Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr



Mae Cwm Elan yn lle arbennig gyda thirlun, stori a hanes unigryw.

Roedd Prosiect Elan Links yn gynllun a ariannwyd gan Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a anelai at ddiogelu’r dreftadaeth hon a rhoi hwb i’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghwm Elan i’r dyfodol. Buddsoddwyd £3.3 miliwn yn ardal Cwm Elan i ddiogelu treftadaeth a chynyddu cyfleodd i ymwelwyr.

Cyflawnwyd 26 prosiect rhwng 2018 a 2023 o dan bedair thema:

Dathlu treftadaeth – Amddiffyn ac adfer safleoedd hanesyddol ac archifo hanesion a straeon pobl.

Mwynhau Elan – Cynyddu cyfleoedd mynediad, hamdden a dysgu i ymwelwyr.

Profiad ac addysg – Cynnig cyfleoedd i brofi Cwm Elan trwy wirfoddoli, ynghyd ag addysg a hyfforddiant.

Cyfoethogi natur a bywyd gwyllt – Adfer a chyfoethogi amgylcheddau naturiol.

Dyma rai o’r prosiectau a gynhaliwyd rhwng 2018 a 2023:

Ein Partneriaid

Roedd Elan Links: Pobl, Natur, Dŵr yn brosiect a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a gyflenwyd yn Ystâd hyfryd Elan rhwng 2018 a 2023. Dysgwch fwy am y partneriaid a oedd yn gysylltiedig â chyflenwi’r prosiect.

Elan Links: Tir Coed

Roedd gan bartneriaid Elan Links, Tir Coed, weledigaeth ac fe aethant ati i’w chyflawni. Dysgwch yr hyn y gallwch chi ei gyflawni gyda thair coeden larwydd, pum hyfforddai a gweledigaeth. Ariannwyd y prosiect hwn trwy Bartneriaeth Elan Links a Fforwm Gwerth Cymdeithasol..

Rhaglen Breswyl i Artistiaid

Rhwng 2018 a 2023, gan ffurfio partneriaeth gydag Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr CARAD a Chyngor Celfyddydau Cymru, cymerodd dri artist ar ddeg o bob cwr o’r byd ran yn ein Rhaglen Breswyl i Artistiaid Elan Links. O sain i olwg, crëwyd amrywiaeth anferth o waith mewn ymateb i harddwch Cwm Elan. Hoffem rannu’r gwaith hwn gyda chi – i ddysgu mwy, cliciwch ar enw’r artist isod.

Prosiect Archif Cwm Elan

Mae gan Gwm Elan storfa gyfoethog o ddeunydd wedi’i archifo, sy’n dyddio yn ôl i’r 1700au, o gynlluniau, mapiau, llythyron a thelegramau, rhai yn ymwneud ag adeiladu’r argaeau, hyd at gynlluniau pob adeilad a adeiladwyd ar Ystâd Elan. Gwyliwch yr archifydd Thomas Tolhurt yn esbonio’r gwaith a wnaed i ddiogelu’r arteffactau hanesyddol gwerthfawr hyn, yn ystod prosiect Elan Links Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Archaeoleg

Mae gan Ystâd Cwm Elan dirlun a threftadaeth gyfoethog unigryw – dysgwch fwy am waith a wnaed yn ystod Rhaglen Elan Links i adnabod a diogelu safleoedd hanesyddol.

Mawndir

Mae mawn yn storfa garbon hynod arwyddocaol ac mae’r mawndiroedd yn Ystâd Cwm Elan mewn cyflwr gwael. Dysgwch am y gwaith a wnaed yn ystod rhaglen Elan Links i adfer corsydd mawn hanfodol.

.

Gylfinir

Mae niferoedd y gylfinir wedi bod yn dirywio ar gyfradd ddychrynllyd ar draws y Deyrnas Unedig. Cewch wybod sut yr aeth Prosiect y Gylfinir Elan Links ati i adnabod a diogelu nythod gwerthfawr y gylfinir yn ystod y tymor bridio ar draws Ystâd Cwm Elan.

Rhaglen Pori Gwartheg er Cadwraeth yng Nghwm Elan

Dysgwch fwy am ba mor bwysig yw pori gwartheg er cadwraeth i wella ucheldiroedd Cwm Elan a’r gwaith a wnaed gan Elan Links i godi ymwybyddiaeth ymhlith y gymuned ffermio gyda chanlyniadau gwych.

Prosiect Gwella Ein Coetiroedd

Mae Prosiect Gwella ein Coetiroedd, Elan Links wedi galluogi rheoli coedwigoedd glaw tymherus Cwm Elan i amddiffyn y cennau prin sydd i’w cael yma. Mae teneuo’r ail-dyfiant dwys wedi galluogi i olau gyrraedd y derw hynafol y mae’r cenau yn tyfu arnynt. Ar ôl hynny cafwyd pori ysgafn gan wartheg am ychydig fisoedd y flwyddyn a borodd ar fieri a rhai, ond nid y cyfan, o’r eginblanhigion coed a oedd yn ymddangos.

Prosiect Dolydd Elan

Ar draws y DU, mae 97% o’n dolydd blodau gwyllt traddodiadol wedi’u colli. Serch hynny, mae Cwm Elan yn gartref i lawer o ddolydd gwair yr ucheldir – gan gynnwys dôl coroni – y mae pob un ohonynt yn olygfa hyfryd pan fyddant wedi blodeuo’n llawn ac o fudd enfawr i beillwyr. Mae dolydd Cwm Elan yn cadw amrywiaeth blodeuog a bywyd pryfed gwych ond mae astudiaethau gwyddonol wedi dangos bod angen rheolaeth briodol megis calchu a chwalu tail fferm yn achlysurol i gadw’r dolydd hyn i ffynnu. Gwyliwch y fideo hwn i weld y gwaith y mae Elan Links wedi’i wneud i adfer y dolydd gwerthfawr hyn.