Yn draddodiadaol, cadwyd gweddrod – defaid gwrywaidd wedi eu disbaddu – fel elfen allweddol o’r ddiadell fynyddig yn ardal Cwm Elan. Mae gweddrod yn ddycnach na mamogiaid ac yn dueddol o allu arwain y ddiadell at ddiogelwch neu i ddod o hyd i borfa yn ystod misoedd caled y gaeaf. Am y rheswm hyn, meant yn cael eu hadnabod yn lleol fel “ brenhinoedd y mynydd”
Yn ddiweddar, gyda dirywiad y farchnad am weddrod, gwelwyd lleihad yn eu niferoedd ar ein bryniau. Serch hynny, mae cig gweddrod yn flasus ac yn y cynllun hwn bwriadwn hyrwyddo ei werthiant yn lleol yn y Canolfan Ymwelwyr ac mewn bwytau lleol. Bydd y cynllun yn asesu a fydd yn bosib ail gyflwyno cynhyrchu cig gweddrod yn gynaladwy i’r sustemau amaethu lleol.
At hyn, mae Cynllun y Coetiroedd wedi nodi’r angen i ail-gyflwyno pori mewn nifer o goedlannau llydanddail er mwyn rheoli llystyfiant ar y llawr. Cynigir y byddai gweddrod, fel anifeiliaid cryfach, yn gallu cyfrannu at hyn heb gael eu rhwystro gan fieri.
Dros y bum mlynedd nesaf, y bwriad yw i gyflawni:
- Datblygu’r farchnad ac arbrofion ar gyfer cig mollt, gan gynnwys ei gyflwyno i allfeydd arlwyaeth fel arbrawf
- Rheolaeth coetir mwy effeithiol sy’n costo llai gyda buddion cadarnhaol