Dyddia ffermdy Cwm Clyd yn Nyffryn Claerwen o’r 18fed ganrif. Mae’r casgliad o adeiladau traddodiadol o gerrig yn cynnwys tŷ hir, ysgubor a chartws. Yn rhyfeddol, dyw’r adeiladau hyn heb newid llawer ac heb eu haddasu mewn unrhyw ffordd.
Rhan o’r cynllun fydd adfer Cwm Clyd. Fe’i adferir er mwyn gwarchod ei dyfodol a’i defnyddio mewn ffordd cynaladwy. Bydd y llety a ddarperir yn gyfforddus ac o ansawdd da, yn gydnaws â natur yr adeilad gwreiddiol. Bydd yn addas ar gyfer grwpiau niferus, gan gynnwys grwpiau awyr agored, gan eu galluogi i aros a phrofi anialdir a phrydferthwch Cwm Elan.