Am Daniel
Arlunydd yw Daniel Crawshar sy’n frwd dros archwilio llefydd anghysbell. Mae ei waith yn tynnu ar brofiadau trochi, ffotograffiaeth a chof.
Magwyd Daniel ar y Gororau ac mae bellach yn byw yn Llundain. Mae’n dychwelyd i Gymru yn aml, yn casglu deunydd ar gyfer ei luniau nodedig. Mae wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru, gan ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, BEEP lluniau dwyflynyddol ac Oriel Agored Davies. Arddangoswyd ei waith yn y Sidney Nolan trust ac Oriel Myrddin, Caerfyrddin, a hefyd mewn orielau masnachol gan gynnwys Martin Tinney, Caerdydd, Bo.Lee, Llundain a Beaux Arts, Caerfaddon. Mae arddangosfeydd dethol yn cynnwys y Jerwood Drawing Prize, Wales Contemporary and ING Discerning Eye.
Mae Daniel wedi gweithio yn yr Alpau, y Pyreneau a Chanada ac wedi ymgymryd â chyfnodau preswyl ym Mharc Cenedlaethol EryrI a Pharc Cenedlaethol The Alpine yn Awstralia, gan arwain at y sioe ‘High Country Gothic’. Mae cyfres o luniau i’w gweld yn Oriel Celf Gippsland, Fictoria.
Cynigiodd y cyfnod preswyl Elan y cyfle i Daniel i ail-gysylltu gydag ardal a esgeulusiwyd, gan rannu ei ymarfer o fewn y gymuned. Roedd ei gyfnod preswyl yn ystod 2019, gyda Daniel yn lledaenu ei wythnosau ar y safle o’r gaeaf i’r gwanwyn, gan beintio yn ei stiwdio yn Llundain yn y cyfamser.
Cychwynodd Daniel weithdai gydag ysgolion a CARAD, wedi’u cynllunio i archwilio themâu tirwedd, a rhoi cipolwg ar arfer proffesiynol artist. Cafodd myfyrwyr y cyfle i weithio ag olew, rhai am y tro cyntaf, a’r cyfle hefyd i ystyried eu hamgylchedd arbennig eu hunain trwy arlunio ar y safle.
Datblygiad pellach i Daniel oedd darganfod cysylltiad personol â Birmingham a dadlenni stori deuluol am brofedigaeth a chynnwrf a ddechreuodd yn ystod y bomio adeg y rhyfel ym 1940.
Treuliodd Daniel amser ar y safle yn cerdded a thynnu lluniau, gan archwilio terfynau’r dalgylch. Roedd hyn o werth craidd, gan gofnodi achosion achlysurol o ddiwrnodau a chanfod safbwyntiau cyffredin; cyfuniad o dir, dŵr, wybren, a choetiroedd. Wedi’i amgylchynu gan weithgareddau domestig, gweithwyr cynnal a chadw, teithwyr dyddiol, a chymudwyr.
Ghost Notes
Fe ddaeth storïau wedi’u cuddio tu ôl i wynebiad bob dydd y cwm o ddiddordeb i Daniel, ac fe wnaeth ymchwil ar thema difeddiannu gan gwestiynu, yn llythrennol, beth oedd yn gorwedd o dan y dŵr. Darganfu Daniel gymhariaethau bras â’r cronfeydd dŵr eraill a gynlluniwyd – Tryweryn, ger y Bala a boddwyd yn yr 1960au ac a wynebodd gwrthwynebiad sylweddol. Datgelodd ymchwiliad pellach realiti graffeg profi bom a arweiniodd at gyrch y Dambusters ar ddyffryn Mohne gan ysgogi cwestiynau ‘beth os.’
Mae ymdrochi mewn lleoliad a’r atgofion dilynol yn ddynamig bwysig i Daniel, ac yn Llundain ymgymerodd ei ddarluniau natur hudol.
Cynhyrchodd Daniel gyfres o 30 ‘Ghost Notes’ unlliw bach yn deillio o’i ffotograffau. Mae’r teitl, efallai, yn awgrymu presenoldeb sydd angen ei glywed – y lleiaf o leisiau, yr ysbryd a anwybyddir. Mae hefyd yn gyfeiriad cerddorol at nodyn â gwerth rhythmig ond heb draw canfyddadwy. Mae amrywiadau o’r gyfres wedi’u harddangos mewn lleoliadau gan gynnwys: Borderlands yn y Sidney Nolan Trust, Oriel Bluecoat Lerpwl, Oriel Martin Tinney Caerdydd, Cardiff Made a Watershed yn MAC Birmingham.
Roedd Daniel wedi’i gyfareddu gan gysylltiad tenau Elan â Birmingham a threiddiodd i’w hanes diystyredig ei hun. Daeth o hyd i safle’r ffatri lle bu farw ei dad-cu ym 1940. Bu’n gweithio fel torrwr patrymau yn gwneud offer peiriannol diwydiannol yn Archdales yn Ladywood. Ar noson y 26ain o Hydref cafodd y ffatri ei tharo mewn cyrch bomio. Symudwyd mam Daniel i Swydd Henffordd ac wedi hynny ymsefydlodd yn Sir Faesyfed lle magwyd Daniel. Ni chrybwyllwyd enw Eric erioed.
Tra’n gweithio gydag ysgolion yn Llanidloes a Llanfair ym Muallt hwylusodd Daniel sesiynau yn annog plant ac oedolion i ymgysylltu â’u hardal eu hunain a dysgu sgiliau creadigol newydd.
Cyflwynodd Daniel myfyrwyr blwyddyn 7, 10 ac 11 i beintiadau tirwedd gan eu galluogi i weithio gydag olew, yn bennaf am eu tro cyntaf. Defnyddiodd y myfyrwyr baneli wedi’u preimio, tiwbiau cyfyngedig a chymryd delweddau ffynhonnell o gasgliad Daniel. Fel grŵp, datblygodd sgyrsiau am hanes lleol a’r cronfeydd dŵr, gyda’r plant yn rhannu eu hanesion eu hunain – “Tractorau tad-cu yn Llyn Fyrnwy”
Briff y paentiad oedd – defnyddio du, gwyn ac un lliw, dod o hyd i drawsnewidiadau mewn tôn a lliw a herio ffiniau elfennau. Lle mae tir ac awyr yn uno? Sut mae dŵr yn ailadrodd, yn ymestyn neu’n torri’r tir i ffwrdd? Sut gallwn ni symud trwy siapiau ac arwynebau?
Cymerodd gweithdy oedolion yr un strwythur yn CARAD. Y gweithiau’n ffurfio casgliad traws-genhedlaeth yn adlewyrchu’r un fformat, cyfrwng a phwnc.
Roedd tynnu lluniau ar y safle yn galluogi’r plant i gysylltu’n uniongyrchol â’r dirwedd ac ar yr un pryd yn ysgogi dychymyg wrth i syniadau grŵp a delweddau gael eu cylchredeg. Roedd y brasluniau yn cynnwys: tirweddau o lonyddwch a threfn – tai, caeau, da byw a choetiroedd. Realiti graffig gorlif – preswylfeydd arnofiol, eglwys wag. Creadur chwedlonol yn cyfuno draig a physgodyn.
Yn CARAD tynnodd myfyrwyr luniau o’r gwrthrychau bach, bob dydd yr oeddent yn eu gwerthfawrogi ac y byddent yn drist i’w colli. Breichledau, eirth tedi, menyg gôl-geidwad. Roedd dehongliadau o ffonau symudol – wedi’u cyfleu gyda chraciau, crafiadau amser a dyddiad.
Instagram @daniel.crawshaw1
www.beauxartsbath.co.uk/artists-daniel-crawshaw/