Adferiad Gorgors Esgair Hengae

Rydym wedi cwblhau’n llwyddiannus ein hail Brosiect Adferiad Tir Mawn yma yng Nghwm Elan, gyda’r bwriad o atal erydiad ein pridd mawn gwerthfawr ac ail ddyfrio 28 hectar o orgors.

Y prif rhesymau dros hyn yw:

Mae mawn yn storfa garbon hynod o arwyddocaol ac rydym am leihau allyriadau a achosir gan y    
                   mawn yn ocsideiddio drwy erydu a sychu.

I ail-greu amodau ar gyfer ffurfio mawn pellach sy’n cynnwys bod yn ddwrlawn, datgloi potensial rhyfeddol y gors i atafaelu carbon.

I gynyddu bioamrywiaeth y rhywogaethau sy’n byw yma, ER BUDD ENFAWR i fywyd gwyllt a phobl.

I helpu i weithredu fel ataliad tân yn achos tanau gwyllt, gan amddiffyn y mawn rhag llosgi, sychu ac erydu.

Bydd y dŵr sy’n dod oddi ar y safle i’r Claerwen hefyd yn lanach ac yn rhydd rhag gwaddod.

Beth rydym wedi bod yn gwneud i adfer y gorgors?

Ar y safle hwn, mae ychydig o dechnegau syml wedi’u cymhwyso:
Rhwystrwyd rhigolau a oedd yn erydu ac yn draenio’r mawn gan ddefnyddio’r mawn ei hun, i greu argaeau bychain i arafu llif y dŵr. Fe fydd hyn yn lleihau erydiad ac yn arwain at byllau cors bas.

Cafodd unrhyw ymylon erydiad agored eu hailbroffilio i greu llethrau mwy graddol a gorchuddio’r mawn moel â llystyfiant.

Roedd rhai ardaloedd ar draws y safle mewn cyflwr sych, yn rhannol oherwydd y rhwydwaith cwteri ar draws y safle.

Ar yr ardaloedd hyn fe wnaethom ddefnyddio byndiau cyfuchlinol, sy’n creu byndiau bach ar hyd cyfuchlin y llethr, i arafu llif y dŵr a hybu cyflwr dwrlawn trwy gydol y flwyddyn.
Tynnwyd y lluniau hyn yn syth ar ôl cwblhau’r gwaith.

Fel y gwelwch, mae’r byndiau a’r argaeau yn barod yn dal y dŵr yn ôl!

Beth sy’n byw yn y gors? 

Efallai y bydd y cynefinoedd hyn yn edrych yn llwm ar yr olwg gyntaf, ond edrychwch yn agosach ac mae yna lu o liwiau bywiog, aeron blasus a phlanhigion amrywiol i’w mwynhau.

Mae rhain yn cynnwys planhigion megis y migwyn lliwgar, gwlith yr haul pryfysol, rhosmari y gors, llugaeron, llus, grug deilgroes, llafn y bladur, a phlu’r gweunydd.  Mae mamoliaid hefyd megis llygod y dŵr dwrgwn, adar megis y chwilgorn, y gylfinir, gïach, ynghyd â nifer o infertebratau a llawer mwy!



(Wedi ei ariannu gan Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a CNC)