Dathlwch brydferthwch ein Coedwigoedd Celtaidd!

Ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu trysorau ein coetiroedd yng Nghwm Elan. Profwch sgiliau traddodiadol y coetir, gan gynnwys gwaith gof, trin lledr a cheffylau coedio. Cymerwch ran mewn taith gerdded trwy’r goedwig, mwynhewch ymdrochi yn y goedwig, a dysgwch ragor am ein Fforest Law Geltaidd.

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Newyddion

Prosiect Monitro Gylfinirod gan Wirfoddolwr

30th Tachwedd 2024

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr a hoffai ein helpu i fonitro’r gylfinir (curlew) hardd. Credir bod y niferoedd yn gostwng ar gyfradd o oddeutu 6% y flwyddyn sy’n golygu y gallent o bosibl ddiflannu erbyn 2030.