Seiclo

Home » Archwiliwch Elan » Seiclo

Mae seiclo yn ffordd dda o weld llawer mwy o Elan.  

Os ydych chi’n hoff iawn o feicio, mae gennym lawer o opsiynau, p’un a yw’n well gennych y ffordd, y bryn neu’r traciau heriol. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi dod â’ch beic gyda chi gan fod yna lawer o lefydd lleol lle gallwch logi un:

Seiclo Llwybr Elan

Yn dilyn llinell hen Reilffordd Gorfforaeth Birmingham y rhan fwyaf o’r ffordd, mae Llwybr Cwm Elan yn cynnig y cyfle i deuluoedd, seiclwyr nofydd a’r rhai brwdfrydig i brofi rhan brydferth o’r wlad ar ei orau tra’n cadw’n heini a helpu’r amgylchedd.

Dechreua’r llwybr yng nghymuned brydferth Cwmdeuddwr ar ochr orllewinol Rhaeadr. Gellir parcio yn lleol ac mae gan Raeadr nifer o gaffis, siopau, tafarndai, siop feic a thoiledau. Gellir seiclo Llwybr llinellog Cwm Elano’r ddau gyfeiriad ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn teithio i’r gorllewin o’r dref tuag at y cwm.

Ar ôl gadael Cwmdeuddwr dringwch y llwybr dros Dwnnel trawiadol Rhaeadr, Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed sy’n gartref i nifer o fathau o ystlumod. Tua hanner milltir yn ddiweddarach mae’r llwybr yn croesi ffordd, wrth y gyffordd yma mae Lôn Las Gymru yn ymwahanu ac mae Llwybr Cwm Elan yn parhau’n syth ymlaen ar hyd y llwybr.

Ar y gyffordd nesaf fe allwch naill a’i parhau ar hyd y llwybr i fyny hyd at yr argaeau a’r cronfeydd dŵr, neu ddisgyn i Ganolfan Ymwelwyr Cwm Elan ar gyfer lluniaeth yn y caffi, darllen hanes yr ardal ac ymweld â’r ganolfan groeso.

Mae’r llwybr yn dringo’n gyson o ochr ogleddol cronfa ddŵr Garreg Ddu, gan roi golygfeydd godidog o’r cymoedd o gwmpas a’r pedair gronfa ddŵr sy’n darparu dŵr i Birmingham, ac yn parhau hyd at y diwedd wrth Argae Craig Goch ble mae toiledau ar gael. Mae rhan helaeth o’r llwybr wedi’i darmacio, felly mae’n addas ar gyfer defnyddwyr llai abl, ond nid yw’r pen ogleddol wedi’i darmacio.

Cyrsau Sgiliau Lawr Allt

Wedi’i adeiladu gyda chyllid gan gronfa TAIS y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae’r set hon o lwybrau sgiliau disgyniad yn addas ar gyfer beicwyr mynydd canolradd i brofiadol. Mae’r traciau’n cynnwys ‘drop-offs’, ‘sweeping berms’, neidiau pen-bwrdd a throadau tynn. Mae’r llwybrau yn cael eu cyrraedd trwy faes parcio Eglwys Nantgwyllt.

Seiclo ar y Ffyrdd

Mae gan Elan enw da am lwybrau seiclo mynydd naturiol, a adleisiwyd gan Red Bull trwy osod Elan in Wales ymhlith y deg uchaf o lwybrau seiclo mynydd.

Wedi’i leoli ymysg cefndir ysblennydd yr argaeau a’r cronfeydd dŵr Fictorianaidd, bryniau agored, hen reilffyrdd a choetiroedd, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd wrth i chi ddisgyn trwy’r cwm.

Ceir dewis o lwybrau, o ddechreuwyr i deithiau hirach a fwy technegol, ond mae croeso i bawb. Mae ein gwasanaeth llogi beiciau o’r Ganolfan Ymwelwyr yn ddi-drafferth ac fe fyddwch ar gefn eich beic cyn pen dim.