Nid yw’n syndod bod Ystâd Cwm Elan yn loches i nifer helaeth o blanhigion prin. Gan ei fod yn ofyniad ar gronfeydd dŵr Cwm Elan i ddarparu Birmingham gyda dŵr ffres o’r ansawdd uchaf, ynghyd â’r ffaith bod rhaid cadw mewnbynnau acrocemegol i’r tiroedd ffermio i’r lleiafswm, mae cyfle i blanhigion prin ffynnu yma.
Nid yw’r cronfeydd dŵr eu hunain yn gyfoethog yn fotynegol, ar wahân efallai i lannau cronfa ddŵr Dôl y Mynach lle cofnodwyd Chwysigenddail yn ddiweddar gan Ray Woods. Fodd bynnag, mae’r pedwar llyn oligotroffig anghysbell yn cynnal nifer o blanhigion prin Elan megis Llyriad y Dŵr a Bidoglys y Dŵr. Mewn mannau eraill, mae dolydd ymylol, a chyfoethog ar yr ucheldir yn cynnwys casgliad unigryw o rywogaethau sy’n cynnwys Pysen y Coed, Dolydd corsiog gyda Tegeirian Pêr a Chronelli, coedwig law dymherus gyda chennau prin megis Llysiau’r Ysgyfaint a mawnogydd gyda Gefell y Gors a Gwlith yr Haul. Fe gofnodwyd Hesg Llydanddail a’r Hesg Llydanddail Tal yma hefyd.
Y Llynnoedd Anghysbell: Llyn Cerrigllwydion, Llyn Gynon, Llyn Carw a Llyn Gwyngu, oherwydd eu cynnwys isel mewn maetholion, maent o ddiddordeb botanegol yng Nghwm Elan ond mae’n cymryd diwrnod o gerdded ar droed dros dir garw i’w cyrraedd. Fe gaiff y rhai sydd â diddordeb mewn botaneg eu gwobrwyo gan y planhigion dyfrol a hefyd harddwch y llynnoedd.
Heblaw am Lyriad y Dŵr a Bidoglys y Dŵr, mae yna Gwair Merllyn – sef math o redyn, cleddlys, Myrdd-ddail Aryneilio, ac yn Llyn Gwyngu, rafftiau o Lili’r Dŵr Melyn. Fe all Brecïai y Dŵr chwe choes a’r Chwysigenddail Llai dal i fod yn bresennol yn y Llynnoedd hefyd.
Mae dolydd ymylol ar ucheldiroedd Cwm Elan yn eithaf unigryw yn y cyd-destun Cymreig am eu casgliad o rywogaethau a’r ffaith bod cymaint ohonynt. Mae’r dolydd yn ffurfio rhan o’r ‘in-bye’, neu’r tir ‘mewn llaw’, sef y tir amgaeedig sydd o gwmpas y ffermydd. Mae Penglaneinon yn un o chwech o ffermydd ‘mewn llaw’ Ymddiriedolaeth Cwm Elan ac yn cynnwys y Ddôl Goronog sy’n rhan o gymhlyg dolydd Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA). Mae Pysen y Coed i’w weld yma ynghyd â Llysyrlys a’r Tegeirian Llydanwyrdd Mwyaf. Mae Fioled y Mynydd yn tyfu mewn mannau yn y ddôl ond mae cannoedd yn tyfu ar dir pori serth cyfagos. Ymhlith y blodau mwyaf prin yn y dolydd mae hefyd rhywogaethau mwy cyffredin megis Dannog y Coed, Amlaethai’r Rhos glas a’r Peradyl Dant y Llew Lleiaf melyn, sy’n rhoi’r effaith cyffredinol o liwiau dwys sy’n gyfoethog o rywogaethau.
Ar fferm sydd â dolydd mwy gwlyb ac sy’n uwch yn y cwm, mae’r Cronellau sy’n debyg i flodau menyn mawr yn tyfu ymhlith Tegeirianau Pêr, Dant y Pysgodyn ac Ysgall y Ddôl. Mae’r dolydd hyn yn felyn dirgrynol gyda Fioled y Mynydd yn ystod yr haf cynnar, ac yna fel gemau gyda’r capiau cwyr amrywiol yn ystod yr hydref hwyr. Hyd yn oed yn uwch i fyny’r cwm mae dôl sy’n cynnwys, bron bob blwyddyn yn ystod yr haf, cannoedd o Falwod y Gors Deheuol.
Uwchben Pentref Elan mae Coedwig Cnwch, un o glwstwr o Goedwigoedd Glaw Celtaidd sydd yn y cwm. Mae rhain i gyd yn goetiroedd derw di-goes neu borfa goediog sy’n gyfoethog mewn bryoffytau, cennau a rhedyn. Mae Llawredynen y Derw yn ffynnu mewn mannau sylweddol trwy Cnwch gydag un clwstwr o Farchredynen weir-aroglus. Mae Rhedynen y Mynydd yn tyfu’n gyfagos mewn chwarel serth uwchben y gronfa ddŵr a’r argae fwyaf deheuol, ac mae’r Edafeddog Leiaf yn aml ar lawr y chwarel. Mae hen gofnodion yn bodoli ar gyfer Caineirian Bach uwchben y chwarel.
Fiona Gomersall, Ecolegydd Ymddiriedolaeth Gwm Elan