Natur

Home » Treftadaeth » Natur

Natur a Bywyd Gwyllt

Mae’r 70 milltir sgwâr o weundiroedd, corsydd, coetiroedd, afonydd a chronfeydd dŵr yn bwysig yn genedlaethol am eu hamrywiaeth o blanhigion is (mwsoglau, llys yr afu a chennau). Yr Ystâd yw’r lle pwysica yng Nghymru am adar y tir.

Mae’r rhan fwyaf o 180 cilomedr sgwâr Ystâd Elan yn cynnwys 12 o wahanol Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  O fewn yr Ystâd, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Claerwen, 800 hectar o lwyfandir yr uwchdir gyda bryniau mwyn â glaswelltiroedd asid ac mewn mannau, corgorsydd ar fentyll o fawn.  Mae pori ar yr Ystâd wedi lleihau er mwyn gwarchod rhywogaethau megis migwyn, cors rhosmari, gweunydd llydanddail a grug.  Mae’r uwchdir llwm yma yn cynnal tir cenhedlu neu fwydo ar gyfer adar prin megis y pibydd y mawn a chornicyll y mynydd.

Dyfarnwyd Gwobr Barc Wybren Dywyll Ryngwladol i’r Ystâd ac mae’n gyfoethog gyda bywyd gwyllt y nos sy’n ffynnu o dan y wybren dywyll iawn.