Lleolir Tŷ’r Peirianydd, neu fyngalow Pen y Garreg, uwchben argae Pen y Garreg. Fe’i hadeiladwyd yn yr 19fed ganrif fel llety dros dro i brif beiriannydd yr argae, Eustace Tickell a’i dîm, ac mae’r rhan fwyaf o nodweddion y tŷ Fictoraidd i’w gweld o hyd. Mae’r tŷ yn un o ddiddordeb hanesyddol a’i leoliad mewn ardal mor anghysbell a phrydferth yn ei gwneud yn lecyn hynod ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth.
Bydd y cynllun yn sicrhau adferiad yr adeilad. Y bwriad yw creu llety addas i bobl sy’n awyddus i ymweld â Chwm Elan, gan gynnwys artistiaid preswyl.
Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer yr adferiad hwn yn niferus:
- I ddiogelu adeilad hanesyddol pwysig sydd o dan fygythiad;
- I gael defnydd ymarferol o’r adeilad i’r dyfodol fel y gellir gwarchod ei gyflwr ar gyfer y dyfodol;
- I ailwampio’r adeilad fel y gellir ei ddefnyddio fel llety addas ar gyfer yr arlunwyr a fydd yn ymwneud â’r prosiect Preswylfeydd Arlunwyr;
- I adfer yr adeilad mewn modd nad yw’n ei atal rhag ddefnydd arall, megis ei leoliad ar gyfer llety i grwpiau
- I ailwampio’r adeilad heb golli ei swyn “gwledig” ac i sicrhau na fydd yn cael ei golli;
- I sicrhau y bydd yr adeilad yn cymryd ei le o fewn y darlun ehanganch o’r llety sydd ar gael a’r gwahanol defnydd cynlluniedig o fewn Cwm Elan.
Ochr yn ochr â defnyddio’r tŷ ar gyfer llety, bwriadwn agor yr adeilad ar gyfer y Diwrnodau Agored trwy gydol y flwyddyn.