Byd Cudd y Goedwig Law Geltaidd

Mae coedwigoedd Celtaidd neu dymherus Cwm Elan yn hudolus i’w darganfod yr amser hon o’r flwyddyn, oherwydd mai dros y gaeaf mae’r bryoffytau yn llawer mwy gweladwy, gan fod rhan fwyaf o fflora llysieuol y ddaear wedi marw’n ôl.

Mwsoglau, llysiau’r afu a gwygyrnddail yw bryoffytau, ac mae gan Brydain a’r Iwerddon oddeutu dwy ran o dair o’r holl rywogaethau Ewropeaidd oherwydd amodau gwlyb a llaith ein hynysoedd. Mae rhai o’n rhywogaethau mwyaf prin yn brin yn fyd-eang, felly ein cyfrifoldeb ni yw eu gwarchod. Nid yw mwsoglau a llysiau’r afu, sy’n bennaf yn wyrdd, yn blodeuo ac fe’u hadwaenir fel ‘planhigion is’ – gan nad oes ganddynt systemau fasgwlar neu gludiant sydd gan blanhigion
sy’n blodeuo a rhedyn. Yn lle, maent yn cael ac yn cludo dŵr a maetholion trwy osmosis a thrylediad, ac nid ydynt yn gallu tyfu i uchder mawr oherwydd nad oes ganddynt y cynhaliad strwythurol mae meinweoedd fasgwlar yn rhoi i blanhigion tal. Maent yn wahanol hefyd wrth iddynt atgenhedlu, sef trwy sborau neu gloron.

Mae oddeutu 1065 o rywogaethau bryoffyt ym Mhrydain ac Iwerddon, 765 o fwsoglau, 300 o lysiau’r afu ac ond 4 o wygyrnddail. Gan fod gorchudd da o goedwigoedd glaw yng Nghwm Elan nid yw’n syndod fod gennym rhai prin: y llysiau’r afu, Plagiochila britannica, Featherwort Prydeinig a Cololejeunea rossettiana Rossetti’r Pouncewort, a’r mwsoglau Dialytrichia mucronata Pointed Lattice-moss a Fissidens rufulus Back Pocket-moss (ac mae llawer mwy). Mae coetiroedd Cwm Elan mor bwysig i’r bryoffytau ac i’r cennau prin fel eu bod wedi’u dynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae bryoffytau prin ac anghyffredin yn gweithredu fel ‘rhywogaethau dynodol’; gyda’u
presenoldeb yn dynodi ecosystem sy’n iach ac yn ffynnu yn y coetiroedd. Maent yn darparu
cynefinoedd ar gyfer organebau eraill – gyda’r chwilod dail Plateumaris sericea yn un
enghraifft o’r pryfed sy’n byw yn y mwswgl sy’n ffynnu mewn strwythurau trwchus, fel
clustog lle mae’n derbyn cysgod, lle i guddio ac amgylchedd sefydlog ar gyfer yr wyau a’r
larfâu. Organebau bryoffagws yw’r rhai sy’n bwydo ar fryoffytau, megis rhai hopranau dail.

Image credit: By Siga – Own work, CC BY-SA 3.0

Yn ystod chwe mlynedd cyllido HLF Elan Links, fe wnaethom reoli ein coetiroedd derw di-goes sy’n creu y coedwigoedd glaw hyn, torri’r isdyfiant er mwyn gadael mwy o oleuni, cael gwared ar rywogaethau estron megis y rhododendronau, a chyflwyno pori gwartheg i’r
coetiroedd – gyda’r bwriad o roi cymorth i’r bryoffytau a’r cennau prin. Fe wnaeth Prosiect RSPB y LIFE Celtic Rainforest weithio’n gyfochrog ac mae’n dal i fodoli nawr. Roedd erthygl yn ein cylchlythyr yn gynharach yn y flwyddyn yn trafod Migwyn, sydd nid yn unig yn tyfu yn y coedwigoedd glaw yma, ond yn bwysicach yn llunio ein mawnogydd gwerthfawr sy’n amsugno carbon.

Mae’r Gymdeithas Bryolegol Brydeinig, gweler www.britishbryologicalsociety.org.uk yn
cynnig cyrsiau mewn adnabod bryoffytau, ac mae ein Cofnodwr Sir lleol, Mark Lawley, yn
trefnu ymweliadau maes yn Sir Faesyfed a’r siroedd cyfagos. Fe allwch gysylltu â Mark ar
mrbryology@gmail.com ar gyfer rhaglen y gaeaf.