Mae Community Arts Rhayader & District (CARAD) yn cynnal nifer o ddigwyddiadau’n flynyddol. Bydd y cynllun hwn yn datblygu’r rhaglen hon gan adeiladau ar y ddarpariaeth sydd eisioes yn cael ei gynnig gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Dŵr Cymru Welsh Water. Datblygir y digwyddiadau mewn partneriaeth â mudiadau eraill, gan wneud ymdrech arbennig i gryfhau’r cysylltiad rhwng Cwm Elan a thref Rhaeadr Gŵy.
Dros y bum mlynedd nesaf fe fyddwn yn cyhoeddi rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau. Fe fydd rhain yn berthnasol i agweddau gwahanol o raglen Cysylltiadau Elan. Fe fydd y digwyddiadau yn cynnwys areithiau, gweithdai, teithiau, arddangosfeydd a chystadlaethau.
Fe fydd 100 o ddigwyddiadau yn cael eu darparu sy’n gysylltiedig â’r gwahanol lefelau o dreftadaeth amrwyiol Elan.
Darganfyddwch am y digwyddiadau sy’n cymryd lle yng Nghwm Elan.