Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg yn effeithiol er mwyn hyrwyddo stori Cwm Elan ac i annog mwy o ymwelwyr i ymweld â’r ardal.
Gydol y cynllun, rhennir hanesion a gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol ac ar wefan Cwm Elan er mwyn dangos datblygiad y gwaith.
O 2019, bydd y cynllun yn cynnig App gweithredol “App for Elan” a fydd yn gallu cael ei defnyddio i archwilio’r ardal gyfan. Bydd yr App yn rhoi gwybodaeth ar bob agwedd o Gysylltiadau Elan ynghyd â’r dreftadaeth, gweithgareddau a’r digwyddiadau amrywiol a fydd ar gynnig. Datblygir yr App gan sicrhau y bydd yn weithredol dros ardal Cwm Elan, lle y gall derbyniad fod yn gyfyngedig.