Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr

Home » Amdanomi » Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr

Lle arbennig yw Cwm Elan, a chanddi dirwedd, hanes a stori unigryw.

Mae Cysylltiadau Elan: Pobl, Natur a Dŵr yn rhan o Gynllun Partneriaeth Tirwedd sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri gyda’r nôd o warchod a chyfoethogi’r ardal.

Bydd 26 o brosiectau yn cael eu cyflwyno rhwng 2018 a 2023 o dan dri thema:

Buddsoddir £3.3miliwn yng Nghwm Elan er mwyn gwarchod treftadaeth a chynyddu’r cyfloedd i ymwelwyr.

Etifeddiaeth barhaol

Mae dŵr wrth galon stori Cwm Elan.

Heddiw, mae dalgylch dŵr Cwm Elan yn cael ei rheoli’n ofalus, mewn tirlun hardd ac amrywiol, gan gynnwys ucheldir unig, ffermdai anghysbell a chymoedd coediog serth. Mae’n hafan i fywyd gwyllt ac yn gyrchfan prysur i ymwelwyr.

Ein prosiect terfynol fydd sicrhau bod treftadaeth Cwm Elan yn cael ei gynnal yn y tymor hir ac na fydd buddsoddiadau a wneir yn y prosiectau yn dod i ben pan fydd y cynllun yn gorffen.

Cymrwch Ran

Gydol y prosiect ceir nifer o gyfleoedd i wirfoddoli, gan gynnwys:

  • Cadwraeth
  • Monitro bioamrywiaeth
  • Teithiau cerdded ac arweinwyr gweithgareddau
  • Cefnogi digwyddiadau a stiwardio
  • Archifaeth ac ymchwil
  • Gwirfoddolwyr arolygu ansawdd

Cyflwynir y prosiectau gan fwrdd partneriaeth, gyda chymorth tîm bach.

Cynllun Gweithredol Gwarchod Tirwedd

Bu’r cynllun yn weithredol oddi ar 2013. Yn ystod y cyfnod datblygol, lluniwyd Cynllun Gweithredol Gwarchod Tirwedd. Asesiwyd y bygythiadau cyfredol i’r tirwedd ynghyd â’r cyfleoedd a oedd yn wynebu’r tirwedd a’r agweddau treftadaeth a berthyn iddi.

Mae ffiniau Stad Elan ym mynyddoedd y Cambria, Canolbarth Cymru yn lleoliad i nifer o brosiectau ond mae creu cysylltiadau â thref farchnad Rhayader a dinas Birmingham wedi bod yn hanfodol i’r hanes sy’n sail i’r cynllun.

Mae’n dirwedd unigryw sy’n cyfuno tir mynyddig anghysbell, ffermydd ynysig, dyffrynnoedd â llethrau serth coediog a’r cronfeydd dŵr, camp anghyffredin o beirianwaith yr Oes Victoria a ddechreuodd rhoi cyflenwad o ddŵr glân i Firmingham yn 1904 hyd heddiw.

Manylion Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn buddsoddi arian er mwyn helpu pobl ar draws y DU i archwilio, mwynhau a gwarchod y dreftadaeth sy’n bwysig iddynt – o’r archaeoleg sydd o dan ein traed i’r parciau hanesyddol ac adeiladau yr ydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin.