Awyr Tywyll

Home » Archwiliwch Elan » Awyr Tywyll

Parc Rhyngwladol Wybren Dywyll Cwm Elan

Yn 2015, dyfarnwyd statws Parc Rhyngwladol Wybren Dywyll i Ystâd Gwm Elan, sef y parc cyntaf yn y byd o dan berchnogaeth gyhoeddus ond sy’n agored i’r cyhoedd, i gael y statws yma.

Yma ar Ystâd Elan dyfarnwyd i ni statws lefel arian gan Gymdeithas Ryngwladol Wybren Dywyll (International Dark Sky Association (IDA)) a leolir yn Arizona, UDA. Golyga’r statws bod y 45,000 erw yng Nghwm Elan yn cael ei warchod yn erbyn llygredd goleuni er budd y rhai sy’n byw a gweithio yma, ynghyd â’r niferoedd o ymwelwyr. Mae’r statws hefyd yn cynnig lloches i’r digonedd o fywyd gwyllt a natur y dydd a’r nos yma ar yr ystâd.

Lle i wylio’r sêr?

Rydym wedi dewis rhai safleoedd hawdd eu cyrraedd ar Stad Elan er mwyn i chi ddod i brofi ein sgidiau tywyll serennog.

Beth sydd ymlaen?

I gael y diweddaraf am newyddion ar yr Wybren Dywyll cofrestrwch i dderbyn ein llythyr newyddion, gweler y cysylltiad ar waelod y dudalen we hon. Cadwch olwg ar ein Canllaw ar Gadw Llygaid ar yr Wybren Nos yn ein hadran newyddion misol i’ch cynorthwyo i ddarganfod beth sydd yn yr wybren a chwilio am y trysorau pell gan ddefnyddio ysbienddrychau, telesgopau a’ch llygaid eich hun.

Am ddigwyddiadau Wybren Dywyll, edrychwch ar ein tudalen we Digwyddiadau, Facebook (ElanValley) a Instagram (@elanvalley).

Byddem wrth ein bodd yn gweld eich lluniau chi o’r awyr dywyll, yn pefrio Elan – rhannwch nhw gyda ni ar instagram, gan ddefnyddio’r hashnod #elanvalleydarkskypark

Ble i aros?

I fwynhau ein wybren eithriadol yn ystod y nos, mae gennym fythynnod hunan-arlwyol ar eich cyfer er mwyn syllu ar y sêr mewn moethusrwydd. Lleolir ein bythynnod mewn ardaloedd heb lawer neu dim llygredd goleuni. Dewch i aros mewn lle sydd ymhlith y lleiaf llygredig ei oleuni yn Ewrop!