Gwyliau Beicio | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/stay_categories/cycling-holidays/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Fri, 25 Apr 2025 11:30:08 +0000 cy hourly 1 Y Beudy https://elanvalley.org.uk/cy/llety/y-beudy/ Wed, 23 Nov 2022 14:00:00 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=stay&p=3108 Y Beudy Rhan isaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Y Beudy, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd yr adeilad ym...

The post Y Beudy appeared first on Elan Valley.

]]>

Y Beudy

Rhan isaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Y Beudy, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd yr adeilad ym 1999 gan gadw llawer o’r nodweddion traddodiadol ac sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel dau uned hunan arlwyol sef yr uchaf – Hen Dŷ a’r isaf – Y Beudy.

Lleolir Tŷ Hir Llannerch y Cawr ger cronfa ddŵr Dôl y Mynach yng Nghwm Claerwen a cheir mynediad hawdd i brif ffordd Cwm Claerwen. Mae’r eiddo ond 7 milltir y tu allan i dref Rhaeadr Gwy, tua 4.5 milltir o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan a 6 milltir o ystafelloedd te Tŷ Penbont.

Yn hanesyddol mi fuasai rhan Y Beudy yn y Tŷ hir wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer da byw gan ychwanegu y llawr cyntaf yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg neu’n gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Y Beudy yn cynnwys nodweddion dilys trawiadol megis lloriau o goblau a fflagenni, nenfydau â thrawstiau, ystrwythurau o bren a hyd yn oed ystlumod yn y to! Nid yw’r eiddo wedi’i gysylltu â’r grid ac mae’n cael ei weithredu gan generadur. Nid oes signal ffôn na WiFi yn yr eiddo, sy’n caniatáu i chi gymryd seibiant o dynnu sylw ac ymlacio.

*Noder bod y lloriau yn anwastad oherwydd y coblau ac felly yn llai addas ar gyfer yr ifanc a’r eiddil.

Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, gall yr ystlumod fod yn aflonyddgar iawn gyda synau crafu a llawer o hedfan yn ôl ac ymlaen.

Llety

  • Cysgu: 3-5
  • Ystafelloedd gwely: 1 (gyda gwely-maint-brenin ac gwely-sengl), gwely-soffa mewn ystafell fyw
  • Ystafelloedd ymolchi: 2
  • Ystafelloedd eraill:  Kitchen, large dining and living room
  • Addas i blant: Dim
  • Cyfeillgar i anifeiliaid anwes: Oes

Cyfleusterau

  • Bath
  • Cawod
    Peiriant golchi
  • Oergell
  • Rhiwgell
  • TV a sianeli Freeview
  • DVD
    Ffôn talu
  • Mae gwres yn cael ei gynnwys
  • Mae trydan (drwy eneradur) yn cael ei gynnwys
  • Darperir lliain a thywelion
  • Safle picnic
  • Cot teithio a chadair uchel
  • Yr ardd gaeëdig

Cost

Am fanylion ac ymholiadau am gyfnodau byr, cysylltwch â Swyddfa’r Ystad 01597 910449. Diolch.

Archebwch nawr

I archebu defnyddiwch y dewisydd mis uwchben y calendr er mwyn dod o hyd i’ch mis dewisol.  Gosodir yr adeilad o ddydd Gwener hyd ddydd Gwener felly mae’r rhifau amlwg yn dynodi pryd y gall y cyfnod rhentu ddechrau.  Caniateir Arhosiad Byr o ddydd Gwener hyd ddydd Llun a dydd Llun hyd ddydd Gwener a gellir eu bwcio ar-lein.  Os oes unrhyw anhawster ffoniwch ni ar 01597 810449  neu ebostiwch info@elanvalleytrust.org  

Nodwch wrth lanw’r wybodaeth ganlynol eich bod yn caniatáu i’ch data personol gael ei gadw. Cedwir y data ar gyfer gwneud y bwcio ac ni rennir neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall.

Your widget will appear here.

The post Y Beudy appeared first on Elan Valley.

]]>
Hen Dŷ https://elanvalley.org.uk/cy/llety/cy-hen-dy/ Wed, 23 Nov 2022 13:56:15 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=stay&p=3104 Hen Dŷ Rhan uchaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Hen Dŷ, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg.  Adnewyddwyd yr adeilad ym...

The post Hen Dŷ appeared first on Elan Valley.

]]>

Hen Dŷ

Rhan uchaf Tŷ Hir Llannerch y Cawr yw Hen Dŷ, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r unfed ganrif ar bymtheg.  Adnewyddwyd yr adeilad ym 1999 gan gadw nifer o’r nodweddion traddodiadol, ac erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio fel dau uned hunan arlwyol, yr Uchaf – Hen Dŷ a’r Isaf – Y Beudy. 

Lleolir Tŷ Hir Llannerch y Cawr ger gronfa ddŵr Dôl y Mynach yng Nghwm Claerwen gyda mynediad hawdd i brif ffordd Cwm Claerwen.  Mae’r adeilad 7 milltir tu allan i dref Rhaeadr a thua 4.5 milltir o Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

Yn hanesyddol mi fuasai pobl wedi byw yn rhan Hen Dŷ o’r Tŷ Hir ac mae’n cynnwys lloriau fflagenni dilys, lle tân agored llydan, nenfydau â thrawstiau, grisiau cerrig (anwastad) dirdroad* a hyd yn oed ystlumod yn y to!

*Noder bod y lloriau yn anwastad oherwydd y lloriau anwastad a’r grisiau dirdroadol nid yw’r adeilad hwn yn addas ar gyfer yr eiddil neu phlant ifanc.

Nid yw’r eiddo wedi’i gysylltu â’r grid ac mae’n cael ei weithredu gan generadur. Nid yw’r eiddo wedi’i gysylltu â’r grid ac mae’n cael ei weithredu gan generadur. Nid oes signal ffôn na WiFi yn yr eiddo, sy’n caniatáu i chi gymryd seibiant o dynnu sylw ac ymlacio.

Llety

  • Cysgu: 4-6
  • Ystafelloedd gwely: 1 dwbl, 1 dau wely, ac yn ychwanegol soffa-wely i ddau berson i lawr y grisiau
  • Ystafelloedd ymolchi: 2
  • Ystafelloedd eraill: Cegin, ystafell fyw/fwyta agored fawr
  • Addas i blant: Dim
  • Addas ar gyfer anifeiliaid anwes

Cyfleusterau

  • Bath
  • Cawod
  • Peiriant golchi
  • Oergell
  • Rhiwgell
  • TV a sianeli Freeview
  • DVD
  • Mae gwres yn cael ei gynnwys
  • Mae trydan (drwy eneradur) yn cael ei gynnwys
  • Darperir lliain a thywelion
  • Darperir coed tân
  • Safle picnic
  • Yr ardd gaeëdig
  • Cot teithio a chadair uchel
  • Ffôn talu

Cost

Am fanylion ac ymholiadau am gyfnodau byr, cysylltwch â Swyddfa’r Ystad 01597 910449. Diolch.

Archebwch nawr

I archebu defnyddiwch y dewisydd mis uwchben y calendr er mwyn dod o hyd i’ch mis dewisol.  Gosodir yr adeilad o ddydd Gwener hyd ddydd Gwener felly mae’r rhifau amlwg yn dynodi pryd y gall y cyfnod rhentu ddechrau.  Caniateir Arhosiad Byr o ddydd Gwener hyd ddydd Llun a dydd Llun hyd ddydd Gwener a gellir eu bwcio ar-lein.  Os oes unrhyw anhawster ffoniwch ni ar 01597 810449  neu ebostiwch info@elanvalleytrust.org  

Nodwch wrth lanw’r wybodaeth ganlynol eich bod yn caniatáu i’ch data personol gael ei gadw. Cedwir y data ar gyfer gwneud y bwcio ac ni rennir neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall.

Your widget will appear here.

The post Hen Dŷ appeared first on Elan Valley.

]]>
Byncws Cwm Clyd https://elanvalley.org.uk/cy/llety/byncws-cwm-clyd/ Fri, 18 Nov 2022 12:48:30 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=stay&p=2687 Our spacious, purpose-built group accommodation has all you need to make the most of your stay in the Elan Valley

The post Byncws Cwm Clyd appeared first on Elan Valley.

]]>

Byncws Cwm Clyd

Mae gan ein llety eang at bwrpas, bopeth sydd angen arnoch i gael amser da yn ystod eich arhosiad yng Nghwm Elan. Mae’r llety hunan arlwyol yn groesawgar a chyffyrddus gyda chyfleusterau wedi’u cynllunio’n addas sy’n eich galluogi i ymlacio ar ôl diwrnod yn yr awyr agored. Mae’r ardd heddychlon yn cynnig lle perffaith i fwynhau’r nosweithiau gyda lle i eistedd tu allan, a ffwrn cob.

Mae’r adeilad byncws yn cynnwys tri adeilad:

Mae gan y prif adeilad gegin wedi’i gynhesu’n llawn gyda ffwrn Rangemaster, ardal fwyta gyda llosgwr pren, un ystafell wely mynediad i gadair olwyn a chawodydd/ystafelloedd ymolchi. Sylwch nad oes cyfleusterau dynion/menywod ar wahân.

Mae’r ddau adeilad arall yn ardaloedd cysgu, a enwir y Cartws (cysgu chwech mewn dwy ystafell) a’r Tŷ Hir (cysgu 14 mewn tair ystafell y gellir eu cloi).

Felly, gall y safle cyfan gynnwys cyfanswm o 21 o bobl dros chwe ystafell, gan gynnwys yr ystafell wely mynediad i gadeiriau olwyn.

Gellir archebu’r Carthouse a’r Longhouse fel dau lety ar wahân.

Mae lleoliad Y Byncws yn hwylus ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau yn yr awyr agored megis cerdded, seiclo a physgota, ac yn berffaith ar gyfer syllu ar y sêr ym Mharc Wybren Dywyll Cwm Elan. Rydym yn cynnig awyrgylch ymlaciol gyda golygfeydd godidog a rhywbeth at ddant pawb.

Mae’n berffaith ar gyfer grwpiau o ffrindiau neu ar gyfer dau deulu yn dod at ei gilydd.

Y Tŷ Hir:

Y Tŷ Hir cyfan: £300
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £17 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.

Y Cartws:

Y Cartws cyfan (2 ystafell) – hyd at 6 o bobl: £128
Ystafell sy’n addas ar gyfer cadair olwyn: £17 (ond i’w logi wrth fwcio’r Cartws neu’r Tŷ Hir ac nid ar gyfer un person yn unig)

Archebwch nawr:

Your widget will appear here.

The post Byncws Cwm Clyd appeared first on Elan Valley.

]]>