May 2023 | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/post_month/2023-05-01/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Tue, 21 Nov 2023 15:50:12 +0000 cy hourly 1 Galw am wirfoddolwyr:  gweithdai hyfforddiant mewn archeoleg mis Mehefin 2023. https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/galw-am-wirfoddolwyr-gweithdai-hyfforddiant-mewn-archeoleg-mis-mehefin-2023/ Wed, 17 May 2023 09:46:03 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=5858 Mae Elan Links mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys yn cynnig cyflwyniad chwe diwrnod ar archeoleg yr ucheldir i wirfoddolwyr fel paratoad ar gyfer y cloddiadau cymunedol...

The post Galw am wirfoddolwyr:  gweithdai hyfforddiant mewn archeoleg mis Mehefin 2023. appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae Elan Links mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys yn cynnig cyflwyniad chwe diwrnod ar archeoleg yr ucheldir i wirfoddolwyr fel paratoad ar gyfer y cloddiadau cymunedol a bwriedir eu cynnal yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Fe fydd yr hyfforddiant rhad ac am ddim yn digwydd yng Nghanolfan Ymwelwyr Dŵr Cymru o 10yb hyd 4yp ac yn cynnwys cinio a lluniaeth.

7/6/23 – Cyflwyniad:  Beth yw archeolegwr?  Sut mae archeolegwyr yn gwybod ble i gloddio?  A sut ydych yn cydosod cloddiad archeolegol?  Offer llaw.

8/6/23 – sut mae safleoedd archeolegol yn cael eu ffurfio a sut i adnabod a chloddio’r stratigraffeg yn y drefn gywir.

14/6/23 – Cyd-destun a chofnodi:  pa bethau sy’n cael eu cofnodi a pham mae’n bwysig i wneud hynny?

15/6/23 – Gwneud cofnod:  cynllunio, tynnu llun a ffotograffio yn yr oes ddigidol.

19/6/23 – Darganfyddiadau ac arteffactau:  adferiad, symud a chofnodi gyda phwysigrwydd cyd-destun.

20/6/23 – Archeoleg yng Nghwm Elan a manylion safle-penodol:  anheddau canoloesol anghyfannedd, llwyfannau tai ac archeoleg yr ucheldir.

Mae llefydd yn brin, am ffurflen gais a rhagor o fanylion cysylltwch â Gary Ball, Swyddog Archeoleg a Threftadaeth ar gary-ball@elanvalley.org.uk

The post Galw am wirfoddolwyr:  gweithdai hyfforddiant mewn archeoleg mis Mehefin 2023. appeared first on Elan Valley.

]]>
DOLYDD GWAIR ELAN https://elanvalley.org.uk/cy/dolydd-gwair-elan-2/ Wed, 17 May 2023 09:18:46 +0000 https://elanvalley.org.uk/?page_id=5854 The post DOLYDD GWAIR ELAN appeared first on Elan Valley.

]]>

DOLYDD GWAIR ELAN

Mae dolydd gwellt ar ‘ymylon yr ucheldir’ yn unigryw i Gymru.  Maent yma oherwydd ffermio traddodiadol yn y cwm dros gannoedd o flynyddoedd ac oherwydd y cronfeydd dŵr a’r angen am ddŵr glân.  Mae’r defnydd o wrtaith a phlaladdwr ar y ffermydd naill a’i yn absennol neu o’r defnydd lleiaf.
 
Pysen y coed, bwrned mawr, pansi’r mynydd, tegeirian llydanwyrdd a’r tegeirian gwyn bach yw rhai o’r rhywogaethau prin ac anghyffredin y gellir eu gweld yn y dolydd hyfryd hyn.
 
Yn ystod y pum mlynedd o Brosiect Gwair Doldir Elan Links rydym wedi bod yn mesur y llystyfiant a hefyd yn samplu pridd, yn casglu tystiolaeth er mwyn gallu rheoli’r dolydd yn well.  Ar ôl ystyried yn ofalus mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydsynio i roi cymhwysiad ysgafn o galch mewn dolydd penodol tra bod eraill yn cael cymhwysiad ysgafn o dail buarth.  Y nod yw gwella cynhyrchiant y dolydd fel bod yna ddigonedd o wair ar gyfer y gaeaf, ond heb beryglu cyfoeth rhywogaethau’r dolydd na niweidio’r prinder yn y glaswelltiroedd hyn.
 

Llynedd, fe wnaethom gomisiynu Jan Sherry ac Emma Douglas o PONT i gynnal arolwg eang gydag arian o Gronfa Rwydwaith Natur ac roeddynt yn gallu archwilio bron i bob dôl a thir pori amgaeedig yn y cwm.  Rhoddodd yr adroddiad canlyniadol rhestr hir i bob fferm o beth oedd yn tyfu yn eu caeau ynghyd â chyngor rheoli defnyddiol. Ym mis Tachwedd 2022 fe wnaeth Emma Williams archwiliad ar gapiau cwyr a thafodau’r ddaear yn rhai o’r tiroedd pori ac fe fydd hi’n parhau â’i hymchwiliad yr hydref hwn.  Mae Emma, gyda chymorth Sorcha Lewis (a Ray Woods) wrth ei bodd gyda’i darganfyddiadau sy’n cynnwys pethau prin megis Capiau Cwyr Date.  Mae Elan yn bendant ar y map am ffwng!

Am y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal digwyddiadau rheoli gwair doldir, a llynedd fe wnaethom arddangos cynaeafwr hadau’r dolydd a brynwyd gydag arian HLF.  Fe wnaethom hefyd roi ein harweinlyfr bach Blodau Dolydd Elan i’n ffermydd a oedd yn dwym o’r wasg y diwrnod hwnnw.  Eleni, fe fyddwn yn cynnal digwyddiad i edrych ar Arolwg In-by 2022 sy’n ganllaw i reolwyr wrth symud ymlaen ac sy’n cynnwys rheoli rhedyn a monitro dolydd.

Rydym yn falch iawn o gael Janice Vincett gyda ni y tymor hwn i wneud arolwg ar y dolydd sydd mwyaf cyfoethog mewn blodau yn y tir in-by ar gyfer y peillwyr.  Mae Janice yn arbenigo mewn ‘Hymenoptera’, y gwenyn a’r gwenyn meirch, ac mi roedd unwaith yn geidwad yn y cwm.  Mae’r hyn fydd hi’n darganfod yn adeiladu ar yr holl waith rydym wedi gwneud i sicrhau fod dolydd Elan yn parhau i gael eu gwerthfawrogi yn y dyfodol.

Fiona Gomersall
Ffoto: Martin Jones

The post DOLYDD GWAIR ELAN appeared first on Elan Valley.

]]>
CORNEL HANES https://elanvalley.org.uk/cy/cornel-hanes/ Wed, 17 May 2023 09:16:38 +0000 https://elanvalley.org.uk/?page_id=5849 Roedd Garsiwn y Magnelwyr Brenhinol yn gwersylla uwchben y cronfeydd dŵr o 1903 hyd 1914 ar gyfer ymarfer saethu a gellir pennu lleoliad y gwersylloedd haf hyn drwy...

The post CORNEL HANES appeared first on Elan Valley.

]]>

Cornel Hanes

Mae’r gorffennol yn fyw o hyd

Mae Cwm Elan yn enwog am ei argaeau Fictorianaidd anferth sy’n dal y cronfeydd dŵr yn ôl, atgof gweledol o sut mae ein hanes yn ffurfio’r tirlun a’r lle yr rydym yn gweithio ac yn byw ynddo heddiw.  Cofnodir yr adeiladu mewn nifer o ddelweddau archifol a dynnwyd gan Gorfforaeth Dŵr Birmingham sy’n rhoi i ni mewnwelediad hynod i waith y peirianwyr Fictoraidd a’r gweithwyr.  Fodd bynnaf, fe geir cyfoeth o hanes ar draws yr ystâd y gellir ei ddirnad o ddelweddau hanesyddol eraill, gan roi cipolwg i ni ar y gorffennol.

Cartrefwyd y gweithlu a leolwyd ar safle pentref Elan mewn rhesi o gytiau pren wedi’u cofnodi mewn ffotograffau a gallwn, o arsylwi’n ofalus, sefyll yn yr union fan y tynnwyd y llun 150 mlynedd yn ôl.

Roedd Garsiwn y Magnelwyr Brenhinol yn gwersylla uwchben y cronfeydd dŵr o 1903 hyd 1914 ar gyfer ymarfer saethu a gellir pennu lleoliad y gwersylloedd haf hyn drwy alinio’r gorwel ar ben y bryn heddiw gyda’r cerdyn post archifol hwn.

Mae’r arbrofion cudd fel rhan o ‘Operation Chastise’ i ddinistrio  argae Nant y Gro ym 1942 yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae’r tirwedd wedi newid gyda cherrig wedi’u golchi i lawr a’r cwymp dilynol o adrannau ar ddiwedd yr argae a gafodd eu dinistrio.  Tynnwyd y ddelwedd hon yn syth ar ôl yr arbrawf llwyddiannus ac mae’n  dangos yn eglur bod mwy o’r argae wedi goroesi nag ydym yn gweld heddiw.

Yn y cyhoeddiad nesaf fe fyddaf yn edrych ar nodweddion hanesyddol llai amlwg wrth i ni gofnodi twmpathau newydd yn y ddaear a dangos hanesion cudd sydd i lawer o bentyrrau o gerrig, tomennydd a ffosydd ar draws yr ystâd.

Gary Ball

The post CORNEL HANES appeared first on Elan Valley.

]]>
Amserlen https://elanvalley.org.uk/cy/heritage-cymraeg/hanes/amserlen/ Tue, 09 May 2023 15:24:39 +0000 https://elanvalley.org.uk/?page_id=5745 Hanes Cyfoethog Mae gan Gwm Elan hanes cyfoethog a chymhleth sy’n rhychwantu llawer o gyfnodau. Dyw Cwm Elan ddim wedi bod yn ganolbwynt erioed, dim ond yn derbyn...

The post Amserlen appeared first on Elan Valley.

]]>

Amserlen

Hanes Cyfoethog

Mae gan Gwm Elan hanes cyfoethog a chymhleth sy’n rhychwantu llawer o gyfnodau. Dyw Cwm Elan ddim wedi bod yn ganolbwynt erioed, dim ond yn derbyn y sylw o fewn y canrifoedd mwy diweddar. Er hyn, mae’r cwm wedi parhau’n gefndir syfrdanol i hanes dynol am filenia.


Cynhanesyddol
Microlithau’r Fflint, Carneddau a’r Celc Caban Coch


~ 9000 BC
Er bod bodau dynol wedi ymweld â Chymru (a rhannau eraill o Brydain) yn ystod y tymhorau cynhesaf erbyn oddeutu 31,000 CC, fe ddaeth Cymru yn gartref parhaol iddynt ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf, wrth i’r hinsawdd gynhesu digon i allu cynnal trigfannau parhaus.


~ 8000 BC – 5000 BC
Oddeutu 8000 i 6000 CC, wrth i’r Oes Iâ parhau i ddamer, fe gododd lefel dŵr y môr a ffurfiwyd siap Cymru yn debyg i’r hyn a welir heddiw. Erbyn 5000 CC, roedd y tymheredd mewn gwirionedd yn uwch nag ydyw heddiw, gan annog coedwigoedd bedw i ledaenu, a chynnal helwyr Mesolithig. Cofnodwyd eu presenoldeb yma yn Elan mewn ffurf microlithau fflint, a geir ledled y cwm.

~ 4000 BC
Roedd dofi anifeiliaid a thyfu planhigion yn rhagflaenu’r cyfnod Neolithig ym Mhrydain. Cyrhaeddodd y datblygiadau arloesol hyn ym Mhrydain tua 6000 o flynyddoedd yn ôl, gan arwain at y cymunedau ffermio cyntaf.


~ 3000 BC – 2000 BC
Cyrhaeddodd Diwylliant Pobl y Biceri ym Mhrydain erbyn oddeutu 2500 CC, gan ddisodli’r boblogaeth Neolithig. Fe dyfodd yr arloesi mewn technoleg yn gyflym ac roedd y cymunedau cynnar hyn yn ffynnu gyda darganfyddiadau copr a thun. Arferid defodau cymdeithasol cymhleth; parchwyd y meirw trwy adeiladu carneddau a chodi meini hirion mawr, fel y rhai ar Garnau Cefn-ffordd a Drygarn Fawr. Darganfyddwyd bwyell frwydr dolerit o ddiwedd cyfnod yr oes Neolithig/Efydd cynnar ar garnedd Clap yr Arian. Datblygwyd gwrthrychau copr oddeutu 2400 CC; mae bwyell seremonïol copr cyntefig yn dyddio o’r cyfnod hwn yn dal teitl y darganfyddiad archeolegol metel hynaf yn y cwm.


~ 2000 BC – 700 BC
Ildiodd Diwylliant Pobl y Biceri i gymdeithasau Oes Efydd yr Iwerydd. O oddeutu 2100 CC, roedd gofaint wedi darganfod sut i fwyndoddi efydd a, dros y mil o flynyddoedd nesaf, disodlodd efydd y garreg fel y prif ddeunydd ar gyfer offer ac arfau. Darganfyddwyd dagr ogifal o’r Oes Efydd wrth gloddio mawn a darganfyddwyd cleddyf Canol Oes Efydd ar Drygarn Fawr. Yr enwocaf, fodd bynnag, oedd darganfod pedwar pen bwyell soced efydd, a enwyd yn Gasgliad Caban Coch, a ddarganfuwyd ym 1895.


~ 500 BC – AD 48
Erbyn oddeutu 500 CC, roedd Ynysoedd Prydain yn gartref i nifer o gymunedau llwythol. Roedd llwythau Brythonaidd neu Frythoniaid yn byw yn llawer rhan o Loegr, Cymru ac o bosibl rhannau o’r Alban. Darganfyddwyd Casgliad Llanwrthwl, sef pedwar torch aur pwysig, ychydig y tu allan i ardal Elan Links yn ystod y 1950au, sy’n awgrymu bod Cwm Elan unwaith yn gartref i Brydeinwyr o statws uchel.


Y Medediant Rhufeinig
Esgair Perfedd, Gemwaith Rhufeinig a Cherrig Nant-y-beddau


AD 48
Yn OC 48, fe ddechreuodd Cyfnod Rhufeinig Cymru. Roedd y Cadfridog Rhufeinig Iwl Cesar wedi glanio ar dir mawr Prydain yn 54 CC ac eto yn 45 CC, ond fe ddechreuoedd y goncwest Rufeinig o ddifrif yn OC 43 o dan yr Ymerawdwr Claudiws.


AD 52
Er gwaethaf y gwrthwynebiad ffyrnig o’r Ordofigiaid, sef llwyth a arweinwyd gan y pennaeth Caradog, erbyn OC 52 darostyngwyd y rhan fwyaf o’r llwythau oedd yn byw yng Nghymru. Mae’n bosibl bod y llwythau o Gymru a’r Rhufeiniaid yn defnyddio Cwm Elan fel lle i addoli oherwydd ei brydferthwch naturiol er mai dyfalu yw hyn.

AD 70
Under Roman occupation, military camps were established around the AD 70s. The Elan Valley must have been a significant area, important enough to host a Roman marching camp, Esgair Perfedd, which falls within the Elan Estate.


AD 87 – AD 400
O oddeutu OC 87 i OC 400, roedd Cymru a Lloegr o dan feddiannaeth Rhufeinig. Darganfyddwyd gemwaith Rhufeinig hyfryd ym 1899, a oedd yn dyddio o’r ganrif cyntaf a’r ail. Gadawodd cwymp a threiddiad meddiannaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain Gymru i amddiffyn ei hun yn erbyn goresgyniadau Scoti (ysbeilwyr Gwyddelig), Pictaidd a Sacsonaidd. Bu mewnlifiad enfawr o ymsefydlwyr Gwyddelig ar draws gorllewin Cymru.  Mae rhywfaint o dystiolaeth bosibl am ymsefydlwyr Gwyddelig yn y cwm gan efallai fod un o dri “Cerrig Nant y Beddau” yn cynnwys Ogam, sef system o ysgrifen Gwyddeleg cynnar. Er gwaethaf y cyrchoedd hyn daeth y deyrnas Gymreig gyntaf i’r amlwg.


Is-Rhufeinig a’r oesoedd Canol
Chwedlau Arthuraidd, Rhagod Elenydd a Gerallt Cymro



AD 400 – 1000
Tyfodd hunaniaeth a diwylliant Cymreig. Trosglwyddwyd chwedlau gan feirdd sy’n dyddio o gyfnod cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae The Historia Brittonum, c. OC 828, yn adrodd y chwedl a leolwyd yma yn y cwm yng Ngharngafallt, gyda’r chwedl yn cael ei ail-adrodd yn rhamant Cymreig Arthur Culwch ac Olwen, sy’n cynnwys y Brenin Arthur enwog.


1067
Prin flwyddyn wedi Concwest Normanaidd Lloegr, cipwyd y cyntaf o’r tiroedd Cymreig gan y Normaniaid.


1164
Dros y 200 mlynedd nesaf, cymerodd  y Normaniaid fantais a ryfela mewnol y Cymry gan ennill tir a dylanwad. Yn ystod diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a llawer o’r ddeuddegfed ganrif, ymladdwyd dros berchnogaeth Cwmteuddwr rhwng teyrnas Gymreig y Deheubarth ac Arglwyddi Eingl-Normanaidd y Gororau. Nid rhyfela erchyll oedd y cyfan, fodd bynnag; ym 1164, fe roddodd y marchog Normanaidd, Robert FitzStephen, dir i fynachod Abaty Hendy-Gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin. Gyda nawdd oddi wrth Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys), fe sefydlwyd Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Roedd pyllau ucheldir yr Elenydd yn cyflenwi’r mynachdy gyda llysywod a brithyllod ffres.


1176
Tua diwedd y ddeddegfed ganrif fe grebachodd Cymru o dan gyrchoedd y Normaniaid. Erbyn hyn roedd Rhys ap Gruffydd yn arglwyddiaethu dros lawer o Gymru o’r Deheubarth. Roedd Elfael, sef rhanbarth a oedd yn rhan o ardal gyfoes Sir Faesyfed, dan oruchwyliaeth Einion Clud. Dynoda Maen Serth fan llofruddiaeth Einion gan Roger de Mortimer, wedi iddo ymosod arno yng ngaeaf 1176.


1177
Mae’n debyg bod Rhys ap Gruffydd wedi adeiladu Castell Rhaeadr yn y flwyddyn canlynol 1177.


1184
Rhoddwyd tir plwyf Cwmteuddwr, gan gynnwys ardaloedd Elan a Chlaerwen, i Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur gan Rhys ap Gruffydd ym 1184.


1188 – 1194
Ym 1191, dewisiwyd Gerallt Gymro i fynd gydag Archesgob Caergaint, i deithio Cymru ar ymgyrch recriwtio ar gyfer y Trydydd Croesgad. Ym 1191, lluniodd Gerallt yr Itinerarium Cambriae. Roedd ei waith yn cynnwys disgrifiad o ardal yr Elenydd, felly yn llunio’r cofnod hanesyddol ysgrifenedig cyntaf o Gwm Elan.


1196 – 1197
Ar ôl marwolaeth y Brenin Hari yr 2il, nid oedd Rhys ap Gruffydd bellach yn credu ei fod wedi’i rwymo gan y cytundebau roedd wedi rhannu gyda’r diweddar frenin. Fe ymosododd Rhys ar arglwyddi’r Normaniaid a oedd yn tresamsu ar ei dir, gan orchfygu’r fyddin a arweinwyd gan Roger Mortimer a Hugh de Say ger Faesyfed er roedd cryn bris i’w dalu: lladdwyd 40 o farchogion yn y frwydr olaf hon i’w hymladd gan Rhys, a bu farw yn annisgwyl ym 1197.


Yr Oesoedd Canol Diweddar
Gwleidyddiaeth, Gwlân o’r Elan a Diddymu Abaty Ystrad Fflur


1231
Ar ôl marwolaeth Rhys ap Gruffydd, teyrnasodd Llywelyn Fawr dros y rhan fwyaf o Gymru trwy deyrnas ogleddol Gwynedd. Ehangodd Llywelyn ei barth ymhellach wrth i’r cwm a’r cyffiniau newid dwylo, a dinistrwyd Castell Rhaeadr am resymau anhysbys ac ni chafodd ei ailadeiladu.


1200 – 1300
Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr, fe ddaeth y Goncwest Edwardaidd â Chymru o dan reolaeth Edward Iaf. Codwyd cylch o gestyll nerthol yng Ngogledd Cymru er mwyn cadarnhau rheolaeth Edward. Gorchmynodd Edward clirio ardal yr Elenydd oherwydd bod “y coed yn cysgodi lladron”.


1238
Fe ddaeth Abaty Ystrad Fflur yn leoliad i gyngor enwog Llywelyn Fawr er mwyn cwrdd â chyd-lywodraethwyr Cymreig, gan ofyn iddynt i gydnabod ac i dynnu llw i’w unig fab cyfreithlon (ond nid yr hynaf), Dafydd.


1300 – 1400
Tryw gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaeth y mynachod allforio gwlân o Gwm Elan mor bell a Fflandrys a Fflorens lle cafodd ei werthfawrogi’n fawr.


1401 – 1415
Sbardunodd anghydfod rhwng perchnogion tir cyfagos, yr Arglwydd Grey Rhuthun ac Owain Glyndŵr, wrthryfel pedair blynedd ar ddeg yn erbyn y Brenin Harri IV. Ailbwrpaswyd Abaty Ystrad Fflur gan Hari’r IV fel canolfan filwrol er mwyn llonyddu’r gwrthryfel. Dychwelwyd yr abaty wedi hynny i’r Sistersiaid ar ddiwedd y gwrthryfel.


1536 – 1538
Fe ddaeth y Deddf Uno â Chymru o dan gyfraith Lloegr ym 1536 gyda chyfundrefn gyfreithiol Lloegr yn disodli deddfau brodorol Cymru. Dwy flynedd yn ddiweddarach, anfonwyd John Leland, hynafiaethydd Saesneg, gan y Brenin Hari’r VIII i gael mynediad at Abaty Ystrad Fflur. Cofnododd Leland ei gyfarfodydd â heusorion lleol yr Elenydd, a ddywedodd wrtho am chwedl leol yn ymwneud â chawr o’r enw Arthur.


1539
Gyda Diwygiad Protestannaidd yr Eglwys dan Hari’r VIII diddymwyd y mynachlogydd, polisi a gafodd ei gyflwyno ym 1536. Fe gaewyd y mynachlogydd, ac atafaeluwyd tiroedd a chyfoeth yn Lloegr a Chymru. Roedd hyn yn cynnwys Abati Ystrad Fflur ym 1539.


1569
Un o’r cyfeiriadau cynharaf i dyfu ŷd yn lleol oedd mewn prydles fferm Ciloerwynt yn Nyffryn Claerwen ym 1569.


Cyfnod Modern Cynnar
Mwynglawdd Gwaith-y-mwynau, Rhyfel Cartref Lloegr a ‘Coombe-Ellen’ gan Bowles


1609
Roedd cloddfa Gwaith y Mwynau o dan berchnogaeth Syr Hugh Middleton a, ym 1609, ddechreuodd adeiladu camlas 61 cilometr er mwyn defnyddio disgyrchiant i fwydo dŵr ffres i ddinas Llundain, a adwaenwyd fel New River. Cwblhawyd ei waith ym 1613.


1632 – 1651
Pan ddechreuodd Rhyfel Cartref Lloegr ym 1642, fe wnaeth y rhan fwyaf o Gymru ochri gyda’r Brenhinwyr. Roedd Cymru yn hanfodol ar gyfer cael recriwtiaid ac arian ar gyfer achos y Brenhinwyr. Fe ddarparodd cloddfa Gwaith y Mwynau arian er mwyn ariannu ymdrech rhyfel y Brenin Siarl Iaf.


1798
Fe ymwelodd y bardd, critig a chlerigwr Saesneg William Lisle Bowles â Chwm Elan ym 1798, gan ysgrifennu’r gerdd Coombe-Ellen, sef darn enfawr 351 o linellau yn mynegi ei werthfawrogiad o fywyd a harddwch natur yr ardal.


Oes Fodern
Percy Bysshe Shelley, Terfysgoedd Rebecca ac Adeiladu’r Argaeau


1809
Fe ddaeth Thomas Grove Jr, sef cefnder y bardd enwog Percy Bysshe Shelley, yn Feistr ar Ystâd Cwm Elan ym 1809.


1811
Fe ymwelodd Shelley â Chwm Elan rhwng mis Mehefin a mis Awst 1811.


1812
Ym mis Ebrill, fe ddychwelodd Shelley gyda’i wraig Harriet gan ymsefyldu yng Nghwm Elan, y tro hwn yn byw yn Nhŷ Nantgwyllt. Fe wnaeth amgylchiadau ariannol a gwleidyddol eu gorfodi allan o’u cartref erbyn y mis Mehefin.


1843 – 1844
Fe wnaeth dirwasgiad economaidd ac anfodlonrwydd hir dymor gyda thollau yr Ymddiriedolaeth Turnpike arwain at Helyntion Beca, a ddisgrifiwyd felly am i’r terfysgwyr wisgo dillad menywod. Ymosodwyd ar dollborth Blaenycwm, ac a leolwyd ar ben Cwm Elan gan derfysgwyr ym 1843.


1877 – 1899
Ar ôl darganfod gwythïen fwyn oddeutu 1877, fe ddechreuodd gwaith ar Gloddfa Nant y Garw ym 1882. Newidodd y gloddfa ddwylo o Builth Lead Mining Co Ltd i Nantygarw Mining Co Ltd nes i’r gwaith gael ei adael ym 1899.


1892
Fe wnaeth datblygiad cyflym dinas ddiwydiannol Birmingham arwain at ddiffyg dŵr glân a pharod. Roedd pobl Birmingham yn dibynnu ar ddŵr afiach, a arweiniodd at achosion o deiffoid, colera a dysentri. Achosodd hyn i Gyngor Sir Birmingham i anfon deiseb at y Llywodraeth Prydeinig, gan basio Deddf Dŵr Corfforaeth Birmingham ym 1892, a arwyddwyd gan y Frenhines Fictoria ym mis Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Fe alluogwyd y Ddeddf Seneddol hwn i wneud pryniant gorfodol ar wahanfa ddŵr o fewn ardal yr Elenydd at y pwrpas o adeiladu cronfeydd dŵr, argaeau a gorsafoedd ffilter, casglu, glanhau a chyfarwyddo dŵr glân i Birmingham.


1893 – 1896
Blwyddyn ar ôl i Ddeddf Dŵr Corfforaeth Birmingham gael ei harwyddo, fe ddechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r argaeau. Adeiladwyd rheilffordd dros gyfnod o dair mlynedd a phentref o gytiau pren er mwyn cartrefi’r gweithwyr ym Mhentref Elan.


1896
Fe ddechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r draphont ddŵr ym 1896, a gwblhawyd gan gontractwyr allanol mewn adrannau penodedig.


1903 – 1914
Rhwng 1903 a 1914, cynhaliodd Dyffryn Elan weithgareddau blynyddol gan y Royal Garrison Artillery a fu’n gwersylla ar draws y rhosydd gyda howitzers. Erbyn 1904, gorffenwyd y gwaith o adeiladu’r argaeau. Gosodwyd y seiliau ar gyfer argae Dôl y Mynach yng ngham un. Ar yr 21ain o Orffennaf 1904 fe agorwyd yr argaeau gan y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra ac wythnos yn ddiweddarach ar yr 28ain o Orffennaf 1904, fe ddechreuodd y llif parhaus o ddŵr trwy’r draphont ddŵr.


1914 – 1918
Gohiriwyd adeiladu’r ail gam oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe ddaethpwyd â Chwnstabliaid Arbennig o Birmingham i’r cwm er mwyn gwarchod y gweithfeydd trin.


1939 – 1945
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd gwarchodwyr llawn amser ar ddau ben y ffordd i mewn ac allan o’r cwm. O 1940 – 1941, adeiladwyd pilbocsys er mwyn gwarchod y cyflenwad dŵr rhag ymosodiadau. Ym mis Hydref 1940, gosodwyd lansiadau modur a ddarparwyd gan y Morlys ar sawl cronfa ddŵr, er y rhoddwyd y gorau i’r cynllun hwn ar ôl mis pan gymerodd ceir arfog drosodd.


1946
Er mwyn darparu ar gyfer y galw cynyddol am ddŵr gan Birmingham, fe ddechreuodd gwaith uchelgeisiol ym 1946 ar adeiladu Argae’r Claerwen. Er ei bod wedi’i adeiladu o goncrit, gosodwyd cerrig nadd yn wyneb i’r argae enfawr ar gryn gost ychwanegol er mwyn iddo gydymffurfio â’r argaeau eraill.


1952
Ar y 23ain o Hydref, 1952, fe agorwyd Argae’r Claerwen gan y Frenhines Elisabeth II fel un o’i hymrwymiadau cyntaf fel Brenhines.


1965
Dynodwyd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) cyntaf ar yr Ystâd ym 1965.


1974
Ym 1974, dynodwyd y cwmnïau dŵr unigol a chafodd Dŵr Cymru Welsh Water y cyfrifoldeb dros Ystâd Elan, argaeau a chronfeydd dŵr.


1985
Agorwyd Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan ym 1985.


1989
Cafodd Cwm Elan ei gynnwys yn Ardal Amgylcheddol Sensitif Mynyddoedd y Cambria ym 1989 a sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwm Elan ar ôl preifateiddio’r cwmnïau dŵr. Mae cyfrifoldebau’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys gwarchod bywyd gwyllt ar yr ystâd ac annog dealltwriaeth a mynediad i’r cyhoedd.


1995
Ym 1995, fe ddyfarnwyd Elenydd-Mallaen yn Ardal Gwarchodaeth Arbennig o dan Gyfarwyddeb Ewropeaidd Adar Gwyllt.


2002
Yn 2002, fe ddathlodd Argae’r Claerwen ei hanner can mlwyddiant gydag agor yr argae er mwyn i ymwelwyr allu gweld y tu mewn iddo.


2004
Fe ddathlodd Cwm Elan ei hanner can mlwyddiant gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig.


2016
Wedi cael ei ddatblygu ers 2013, fe ddechreuodd cynllun Elan Links. Cynllun wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yw Elan Links gyda’r bwriad o warchod y dreftadaeth hon ac i hybu cyfleoedd sydd ar gael yng Nghwm Elan ar gyfer y dyfodol.  

The post Amserlen appeared first on Elan Valley.

]]>