Mae Cwm Elan yn gadarnle traddodiadol i adar yr ucheldir fel cornicyll y mynydd, y grugiar goch, cylfinir, cudyll bach, mwyalchen y mynydd, clochdar yr eithin a’r ehedydd. Golyga newidiadau mewn rheolaeth y tir bod prinhau mewn adar prin yn ardal Cysylltiadau Elan. Mae’r prinhau yn ddibynnol ar rywogaethau planhigion neu batrymau llystyfiant.
Bydd y cynllun yn gwella ardaloedd allweddol o gynefin gan gymryd camau eraill i gynorthwyo llwyddiant magwriaeth yr adar prin hyn. Mae gennym gyfle i atgyfnerthu’r arferion traddodiadol yn ogystal â chyfle i leihau bygythiadau pellach.
Fe fydd y prosiect yn canolbwyntio ar bum rhywogaeth:
- Gylfinir. Gweithred yn cynnwys: tir pori cymysg, ymyriad ar gyfer brwyn/gwellt y gweunydd, gwasgaru tail a gwahardd da byw yn ystod ambell gyfnod yn y flwyddyn.
- Chwilgorn y Mynydd. Gweithred yn cynnwys: gwella corsydd diraddedig, lleihau gwellt y gweunydd, hau had grug a migwyn ac/neu glaswellt dail mân.
- Coch y Grug. Gweithred yn cynnwys: rheoli coed/tir prysg er mwyn cynnal tirwedd agored, rheoli rhostiroedd sych, rheoli effeithiol o drogod ymhlith da byw sy’n pori.
- Mwyalchen y Mynydd. Gweithred yn cynnwys: plannu coed criafol a draen gwynion ar y gweundiroedd, rheoli’r rhedyn, pori gwartheg a merlod.
- Cudyll Bach. Gweithred yn cynnwys: gwella rhostiroedd sych, rheoli’r rhedyn, plannu coed ar wasgar a phori cymysg.
Dros y bum mlynedd nesaf, y bwriad yw i gyflawni:
- Rheoli 40 hectar yn well ar gyfer y gylfinir
- Rheoli 40 hectar yn well ar gyfer chwilgorn y mynydd
- 450 hectar o barth i reoli trogod ar gyfer coch y grug
- Rheoli 30 hectar yn well ar gyfer mwyalchen y mynydd
- Rheoli 30 hectar yn well ar gyfer y cudyll bach
- Hyfforddi 10 o bobl ar gyfer ffermio diogelu adar
- Adroddiad diwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau’r dyfodol
- Gweithgareddau gwirfoddoli
- Cyfleu i gynulleidfa ehangach
Lawrlwythwch manylion y prosiect.