Allgymorth Addysg

Home » Ymwelwch » Allgymorth Addysg

Addysg Awyr Dywyll

Fel Parc Awyr Dywyll Ryngwladol balch, rydyn ni wrth ein boddau’n siarad am ryfeddodau awyr y nos.

Rydym bellach yn cynnig amrywiol becynnau addysgiadol ar gyfer grwpiau plant (Cyfnodau Allweddol 1 a 2) sy’n byw ym Mhowys:

Arddangosfa gyda gweithgareddau amrywiol ar thema’r gofod:

Byddwn ni’n rhoi sgwrs am Barc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan, beth yw llygredd golau a’r hyn y gallwn ei weld yn awyr y nos.

Sioeau Planetariwm yn seiliedig ar y pynciau canlynol:

Cysawd yr Haul

Dynolryw yn y Gofod

Yr Haul

Beth Sydd yn y Awyr y Nos

Mytholeg am y Cytserau

Rydym yn codi swm bach am ein gwasanaethau i dalu ein treuliau, fel costau teithio a staff.

Gweithgareddau Awyr Dywyll ym Mwlch Cwm Clyd

Rydym hefyd yn cynnig syllu ar y safle trwy delesgopau a sgwrs fer am hanfodion seryddiaeth ar gyfer eich taith breswyl i ysgolion ym Myncws Cwm Clyd.

Adnodd Addysgiadol Elan Links

Fel rhan o gynllun Elan Links rydym wedi datblygu adnodd addysgiadol ar gyfer ysgolion yng Nghymru a Lloegr.  Mae’r adnodd hwn yn cynnwys themâu gwahanol sy’n ymwneud â gorffennol, presennol a dyfodol Elan, gan gynnwys defnydd gynaliadwy o ddŵr, y dyffrynnoedd coll, newid hinsawdd ynghyd â chelf.

Mae’r adnodd traws cwricwla wedi’i anelu at Flynyddoedd 6 a 7 ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, yn amgylchedd stepen drws y myfyriwr neu yng Nghwm Elan ei hun.  Mae ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim trwy’r cysylltau isod

Lawrlwytho’r Adnodd yn Saesneg

Lawrlwytho’r Adnodd yn Gymraeg