Cornel Hanes
Mae’r gorffennol yn fyw o hyd
Mae Cwm Elan yn enwog am ei argaeau Fictorianaidd anferth sy’n dal y cronfeydd dŵr yn ôl, atgof gweledol o sut mae ein hanes yn ffurfio’r tirlun a’r lle yr rydym yn gweithio ac yn byw ynddo heddiw. Cofnodir yr adeiladu mewn nifer o ddelweddau archifol a dynnwyd gan Gorfforaeth Dŵr Birmingham sy’n rhoi i ni mewnwelediad hynod i waith y peirianwyr Fictoraidd a’r gweithwyr. Fodd bynnaf, fe geir cyfoeth o hanes ar draws yr ystâd y gellir ei ddirnad o ddelweddau hanesyddol eraill, gan roi cipolwg i ni ar y gorffennol.
Cartrefwyd y gweithlu a leolwyd ar safle pentref Elan mewn rhesi o gytiau pren wedi’u cofnodi mewn ffotograffau a gallwn, o arsylwi’n ofalus, sefyll yn yr union fan y tynnwyd y llun 150 mlynedd yn ôl.
Roedd Garsiwn y Magnelwyr Brenhinol yn gwersylla uwchben y cronfeydd dŵr o 1903 hyd 1914 ar gyfer ymarfer saethu a gellir pennu lleoliad y gwersylloedd haf hyn drwy alinio’r gorwel ar ben y bryn heddiw gyda’r cerdyn post archifol hwn.
Mae’r arbrofion cudd fel rhan o ‘Operation Chastise’ i ddinistrio argae Nant y Gro ym 1942 yn rhoi cipolwg i ni ar sut mae’r tirwedd wedi newid gyda cherrig wedi’u golchi i lawr a’r cwymp dilynol o adrannau ar ddiwedd yr argae a gafodd eu dinistrio. Tynnwyd y ddelwedd hon yn syth ar ôl yr arbrawf llwyddiannus ac mae’n dangos yn eglur bod mwy o’r argae wedi goroesi nag ydym yn gweld heddiw.
Yn y cyhoeddiad nesaf fe fyddaf yn edrych ar nodweddion hanesyddol llai amlwg wrth i ni gofnodi twmpathau newydd yn y ddaear a dangos hanesion cudd sydd i lawer o bentyrrau o gerrig, tomennydd a ffosydd ar draws yr ystâd.