Ymddiriodolaeth Cwm Elan

Home » Amdanomi » Ymddiriodolaeth Cwm Elan

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwm Elan (Ymddiriedolaeth Dŵr Cymru gynt; Rhif Elusen 1001347) gan Dŵr Cymru Welsh Water, mewn cytundeb â’r Llywodraeth, ym 1989.  Gyda ffurfiant yr ymddiriedolaeth elusennol rhentiodd Dŵr Cymru llawer o’r tir ar yr ystâd ar brydlesi’r ymddiriedolaeth newydd, o ganlyniad i’r amheuon a fynegwyd am ddyfodol yr ystâd a oedd bellach mewn dwylo cyhoeddus yn dilyn amwysedd preifateiddio.  Yn y brydles 999 mlynedd mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am lawer o dir yr ystâd gydag ambell diriogaeth neilltuedig penodol megis; y llynnoedd a’r cronfeydd dŵr, ardaloedd coediog a’r Ganolfan Ymwelwyr.

Amcanion yr Ymddiriedolaeth yw i hyrwyddo cadwraeth, mynediad cyhoeddus addas ac i ledaenu gwybodaeth am yr ystâd.  Ceir yr hawl i fynedfa gyhoeddus ar droed ar yr holl dir amaethyddol agored, ac mae nifer o lwybrau tramwy a phethau o ddiddordeb eraill.

Gweinyddir yr Ymddiriedolaeth nawr gan Unig Ymddiriedolwr Corfforaethol: Elan Valley Limited, sy’n gofrestredig gyda Tŷ’r Cwmnïau Rhif y Cwmni 09001046.  Mae’r ymddiriedolwyr blaenorol bellach yn Gyfarwyddwyr o’r Cwmni hwn, sy’n rhoi mwy o sicrwydd i’r unigolion, ac sy’n caniatáu penodi mwy o Gyfarwyddwyr sydd ag arbenigeddau ehangach i gymharu â’r broses benodi Ymddiriedolwyr gwreiddiol.  Roedd y broses wreiddiol yn enwi cyrff cyhoeddus penodol a oedd yn gallu penodi Ymddiriedolwyr, ond daeth hyn yn anoddach pan nad oedd y cyrff penodol yn bodoli pellach, neu pan unwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os hoffech ragor o fanylion am yr Ymddiriedolaeth, dilynwch y cyswllt hwn i wefan y Comisiwn Elusennau.

Os hoffech ragor o fanylion am Elan Valley Limited, dilynwch y cyswllt hwn i wefan Tŷ’r Cwmnïau.

Elan Valley Trust Directors

Cadeirydd: Dr Ieuan Joyce

Mae’n ffermio yng Nghanolbarth Cymru. Ef yw Cadeirydd cynllun Partneriaeth Tirwedd HLF Elan Links a Chwmni Cambrian Mountains Initiative Interest. Mae’n aelod o Bwyllgor RSPB Cymru ac yn gyn aelod o fwrdd Cyngor Cefngwlad Cymru.

Trysorydd: Cllr David Owen Evans

Wedi’i eni a’i fagu ar fferm ger Rhaeadr, mae David wedi byw yn yr ardal gydol ei oes.  Mae ganddo wybodaeth drwyadl o Ystâd Cwm Elan gan iddo weithio yn Swyddfa Ystâd Elan fel Cynorthwyydd Asiant Tir am 22 o flynyddoedd.

Fel Syrfëwr Siartredig roedd yn Arwerthwrgyda chyfrifoldeb dros weithredu ac ehangu Marchnad Da Byw Rhaeadr, ynghyd ag ymgymeryd ag ystod eang o waith proffesiynol cysylltiol am dros 20 o flynyddoedd.  Mae’n weithgar ym myd Llywodraeth Leol ac yn aelod o Gyngor Sir Powys, Cynghorydd Tref Rhaeadr ers dros 50 o flynyddoed, llywodraethwr ysgol ac yn gyn aelod o Bwyllgor Cwsmer Ofwat Cymru ac Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.

Andrew Leonard

Er ei fod wedi ymddeol, mae gan Andrew brofiad helaeth o’i swyddogaethau gwahanol yn ystod ei yrfa ac yn y sector gwirfoddol, gan gynnwys ffermio, datblygu’r gymuned, iechyd a thai. Mae’n weithredol yn y fferm deuluol, Theatr Brycheiniog, Noddfa Ffoaduriaid Y Gelli Gandryll, Aberhonddu a Thalgarth, ac yn darganfod ffyrdd newydd o fforio a mwynhau’r wlad ar droed neu ar y dŵr mewn caiac.

Wyn J W Evans

Cafodd ei eni ym Mhlwyf Llanddarog, Sir Gaerfyrddin a mynychodd yr ysgol gynradd leol ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth Caerfyrddin, cyn dychwelyd i’r fferm deuluol. Cafodd ei ethol ar Gyngor Sir Dyfed ym mis Mai 1977 cyn ymddeol o’r Cyngor ym mis Mai 2017 ar ôl 40 o flynyddoedd. Yn ystod ei gyfnod yno bu’n Gadeirydd yr Awdurdod ym 1989/90 a chafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Caerfyddin ym 1996 ac yn Ddirprwy Arweinydd ac aelod o’r Cabinet am 13 o flynyddoedd. Cafodd ei benodi’n aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys o 1983 i 2004 ac roedd yn Gadeirydd o’r Awdurdod ac yn Ddirprwy Cadeirydd o Gymdeithas Awdurdodau’r Heddlu yn Llundain o 1994/97. Mae’n Gadeirydd o Banel Dyfed Pension Fund ac yn gwasanaethu ar nifer o gyrffallanol.

Robert Vaughan

Cafodd ei eni ym Mhlwyf Llanddarog, Sir Gaerfyrddin a mynychodd yr ysgol gynradd leol ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth Caerfyrddin, cyn dychwelyd i’r fferm deuluol. Cafodd ei ethol ar Gyngor Sir Dyfed ym mis Mai 1977 cyn ymddeol o’r Cyngor ym mis Mai 2017 ar ôl 40 o flynyddoedd. Yn ystod ei gyfnod yno bu’n Gadeirydd yr Awdurdod ym 1989/90 a chafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Sir Caerfyddin ym 1996 ac yn Ddirprwy Arweinydd ac aelod o’r Cabinet am 13 o flynyddoedd. Cafodd ei benodi’n aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys o 1983 i 2004 ac roedd yn Gadeirydd o’r Awdurdod ac yn Ddirprwy Cadeirydd o Gymdeithas Awdurdodau’r Heddlu yn Llundain o 1994/97. Mae’n Gadeirydd o Banel Dyfed Pension Fund ac yn gwasanaethu ar nifer o gyrffallanol.

Hannah Scrase 

Magwyd Hannah ger Llanidloes ac yno mae hi’n byw. Astudiodd ecoleg a choedwigaeth, ac mae wedi gweithio mewn rheolaeth coedwigaeth, cadwraeth, trwyddedi fforestydd a chynlluniau cynaliadwyedd yn y DU, Affrica, De Amerig a’r Caribi – ond fe’i denwyd yn ôl i Gymru. Ar hyn o bryd mae hi’n hunan gyflogedig. Mae’n gweithio gyda ffermwyr, grwpiau cadwraeth a thirfeiddianwyr eraill yn adfer, ymestyn a chysylltu cynefinoedd ac ecosystem, ar amaethgoedwigaeth ac atebion i hinsawdd naturiol wrth i ni baratoi ar gyfer newid ar ôl Brexit. Mae Hannah yn beicio mynydd yng Nghwm Elan beth bynnag yw’r tywydd, canŵio a nofio mewn afonydd, morydau a’r môr pan fydd hi’n gynnes.

Roy Davies

Wedi gyrfa hir yn niwydiant hamdden awyr agored, mae gan Roy ddiddordeb byw mewn galluogi pobl i fwynhau’r awyr agored tra’n gadael yr effaith leiaf ar ein hamgylchedd naturiol. Mae hwn o’r pwys mwyaf yng Nghwm Elan, lle y mae wedi cynnal canolfan gweithgareddau awyr agored am dros 30 mlynedd. Treulia ei amser hamdden yn mwynhau anialdiroedd y DU ac ymhellach ar droed, ar gefn beic neu hwylio morol. Mae’n byw yn y Cwm ac yn chwarae rhan blaenllaw yn y gymuned leol, yn gadeirydd ar glwb cymdeithasol Cwm Elan, ac yn aelod o fyrddau tri o wahanol elusennau lleol.

Roger Morgan

Ymunodd Roger â Bwrdd yr Ymddiriedolaeth ym mis Mai 2022 ac mae newydd ymddeol fel Trysorydd Dŵr Cymru Welsh Water, swydd y bu ynddi am dros 6 mlynedd. Mae Roger yn Drysorydd Corfforaethol profiadol iawn wedi gweithio yn y proffesiwn am dros 32 mlynedd, gan gynnwys 15 mlynedd fel Trysorydd y Co-op. Mae gan Roger, sy’n frwd dros yr awyr agored, gysylltiadau teuluol agos â’r canolbarth drwy ei nain a gafodd ei geni a’i magu yn Llanidloes.