Mae gan Gwm Elan amryw o ardaloedd o rhostir sych sy’n cynnal rhywogaethau pwysig o anifeiliaid a phlanhigion ac yn creu arddangosfa gwych o liw yn ystod y tymor blodeuo. Ar yr un pryd, defnyddir y rhostir ar gyfer pori da byw yn ystod tymhorau penodol.
Mae rhai rhannau o rostir sych Cwm Elan wedi eu gorchuddio â rhedyn a choed conwydd sydd yn niweidiol i’r cynefinoedd. Mewn lleoliadau eraill mae unffurfiaeth y grug yn gwneud y rhostir yn agored i fygythiad chwilen y grug, gan leihau amrywiaeth y rhywogaethau.
O dan y cynllun, bydd rhywogaethau mewnwthiol sy’n bygwth yr ardaloedd bregus, yn cael eu clirio. Yn sgîl hyn bydd casgliad o rug o oedran amrywiol yn cael ei greu er mwyn diogelu’r cynefinoedd gwych hyn ar gyfer y dyfodol.
Mae ardal Cysylltiadau Elan yn gartref i tua 250 hectar o rostir sych sy’n ffurfio cydran bwysig, er yn fach, o’r gwahanol gynefinoedd a geir ar y tir argored. Mae’r rhostiroedd sych yn bwysig am nifer o resymau:
- Er yn fach mae’n fawr ei ddylanwad gyda’i dirwedd yn ychwanegu lliw ac amrywiaeth
- Mae’n cefnogi amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n peillio ac mae nifer o wenynwyr lleol sy’n dibynnu ar yr adnodd
- Mae’n cynnal poblogaeth o Gochiaid y Grug sy’n bridio, parau o Hebogau’r Ieir, Cudyll Bach a nifer o rhywogaethau o adar llai, ac
- Mae’n adnodd pori ar nifer o’r ffermydd
Fe fydd y cynllun yma yn gwella rheolaeth o’n rhostiroedd sych drwy ddarparu ffermwyr ac eraill ag adnoddau a sgiliau er mwyn eu galluogi i gyflawni’r gweithrededd rheoli angenrheidiol.
Dros y bum mlynedd nesaf fe fyddwn yn gweithredu cynllun rheoli pum mlynedd, a fydd yn cynnwys:
- Adfer 73 hectar o rostiroedd sych
- Cynlluniau rheoli a llosgi
- Hyfforddi pump o bobl mewn sgiliau ymarferol rheoli rhostiroedd
- Dau ddiwrnod ar gyfer rhanddeiliaid
- Hysbysu pob ffermwr Cysylltiadau Elan am y prosiect
- Adroddiad ar ddiwedd y prosiect gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau y dyfodol
- Monitro gweithgarwch bioamrywiol a gwirfoddoli
- Cyfleu i gynulleidfa ehangach
Lawrlwythwch manylion y prosiect.
Cymrwch Ran
Am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yng nghynllun Cysylltiadau Elan trwy ein prosiect Cyfeillion Elan.