Daeareg

Home » Treftadaeth » Daeareg

Moroedd Hynafol a Drifft Cyfandirol

Ffurfiwyd y creigiau gwaelodol o dan dirwedd Cwm Elan allan o waddodiona dyddodwyd rhwng 445 a 433 o filiynau o flynyddoedd yn ôl, yng nghyfnod yr Ordoficaidd hwyr a’r Silwraidd cynnar. Enwyd y cyfnodau daearegol yma ar ôl dau lwyth Brydeinig a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a’r Feddiannaeth Rufeinig. Roedd tiriogaeth yr Ordivicii, sy’n golygu ymladdwyr morthwyl, yn cynnwys Mynyddoedd y Cambria a Chwm Elan.

Dyddodwyd y gwaddodion hynafol hynmewn basn môr dwfn, a elwir nawr yn Fasn Cymreig. Ffurfiwyd hwn ar ymyl  microgyfandir yr Afalonia Dwyreiniol, pryd hynny ger Pegwn y De, pan dorrodd i ffwrdd o ehangdirdeheuol enfawr y Gondwana. Miliynau o flynyddoedd yn ddiweddarach rhannwyd gweddill y Gondwana yn Affrica, De America, India, Awstralasia ac Antarctica. Ond roedd tynged gwahanol i Ddwyrain Afalonia, a ddaeth yn Ne Prydain (gan gynnwys Cymru), De Iwerddon a rhannau o ogledd a dwyrain Ewrop. Cawsant eu cludo tua’r gogledd gan grymusterau platiaudectoneg gan wrthdaro gydag ehangder cyfandirol enfawr arall o’r enw Laurentia (Gogledd America, Yr Ynys Las, Yr Alban a Gogledd Iwerddon). Digwyddodd y gwrthdrawiad yma tua 425 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ar 25 gradd o’r de i’r cyhydedd, gan greu cyfandir y Laurussia (yr Hen Gyfandir Tywodfaen Coch) a unodd gogledd a de Prydain ac Iwerddon ar yr ymyl deheuol.

Eirlithradau Tanddwr

Yn ystod ei daith 50 o filiynau o flynyddoedd tua’r gogledd casglodd y Basn Cymreig trwch mawr o laid a thywod a olchwyd o ucheldir y de a’r dwyrain. Ymgaslodd y rhan fwyaf ar sgafell fas ar ymyl Afalonia gan adeiladu’r sgafell allan i fôr dyfnach. O’r diwedd daeth y pentyrrau o waddodion yn ansefydlog gan achosi eirlithradau tanddwr i raeadru i lawr i waelod y môr dwfn. Gelwir y cerrynt hyn yn gerhyntau tyrfedd a llifodd i lawr y llethr sgafell gan ffurfio ffaniau delta tanfor enfawr.

Ffigwr 1. Ffurfiant Tyrbiditigure

Ffurfiwyd holl greigiau ardal Cwm Elan allan o waddodion a dyddodwyd gan gerhyntau tyrfedd ac fe’u gelwir yn dyrbidit. Yn raddol, claddwyd y gwaddodion a’u cywasgu gan bwysau’r gwaddodion uwchben, gwasgwyd peth o’r dŵr allan a thyfodd crisialau yn y gofod bach rhwng y graen, a’u huno â’i gilydd i ffurfio creigiau. Mae’r gwelyau tyrbidit unigol wedi eu graddio gyda’r gwaddodion tryma megis cerrig crynion, graean, tywod neu silt ar y gwaelod gan esgyn i’r llaid ysgafna ar y brig. Mae’r haenau garw yn gwrthsefyll erydiad yn well ac yn dueddol o ffurfio’r pentiroedd creigiog.

Daeargrynfeydd a Chanionau Tanfor

Mae’r Caban Conglomrate yn dyrbidit arbennig a greuwyd gan fàs plastig o gerrig crynion, tywod a llaid. Pan gafodd ei aflonyddu, o bosib gan ddaeargrynfeydd, rhuthrodd y màs i lawr y llethr cyfandirol ar gyflymder uchel iawn gan gerfio canion tanfor trwy’r dyrbiditmain. Mae’r graig amryfaen yma yn galed a gwydn iawn. Ffurfiodd Drygarn Fawr, y man uchaf yn yr ardal, y tir uchel i’r de a’r dwyrain o’r Ganolfan Ymelwyr a’r clegyr ar ochrau gogleddol a deheuol argae Caban Coch, Craig Gigfran a Craig Cnwch. Dyna paham yr adeiladwyd yr argae yma, yn y dyffryn cul rhwng y clegyr. Cloddiwyd y graig o Graig Gigfran a’i ddefnyddio fel y deunydd crai ar gyfer y rhan fwyaf o’r argaeau. Nawr defnyddir y chwarel fel maes parcio.

Cyfoeth Mwynau

Rhwng 405 a 390 o filiynau o flynyddoedd yn ôl cafodd y Basn Cymreig ei wasgu’n raddol gan ragor o symudiadau’r plât tectonig. O ganlyniad, cywasgwyd y creigiau, eu gwthio i fyny’n rymrus, eu plygu a’u torri. Oherwydd y gwres a’r pwysau a gynhyrchwyd ym mherfedd y creigiau anffurf, trawnewidiwyd y cerrig llaid i lechi gan wasgu’r dŵr o’r mandyllau rhwng y graen. Treiddiodd y dŵr poeth, gwasgeddedig trwy’r creigiau gan doddi allan mwynau megis plwm, copr a sinc. Yn raddol, treiddiodd yr hylif llawn mwynau i mewn i’r toriadau, eu ehangu a’u hymestyn gan broses a elwir yn doriad hydrolig, gan achosi’r mwynau i grisialu fel gwythiennau o fewn y toriadau. Cloddiwyd am blwm, copr a sinc yng nghwm Rhiwnant a Chwm Elan o ddiwedd y ddeunawfed ganrif a thrwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r hen weithiau dal i’w gweld a gellir ymweld â nhw.

Oes yr Iâ

Dechreuodd Oes yr Iâ diwethaf 2.6 o filiynau o flynyddoedd yn ôl. Tybiwn fod y rhan fwyaf o Gymru wedi’i gorchuddio â iâ yn ystod y cyfnod yma ond tystiolaeth o’r cyfnod diwethaf sydd gennym. Dechreuodd hwn 26,000 o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd o’r diwedd 11,700 o flynyddoedd yn ôl. Am o leia 11,000 o flynyddoedd roedd canolbarth Cymru wedi’i gorchuddio â llen iâ trwchus a oedd yn llifo’n rheiddiol tuag allan, gan grafu i ffwrdd niferoedd anhysbys o greigiau. Ffurfiwyd y rhan fwyaf o ucheldir ardal Elan o greigiau o galedrwydd tebyg, felly canlyniad effaith yr iâ oedd creu llwyfandir dyranedig ar yr ucheldir, gydag ond ychydig o’r tir uwch â haen waelodol o greigiau cymharol caled. Mae’n debyg y sgrafellwyd y rhan fwyaf  o lynnoedd ar yr llwyfandirallan o greigiau lleol a oedd yn fwy meddal gan yr iâ wrth iddo basio. Llifodd yr iâ i lawr cymoedd afonydd a oedd eisioes yn bodoli, gan eu gwneud yn fwy dwfn, fflat a llydan ac felly creu tirffurf dyffryn ffurf-U, fel y gwelir yng Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen.

Wrth i’r rhewlif doddi fe greodd lyn ym mlaenddŵr Elan yn Gors Lwyd gan greu tirwedd unigryw o ddyddodion gwely’r llyn. Wrth i’r llyn gorlifo i’r gorllewin, ychwanegodd at yr erydiad iâ cynharach i ffurfio ceunant serth ar ffurf V yng Nghwm Ystwyth uchaf. Creuodd llifeirianto ddŵr tawdd rhagor o geunentydd ar ffurf V trwy Gwm Elan a Dyffryn Claerwen. Mewn man arall iriwyd gwaelod ac ochrau’r cwm â chlog glai a chreigiau wedi’u malu a adawyd pan doddodd yr iâ. Mae hwn erbyn hyn yn cynnal y coetiroedd. Yn nes ymlaen daeth y dyffrynoedd dwfn hyn yn safleoedd perffaith ar gyfer cronfeydd dŵr.

Gors Llwyd. Courtesy of Bob Vaughan

Mae’r rhan fwyaf o’r tir uchaf gwastatedig uwchben y dyffrynoedd â haen waelodol o garreg laid sydd ddim yn draenio’n dda. O ganlyniad, mae llystyfiant corsog wedi ffynnu, gan gynhyrchu haenau trwchus o fawn o dan y gorgorsydd pwysig. Lle mae’r graig gwaelodol yn fwy mandyllog mae’r dolydd ar yr ucheldir a’r rhostiroedd sychach yn ffynnu.

Mae tirwedd Cwm Elan yn seiliedig ar ei hanes daearegol.