Gweithiwr Fferm (rhan amser)
Cyflog: £30,000 – £35,000 (pro rata)
Oriau: 22.5 awr yr wythnos
Lleoliad: Ystâd Elan, Pentref Elan, Rhaeadr, Powys, LD6 5HP
Trosolwg o’r Swydd:
‘Rydym yn chwilio am Weithiwr Fferm hunan ysgogedig a brwdfrydig a all rheoli da byw ar fferm ucheldirol, gan gyflawni amrywiaeth o dasgiau ar draws ein daliadau mewn llaw.
Fe fyddwch yn gyfrifol am fugeilio o ddydd i ddydd ar un o’n daliadau ar y bryn, ac yn gweithio fel rhan o dîm ehangach gan gynorthwyo ein mentrau da byw eraill, a chyflawni amrywiaeth o dasgiau cynnal a chadw fferm.
Fe fydd yr ymgeisydd delfrydol yn :
- Brofiadol mewn rheoli da byw (defaid a gwartheg) mewn amgylchedd ucheldirol
- Yn meddu ar y gallu i weithio’n dda fel rhan o dîm
- Profiadol i gynnal a chadw fferm gan gynnwys ffensio a gwaith llif
gadwyn - Hyblyg ac yn awyddus i gefnogi uchelgeisiau ehangach yr
Ymddiriedolaeth
Y buddion:
- Ymuno â thîm profiadol mewn lleoliad hyfryd
- 23 diwrnod o wyliau blynyddol (codi i uchafswm o 28) gyda
gwyliau banc yn ychwanegol - Cyfraniadau pensiwn uwch
- Cynllun iechyd ariannol
Dyddiad Cau: Dydd Llun 26ain Hydref 2026
