Amdanomi

Home » Amdanomi

Dŵr Cymru Welsh Water yw perchnogion Stad Elan ond mae’r rhan fwyaf ohoni wedi’i breinio yn Ymddiriedolaeth Cwm Elan ar brydles 999 mlynedd. Mae darparu cyflenwad dŵr glân yn un o brif swyddogaethau’r Stad – ac felly mae’r ardal gyfan yn cael ei rheoli mewn ffordd eco-gyfeillgar er mwyn diogelu ansawdd y dŵr. Mae hynny, yn ei dro, yn golygu bod cyfoeth o fywyd gwyllt amrywiol yn y cwm. Yn wir, mae’r ardal gyfan yn rhan o Ardal Amgylcheddol Sensitif (AAS) Mynyddoedd Cambria; mae’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer adar gwyllt; ceir ynddi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ar gyfer cynefinoedd; ac mae’r rhan fwyaf o’r tir wedi’i ddynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA).

Rydym yn gwerthfawrogi arwyddocâd y dynodiadau hyn ac yn cynnal rheolaeth ymarferol ar gynefinoedd yn rheolaidd, cadwraeth yn ogystal â gweithio i wella hygyrchedd.

Rydym yn gweithio’n galed i warchod creaduriaid a phlanhigion Stad Elan, i annog y cyhoedd i ymweld, i hybu addysg amgylcheddol ac i warchod y Stad rhag datblygiadau anaddas.

Ymddiriedolaeth Cwm Elan sy’n gyfrifol am weinyddu’r rhan fwyaf o’r Stad 72 milltir sgwâr fel Landlord i 28 o ffermydd a 38 o dai, a ffermio 9 bloc o dir ‘mewn llaw'(sef cyfanswm o dros 7,000 erw) a gofalu am gyfleusterau ar gyfer y cyhoedd, bythynnod gwyliau a chynnal a chadw’r stad yng Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen.

Mae hon yn ardal o harddwch naturiol ond bu gan ddyn law yn ei ffurfio hefyd. Mae’n ardal i’w mwynhau a’i diogelu gan bawb ohonom. Fel gwarchodwyr Cwm Elan, edrychwn ymlaen at eich croesawu a hoffem glywed eich ymateb, eich barn a’ch pryderon.