Events Archive | Elan Valley https://elanvalley.org.uk/cy/visit-cymraeg/digwyddiadau/ Elan. Yr eiddoch i'w Archwilio Sat, 16 Nov 2024 16:15:01 +0000 cy hourly 1 Lansio Pecyn Mynd am Dro i’r Bryniau y Cerddwyr https://elanvalley.org.uk/cy/events/lansio-pecyn-mynd-am-dro-ir-bryniau-y-cerddwyr/ Fri, 15 Nov 2024 16:14:31 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=8693 Mae Cerddwyr Powys, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, wedi dylunio pecyn deniadol o daflenni newydd sy’n amlinellu wyth taith gerdded ymestynnol ar draws Cwm...

The post Lansio Pecyn Mynd am Dro i’r Bryniau y Cerddwyr appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae Cerddwyr Powys, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, wedi dylunio pecyn deniadol o daflenni newydd sy’n amlinellu wyth taith gerdded ymestynnol ar draws Cwm Elan.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan y diweddar Chris Jones, oedd yn aelod poblogaidd o Gerddwyr Powys. Roedd e wrth ei fodd yn cerdded yn y dirwedd fendigedig yma ac yn awyddus i bobl eraill rannu’r un profiad.

Ar ôl lansio’r taflenni, bydd yna gyfle i fynd am dro gyda’r Cerddwyr. Bydd yna ddewis rhwng tro bach tua dwy filltir o hyd o’r ganolfan ymwelwyr, trwy bentref Elan ac ymlaen trwy’r goedwig i argae Caban Coch, neu daith hirach o ryw bum milltir y tu hwnt i Gaban Coch dros dirwedd fwy ymestynnol.

Bydd y pecynnau cerdded ar gael i’w gweld a’u prynu.

Am ddim

The post Lansio Pecyn Mynd am Dro i’r Bryniau y Cerddwyr appeared first on Elan Valley.

]]>
Cynnau Goleuadau’r Nadolig https://elanvalley.org.uk/cy/events/cynnau-goleuadaur-nadolig/ Fri, 15 Nov 2024 16:21:44 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=8701 Mae Siôn Corn yn mynd i fod yn brysur iawn yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan eleni. Yn ogystal ag ymuno yn ein Brecwast Tymhorol a chroesawu’r plant i’w...

The post Cynnau Goleuadau’r Nadolig appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae Siôn Corn yn mynd i fod yn brysur iawn yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwm Elan eleni. Yn ogystal ag ymuno yn ein Brecwast Tymhorol a chroesawu’r plant i’w Groto Gaeafol Hudolus, bydd yn cynnau goleuadau’r Nadolig i ni hefyd!

Ymunwch ag e yn y ganolfan ymwelwyr dydd Gwener, 6 Rhagfyr wrth iddo lansio goleuadau’r Nadolig. Bydd Côr Merched Llanfair ym Muallt yn ychwanegu at y naws Nadoligaidd, a bydd yna siocled poeth a mins peis i bawb.

Yn ogystal, er mwyn helpu i ymestyn eich arian ychydig bach ymhellach dros yr Ŵyl, bydd yna sêl arbennig yn ein siop, gyda disgownt o 10%* a pharcio am ddim.

Dyddiad: Dydd Gwener, 6 Rhagfyr

Sêl y Siop Anrhegion a Pharcio am Ddim: 2:30pm – 6:00pm

Siôn Corn yn Cyrraedd: 4:30pm

Cynnau Goleuadau’r Nadolig: 5:00pm

The post Cynnau Goleuadau’r Nadolig appeared first on Elan Valley.

]]>
Groto Gaeafol Hudolus y Goedwig https://elanvalley.org.uk/cy/events/groto-gaeafol-hudolus-y-goedwig/ Fri, 15 Nov 2024 16:33:55 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=8712 Mae Siôn Corn yn gadael Pegwn y Gogledd am ganolbarth Cymru eleni wrth iddo ymgartrefu yng Nghwm Elan dros gyfnod yr ŵyl! Bydd y plant wrth eu bodd...

The post Groto Gaeafol Hudolus y Goedwig appeared first on Elan Valley.

]]>
Mae Siôn Corn yn gadael Pegwn y Gogledd am ganolbarth Cymru eleni wrth iddo ymgartrefu yng Nghwm Elan dros gyfnod yr ŵyl!

Bydd y plant wrth eu bodd yn cwrdd â’r dyn ei hun wrth iddo estyn croeso cynnes i’w groto, sgwrsio â nhw a gwrando ar eu dymuniadau Nadoligaidd.

Byddan nhw’n cael rhodd a llun, a byddan nhw’n llawn cyffro i ymuno â’i dîm o gorachod hapus i greu addurniadau tymhorol a pharatoi bwyd i’r ceirw. A byddan nhw wrth eu bodd i fwynhau siocled poeth a bara sinsir o’r caffi hefyd.

I ffwrdd â nhw wedyn i chwilio am Elfie, corrach drygionus Siôn Corn sydd ar goll yng Nghoedwig y Cnwch. Dilynwch y llwybr i’w ffeindio!

Dydd Sadwrn 7, 14, 21 Rhagfyer | Dydd Sul 8, 15, 22 Rhagfyer

Dydd Gwener 20 Rhagfyer | Dydd Llun 23 Rhagfyer

£12.50 y Plentyn

The post Groto Gaeafol Hudolus y Goedwig appeared first on Elan Valley.

]]>
Stondinau Marchnad Nadolig https://elanvalley.org.uk/cy/events/stondinau-marchnad-nadolig/ Sat, 16 Nov 2024 16:07:47 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=8723 Bydd Cwm Elan yn trawsnewid y ganolfan ymwelwyr yn ferw o brysurdeb a danteithion y Nadolig eto eleni! Bydd yna o stondinau a fydd yn gwerthu amrywiaeth o...

The post Stondinau Marchnad Nadolig appeared first on Elan Valley.

]]>
Bydd Cwm Elan yn trawsnewid y ganolfan ymwelwyr yn ferw o brysurdeb a danteithion y Nadolig eto eleni!

Bydd yna o stondinau a fydd yn gwerthu amrywiaeth o grefftau cartref a rhoddion sy’n ddelfrydol fel anrhegion Nadolig.

Dydd Sadwrn 14 & Dydd Sul 15 Rhagfyer, 10.00am – 4.00pm

The post Stondinau Marchnad Nadolig appeared first on Elan Valley.

]]>
Brecwast gyda Siôn Corn https://elanvalley.org.uk/cy/events/brecwast-gyda-sion-corn/ Sat, 16 Nov 2024 16:15:01 +0000 https://elanvalley.org.uk/?post_type=events&p=8731 Ymunwch â ni am fore hudolus yng Nghaffi Cwm Elan wrth fwynhau brecwast gyda’r dyn ei hun! Bydd Siôn Corn yna i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am...

The post Brecwast gyda Siôn Corn appeared first on Elan Valley.

]]>
Ymunwch â ni am fore hudolus yng Nghaffi Cwm Elan wrth fwynhau brecwast gyda’r dyn ei hun!

Bydd Siôn Corn yna i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Nadolig a’i gorachod hud! A bydd ganddo anrheg i bob plentyn ar ôl iddynt fwynhau eu brecwast blasus hefyd. Wedyn, bydd yna ddigonedd o amser i fynd allan i’r maes chwarae antur neu am dro.

Dyddiad: Dydd Llun 23 a dydd Mawrth 24 Rhagfyr

Amser: 10am – 11:30am

Plentyn: £8.95 (yn cynnwys anrheg fach)

Oedolyn: £10.95

Brecwast y Plant 1 wy, 1 sosej, 1 bacwn, ffa pob, crempog Nadolig a diod ysgafn neu siocled poeth bach

Brecwast yr Oedolion 2 wy, 2 sosej, 2 bacwn, 1 tomato poeth, madarch, crempog Nadolig a the a choffi diderfyn

The post Brecwast gyda Siôn Corn appeared first on Elan Valley.

]]>