Mae Cwm Elan yn gartref i rai o’r coedlannau Derw Iwerydd a llydanddail pwysicaf yn Ewrop. Maent yn cynnal magwriaeth adar y goedwig , inferterbratau saprocsilig, is-blanhigion yn enwedig cennau, sydd, yng Nghwm Elan, o bwysigrwydd fyd-eang o ganlyniad i’w hamrywiaeth a’u prinder. Ffurfia’r coetiroedd hyn craidd Ardal o Gadwriaeth Arbennig, yngyd â Lleoliadau o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae’n bwysig i’r bywyd gwyllt allweddol sy’n ffynnu yma, ac i werth diwylliannol a thirwedd y coedtiroedd yma a’u coed hynafol, i adfer y cyflwr cywir i’r coedtiroedd.
Mae’r bwriad dros y bum mlynedd nesaf yn cynnwys y canlynol:
- Gwella cyflwr ecolegol 109 hectar o goedtir ar gyfer y bywyd gwyllt â blaenoriaeth ganfyddadwy
- Bydd y gwaith corfforol a gyflawnwyd wedi gwella cyflwr ecolegol cynefin trosiad llydanddail mewn ardaloedd a dargedwyd:
- Clirio rhododendronau oddi ar 42 hectar o dir;
- Dod â 81 hectar o goedtir o dan arfer tir pori cynaliadwy
- Cwblhau teneuo 73 hectar er mwyn gwella isdyfiant ecolegol
- Rheoli 9 hectar o redyn
- Fe fydd coedtir Ardal Gadwraeth Arbennig yn fwy grymus oherwydd ehangiad cynefin y coedtir derwen ddi-goes gan gynnwys plannu y derw brodorol ar 8 hectar
- Cynllun rheoli ar gyfer gosod tirweddau coedtir
- Rheolaeth ar gyfer y 25 mlynedd nesaf, gyda gweledigaeth ar gyfer 200 mlynedd
- Fe fydd pobl wedi gwrifoddoli eu hamser, dysgu sgiliau newydd ac wedi elwa ar fod allan yn amgylchedd naturiol Cwm Elan