June 2023 | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/post_month/2023-06-01/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Tue, 06 Jun 2023 14:22:49 +0000 cy hourly 1 Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2023 https://elanvalley.org.uk/cy/uncategorized-cy/golwg-ar-wybren-y-nos-mis-mehefin-2023/ Tue, 06 Jun 2023 14:21:58 +0000 https://elanvalley.org.uk/?p=6032 Croeso i rifyn y mis hwn o Olwg ar Wybren y nos, lle byddwn yn datgelu’r gwrthrychau gorau sydd i’w gweld yn wybren y nos yn ystod mis...

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2023 appeared first on Elan Valley.

]]>

Croeso i rifyn y mis hwn o Olwg ar Wybren y nos, lle byddwn yn datgelu’r gwrthrychau gorau sydd i’w gweld yn wybren y nos yn ystod mis Mehefin.

Mae llai o amser ar gyfer syllu ar y sêr go iawn y mis hwn ond mae hi dal yn bosibl i fwynhau dyfnder cyfnos yr wybren.

Mae Heuldro’r Haf yn digwydd ar yr 21ain o Fehefin eleni, lle mae Pegwn y Gogledd ar ei ogwydd mwyaf tuag at yr Haul.  Yn hemisffer y gogledd, mae’r haul yn codi am 4:44yb ac yn machlud am 9.20yh, sy’n rhoi cyfanswm o 16 awr a 38 munud o olau dydd.

Cytser Mehefin

Mae cytserau gwanwyn y Llew a’r Forwyn yn machlud yn y gorllewin a chytserau’r Haf yn harddu wybren y nos.  Mae cytserau’r Alarch, Ercwlff, Telyn Arthur ac Ophiuchus yn goruchafu gyda thrysorau hyfryd yn nyfnder yr wybren y gellir eu gweld efallai gyda thelesgop mawr (er enghraifft, Clwstwr Cronellog Mawr yn Ercwlff, Nifwl Cylch a’r Nifwl Llen) ond mae’n well aros tan i’r wybren dywyllach ddychwelyd cyn eu hastudio.

Fe allwch lawrlwytho map argraffedig o’r cytserau oddi yma (clod:  Dominic Ford, awdur in-the-sky.org)

Mae’r Lleuad Lawn yn digwydd ar y 4ydd o Fehefin a’r Lleuad Newydd ar y 18fed o Fehefin.

Cytser y Blaned Gwener a’r Lleuad

Ar yr 21ain o Fehefin, cymerwch gipolwg ar gytserau hyfryd y blaned Gwener a’r Lleuad gilgant, sydd wedi’u lleoli’n isel yn wybren yr hwyr.  Wedi’r machlud, edrychwch arnynt yn ymddangos wrth i’r wybren dywyllu.  Efallai y gallwch weld y blaned Mawrth yn yr wybren orllewinol.  Os oes  gennych delesgop, gymerwch gipolwg ar y blaned Gwener – fe’i gwelwch yn ei chyfnod cilgant.

Cymylau Noctilucent

Mae’r cymylau noctilucent yn eu hanterth y mis hwn felly gwnewch yn siwr i gymryd eich cyfle i weld  ‘cymylau disglair y nos’ sy’n ymddangos ychydig o oriau wedi’r machlud a chyn y wawr.  Nid yw’n hawdd i’w rhagweld ac fe all fod yn rhwystredig i aros tan yr hwyr  heb eu gweld, ond mae Netweather.tv yn cynnig cyngor ardderchog er mwyn astudio’r data sydd ar gael a fydd yn cynyddu eich cyfle i’w gweld pan fyddant yn digwydd.  Mae’r cymylau hynod hyn, sydd wedi’u lleoli 200,00 o droedfeddi uwch ein pennau, yn newid yn araf ac yn newid eu ffurfiad dros amser, yn encilio ac yn ymledu o flaen ein llygaid.  Mae’r cymylau noctilucent yn gallu edrych yn aruthrol trwy ysbienddrych – os oes rhai gennych wrth law, cymerwch gipolwg ar y ffurfiad manwl.

Y Blaned Sadwrn a’r Blaned Iau

I’r rhai ohonoch sy’n codi’n gynnar, mae’r blaned Sadwrn a’r blaned Iau yn harddu’r wybren cyn y wawr.  Mae’r blaned Sadwrn yn gwawrio oddeutu 2yb ar ddechrau’r mis, gyda’r blaned Iau yn dilyn am 3.20yb.  Erbyn diwedd y mis, fe fydd y ddwy blaned wedi’u lleoli’n eithaf da i’w hastudio gyda thelesgopau.  Defnyddiwch ysbienddrych er mwyn ceisio gweld lleuadau’r blaned Iau.

Y Dwbl-Dwbl

Ar gyfer gwrthrychau’r wybren ddofn, ceisiwch ddod o hyd i’r ‘Dwbl Dwbl’ yng nghytser Telyn Arthur.  Fe’i hadwaenir yn swyddogol fel Epsilon Lyrae, fe gellir ei gweld yn hawdd gan ddefnyddio’r seren lachar Fega, sy’n ffurfio rhan o dair seren ddisglair a elwir yn Driongl Haf:  Deneb yng nghytser yr Alarch, Fega yng nghytser Telyn Arthur ac Altair yng nghytser Aquila. 

Ar ôl lleoli Fega defnyddiwch y seren sydd uwchlaw a elwir yn Zeta 1 Lyrae ac wedyn lleolwch y drydydd seren Epsilon Lyrae, sy’n ffurfio triongl.

Pan fyddwch wedi darganfod Epsilon Lyrae, edrychwch arni trwy ysbienddrych ac fe fyddwch yn gallu rhannu’r seren yn ddwy: Epsilon Lyrae 1 ac Epsilon Lyrae 2.

.

Gyda thelesgop ag agorfa o chwe modfedd ac uwch, fe fyddwch yn gallu gweld fod gan Epsilon Lyrae 1 ac Epsilon Lyrae 2 ail seren yr un, gan eu gwneud yn system seren ddeuaidd.  Fe all edrych trwy delesgop rhoi olygfa wahanol ond mae’n bosibl i rannu’r ddwy seren yn bedair.  Mewn gwirionedd mae gan y system seren dwbl dwbl pumed seren, sydd ond yn weladwy gydag offer arbenigol.  

The post Golwg ar Wybren y Nos – mis Mehefin 2023 appeared first on Elan Valley.

]]>