Mae cynhyrchu gwair “rhos” Elan yn arfer draddodiadol yng Nghwm Elan. Mewn amser a fu, lladdwyd gwair y rhos yn Awst/Medi ar y llethrau agored, gan ei ddefnyddio fel bwyd neu ddeunydd gwely i wartheg a defaid yn ystod misoedd y gaeaf. Ond un neu ddau o ffermwyr sy’n parhau’r traddodiad yma. Serch hynny, mae’r arfer yn fuddiol i fyd natur gan ennyn rheolaeth mwy amrywiol ar y llethrau agored. Gall ddod â buddiannau economaidd i’r ffarmwr yn ogystal, lle bo galw am ddefnydd y gwair a dorrwyd.
Bydd y cynllun hwn yn annog ffermwyr i gynhyrchu gwair y rhos ac yn ymchwilio’r ffyrdd orau o wneud gan ddefnyddio’r gwair er mwyn creu cynnyrch mwy cynaladwy yn economaidd. Wrth wneud hynny, fe fyddwn yn adfywio’r arfer hwn sydd mor bwysig i’n treftadaeth naturiol a diwylliannol.
Mae Gwair Rhos yn blwyfol iawn, yn arwyddocaol yn ddiwylliannol, yn weithgaredd amaethyddol traddodiadol mewn rhai mannau bryniog yng Nghanolbarth Cymru. Golyga’r arfer torri gormodedd o wair sy’n llai blasus (yn bennaf gwellt y gweunydd sydd wedi gordyfu) yn yr ardaloedd addas ar y bryniau agored a’i ddefnyddio i wneud gwellt ar gyfer bwyd neu at ddefnydd gorffwys anifeiliaid. Yn nodweddiadol ni ail-gynaeafir yr ardaloedd a dorrwyd am dair i bum mlynedd er mwyn gadael i’r dywarchen adfer.
Bwriad y prosiect hwn yw i adnewyddu’r gyfundren rheoli drwy ddull tair-fforch:
- Cefnogaeth ariannol ar gyfer gwella rheolaeth o’r ardaloedd gwair rhos sy’n bodoli ynghyd â chreu ardaloedd ychwanegol
- Treialon ar raddfa fferm er mwyn sefyldu ymarfer da i dorri a chynaeafu ynghyd â defnyddio’r cynnyrch fel bwyd a deunydd gorffwys, ac at unrhyw ddefnydd arall
- Cymorth ariannol ar gyfer prynu traciau dros dro, er mwyn lleihau cywasgiad y pridd, a’r difrod a wneir gan beiriannau mewn ardaloedd corsog, gan symud rhwystr mawr i’r broses