosach i ni.  Fe allwch ddarganfod y ddau glwstwr hyn gydag ysbienddrych, yn ymddangos fel gwrthrychau aneglur a thrwy delesgop fe allwch weld sêr unigol sy’n edrych yn debyg i glwstwr disglair o ddiemyntau.

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Gorffennaf 2023 appeared first on Elan Valley.

]]>
Diwrnodau Agored yr Argae dros yr Haf https://elanvalley.org.uk/cy/events/diwrnodau-agored-yr-argae-dros-yr-haf/ Fri, 26 May 2023 14:58:58 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5990 Pob dydd Mawrth rhwng 25 Gorffennaf a 29 Awst. Ymunwch â’n Gofalwyr ar gyfer un o Ddiwrnod Agored yr Argae – cyfle i fentro’r tu fewn i Argae...

The post Diwrnodau Agored yr Argae dros yr Haf appeared first on Elan Valley.

]]>
Pob dydd Mawrth rhwng 25 Gorffennaf a 29 Awst.

Ymunwch â’n Gofalwyr ar gyfer un o Ddiwrnod Agored yr Argae – cyfle i fentro’r tu fewn i Argae Pen y Garreg ac i fyny i’r tŵr canolog.

Cerddwch trwy’r argae yn eich pwysau eich hunan, cyn dod allan i’r platfform canolog lle cewch edrych i lawr dros wal yr argae – a dysgu am gamp beirianegol creu Elan.

Argymhellir bwcio, naill ai ar lein neu yn siop y Ganolfan Ymwelwyr. Dewch â’r dderbynneb o’r siop wrth brynu ar y diwrnod. Gallwch dalu wrth yr argae, ond rhaid i chi fod â’r arian cywir ar gyfer eich grŵp

£5.00 y oedolyn, £1 y dan 18 oed (half the proceeds go to WaterAid)

25 Gorffennaf 1.00pm – 3.00pm

1, 8, 15, 22, 29 Awst 1.00pm – 4.00pm

The post Diwrnodau Agored yr Argae dros yr Haf appeared first on Elan Valley.

]]>
O Ddeinosoriaid i Chwythu Argaeau: Gŵyl Archaeoleg a Threftadaeth Cwm Elan https://elanvalley.org.uk/cy/events/o-ddeinosoriaid-i-chwythu-argaeau-gwyl-archaeoleg-a-threftadaeth-cwm-elan/ Wed, 17 May 2023 09:00:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=5848 Mae tirwedd Cwm Elan wedi bod yn gefndir i filoedd o flynyddoedd o hanes ac mae’n hanfodol i’n treftadaeth gyffredin. Wedi’i warchod, ei gynnal a’i goleddu’n drylwyr, gall...

The post O Ddeinosoriaid i Chwythu Argaeau: Gŵyl Archaeoleg a Threftadaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae tirwedd Cwm Elan wedi bod yn gefndir i filoedd o flynyddoedd o hanes ac mae’n hanfodol i’n treftadaeth gyffredin.

Wedi’i warchod, ei gynnal a’i goleddu’n drylwyr, gall ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd hardd a’r gwaith o ymchwilio i’w hanes hir gyda’n gŵyl ryngweithiol o arddangosfeydd creadigol, o ddeinosoriaid i chwalu argaeau.

  • Ymunwch â ni ar daith drwy amser wrth i ni deithio o fyd coll “madfallod ofnadwy” i gyfnod o arbrofion cyfrinachol o’r Ail Ryfel Byd.

  • Mentro i barc Jwrasig Cwm Elan, dysgu sgiliau ein cyndeidiau o Oes y Cerrig a sgiliau tyst o’r Oes Efydd.

  • Dysgwch sut yr oedd y Rhufeiniaid yn gorymdeithio, gwersylla ac ymladd wrth iddynt orchfygu Cymru.

Gwyliwch wrth i grefftwyr canoloesol greu dodrefn a gwaith lledr a gweld eu bywydau bob dydd o’r 12fed ganrif i’r 15fed.

Gwyliwch wrth i arglwydd Normanaidd geisio dial ar dywysog Cymreig mewn brwydr fach o’r 12fed ganrif.

Cwrdd â’r llafurwyr a’r pentrefwyr Fictoraidd.

Ewch i weld meddyg Fictoraidd a dysgu am glefydau, meddyginiaeth a llawdriniaeth o 150 mlynedd yn ôl.

Dysgwch sut y cafodd argaeau Fictoraidd eu hadeiladu a sut maen nhw’n Cawsant eu gwarchod yn ystod y ddau ryfel byd.

Hefyd cwrddwch â rhai o’r grwpiau treftadaeth ac archaeoleg blaenllaw cenedlaethol a rhanbarthol, sefydliadau ac Ymddiriedolaethau. Bydd arddangosiadau gydol y dydd, gan efelychu arteffactau archeolegol, sgiliau traddodiadol, arddangos fideo CGI 3D am wersyll gorymdeithio Rhufeinig, Esgair Perfedd a mwyngloddiau plwm a sinc Fictoraidd Cwm Elan. Dewch i glywed am ddarganfyddiadau archaeolegol diweddaraf Cwm Elan.

Lleoliad:

Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan, Rhaeadr Gwy, Powys, LD6 5HP, Cymru

Amserlen a Hyd:

Dydd Sadwrn 29 Gorffennaf rhwng 11am a 4pm A Dydd Sul 30 Gorffennaf rhwng 11am a 4pm

Mynediad am ddim ac yn addas i deuluoedd.

The post O Ddeinosoriaid i Chwythu Argaeau: Gŵyl Archaeoleg a Threftadaeth Cwm Elan appeared first on Elan Valley.

]]>