Bach ond Nerthol: Byd y Mwsogl Migwyn
Mae’r Migwyn yn grŵp arbennig o fwsoglau sydd i’w cael mewn ardaloedd asidig, gwlyb yn unig; ein rhostiroedd, rhosydd, corsydd a choetiroedd gwlyb.
Mae mwsoglau migwyn yn garped ar y ddaear gyda lliw ac yn chwarae rôl hanfodol wrth greu mawnogydd: trwy storio dŵr yn eu celloedd mawr, (maen nhw’n amsugno mwy nag wyth gwaith eu pwysau eu hunain mewn dŵr), maen nhw’n atal dadfeilio deunydd planhigion mawr sy’n cronni, sy’n cael eu cywasgu ac yn y pendraw yn ffurfio mawn.
Delwedd: Gwlithlys (Drosera rotundifolia)
Crëwyd y mawnogydd niferus yng Nghwm Elan gan y Migwyn hwn yn cronni dros gannoedd o flynyddoedd a’n tasg ni yn awr yw atgyweirio’r corsydd hynny sydd wedi’u difrodi gan fod corsydd iach sydd â chymunedau Migwyn sy’n ffynnu nid yn unig yn storio symiau anferth o garbon ond yn creu cynefin ar gyfer nifer o blanhigion ac anifeiliaid arbennig eraill sydd wedi’u bygwth gan fygythiadau deuol argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Delwedd: Andromeda’r Gors (Andromeda polifolia)
Mae ryw 30 o rywogaethau Migwyn yn y DU ac maen nhw’n edrych yn weddol debyg gan ei gwneud yn anodd gwahaniaethu rhyngddynt. Gall lliwiau fod yn ddefnyddiol wrth eu hadnabod gyda’r rhywogaethau yn amrywio o goch a phinc, i oren a gwyrdd, gan roi bywiogrwydd hyfryd i fawnog. Ymhlith y mwsoglau Migwyn gallwch ganfod rhai arbennig megis y Gwlithlys, planhigyn cigysol sy’n dal ac yn treulio pryfed yn ei ddail chwarennol a blew. Mae Plu’r Gweunydd Unben yn rhywogaeth cors arall ynghyd ag Andromeda’r gors, Llugaeron a Llafn y bladur.
Delwedd: Llun agos o Fwsogl Migwyn
Wyddoch chi fod gan fwsogl Migwyn rinweddau antiseptig? Fe’i defnyddiwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf i rwymo clwyfau oherwydd ei fod yn cadw’r lefel pH yn isel o amgylch y clwyf, gan atal twf bacteria. Yn ystod y rhyfel, cynhaliwyd ‘gyriannau mwsogl’ pan gafodd gwirfoddolwyr eu recriwtio i gasglu’r mwsogl. Byddent yn ‘llenwi’r sach yn dri chwarter llawn, ei lusgo i ddaear galed a dawnsio arni er mwyn echdynnu canran mwy o ddŵr’.
Erthygl gan Fiona Gomersall, Ecolegydd
Rydym yn cynnal sesiynau gwirfoddoli i blannu mwsogl migwyn ar ein mawndiroedd fel rhan o’r prosiect adfer. Dewch i ymuno â ni am ychydig o gyfeillgarwch ac awyr iach ar 13 a 27 Chwefror – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.