Swyddi

Home » Amdanomi » Swyddi

Cyfarwyddwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth Cwm Elan (swydd gwirfoddol)

Mae Ystâd Cwm Elan yn wirioneddol le godidog. Yn gorchuddio 73 o filltiroedd sgwâr yng Nghanolbarth Cymru, dyma eich cyfle i chwarae rhan ar fwrdd blaengar a deinamig, yn goruchwylio a llywio gwaith Ymddiriedolaeth Cwm Elan.
 
‘Rydym yn chwilio am dri ymddiriedolwr newydd i ymuno â’r Ymddiriedolaeth ar adeg bwysig wrth i ni geisio fynd i’r afael â heriau natur coll a newid hinsawdd ar draws y dalgylch ddŵr allweddol a’r lleoliad hynod hwn ar gyfer hamdden gorfforol.
 
Bydd ymddiriedolwyr newydd yn ymuno â bwrdd profiadaol sydd â chyfrifoldeb dros:
 
·  Genhadaeth, strategaeth a gwerthoedd yr Ymddiriedolaeth
·  Cydsyniad â gofynion cyfreithiol ynghyd â dogfennau llywodraethiant yr Ymddiriedolaeth
·  Goruchwyliaeth gyllidol
·  Tîm yr uwch reolaeth

Meysydd allweddol profiad a gwybodaeth:
 
· Cadwriaeth natur a gwerth uchel natur amaethu yr ucheldir
· Hamdden a hygyrchedd
·  Rheolaeth ystâd wledig
·  Y gymuned leol
· Treftadaeth adeiladaeth a diwylliannol
· Cyllid, llywodraethiant ac archwilio
· Gwydnwch a lliniaru hinsawdd
· Cyllido grantiau a phrosiectau
 
Nodweddion personol:
 
· Ymrwymiad cryf at genhadaeth yr Ymddiriedolaeth; dealltwriaeth o’n hamcanion a’n huchelgeisiau; gwerthoedd sy’n cydsynio â’r rhain.
· Sgiliau cyfathrebu gwych ynghyd â sgiliau gwrando
· Sgiliau dyfarnu teg, rhesymol a chytbwys
· Yr hyder i herio a chefnogi’n adeiladol
· Amser i roi i’r swydd (gan gynnwys paratoi ac ymrwymo i gyfarfodydd)
· Ymrwymiad i weithio ar y cyd gyda chyfarwyddwyr eraill a’r prif staff fel rhan o dîm       arweinyddiaeth strategol
 
Buddion
 
· Ymuno â thîm gwych
· Y cyfle i gynorthwyo i lunio dyfodol rhan arwyddocaol o Ganolbarth Cymru
· Y cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd
·  Cyfleon gwych i ddatblygu proffesiynoldeb

Dyddiad cau: 1af o Fedi 2025

Glanhawr

Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar a gweithgar i ymuno â’n tîm prysur fel glanhawr ar gyfer ein gwahanol letyau gwyliau o fewn Cwm Elan. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys glanhau Cwm Clyd yn ystod dyddiau’r wythnos, sy’n gyleuster llety grŵp gyda chyfanswm o 21 o welyau. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi os bydd angen glanhau yn ein llety gwyliau hunanarlwyo a fydd yn cynnwys gwneud gwelyau. Mae’r rôl hon yn gallu gweithio o gwmpas oriau ysgol.

Gan fod hon yn swydd liniaru, bydd oriau o waith yn dibynnu ar reidrwydd ac efallai y cysylltir â chi ar fyr rybudd.

Mae’n hanfodol bod gennych gar gan fod yr eiddo wedi’u lleoli mewn ardaloedd anghysbell o Ystâd Elan.

Mae profiad yn fanteisiol ond ddim yn angenrheidiol oherwydd bydd hyfforddiant yn cael ei roi.

Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio rhai oriau yn ystod penwythnosau. Mae’r swydd gan amlaf yn ystod boreau gyda thâl achlysurol uwchben isafswm cyflog.