Ffurfiwyd Partneriaeth Cysylltiadau Elan yn 2013 er mwyn datblygu cynnig Partneriaeth Tirwedd ar gyfer Cwm Elan ac mae’n cynnwys y cynrychiolwyr canlynol:
Mae gennym hefyd y rhanddeiliaid canlynol:
Mae gennym hefyd y rhanddeiliaid canlynol:
- RSPB
- Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed
- Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
- CADW
- Rhaeadr 2000
- Cymdeithas Tenantiaid Cwm Elan
- Cymdeithas Cyffredinwyr Cwmdauddwr
- Cyngor Tref Rhaeadr
- Cyngor Sir Powys
- Cyngor Sir Ceredigion
Gwybodaeth am Ymddiriodolaeth Cwm Elan
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cwm Elan gan Dŵr Cymru yn dilyn caniatad gan y Llywodraeth ym 1989, fel ymddiriedolaeth elusennol yn wyneb pryderon a fynegwyd am ddyfodol yr ystad a sicrhawyd gan y cyhoedd yn dilyn amwysedd preifateiddio. Amcan yr ymddiriedolaethau yw hyrwyddo cadwraeth natur, mwynhad tawel a lle cymdeithasol ar draws Cwm Elan – mae un y cant o dir Cymru yng nghanol mynyddoedd Cambria. Gyda bron i 1000 o flynyddoedd ar ôl ar y brydles ar Gwm Elan, mae gan yr Ymddiriedolaeth berspectif hirdymor ar ei ddibenion. Ar hyn o bryd mae chwech ymddiriedolwr wedi’u hapwyntio gan gyrff cyhoeddus amrywiol yng Nghymru.
Gwybodaeth am Dŵr Cymru Welsh Water
Mae gan Dŵr Cymru Welsh Water 1.4 miliwn o gwsmeriaid cartref a busnes yng Nghymru, Swydd Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy. Cwmni nad yw’n gyfranddaliwr yw Dŵr Cymru sy’n unigryw yn y diwydiant dŵr, gyda’r elw yn cael ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella gwasanaethau ac i gadw biliau’r cwsmeriaid yn fforddiadwy. Ystad Elan yw’r ardal sengl fwyaf o dir sy’n eiddo i unrhyw gwmni dŵr cenedlaethol, yn cynnwys tua 10% o’r cyfanswm. Rheolwyd yr ystad ers 1892 er mwyn gwarchod ansawdd a maint y dŵr.
Gwybodaeth am CARAD
Creuwyd CARAD ym 1994 ac mae wedi tyfu ers hynny. Ym 1999, codwyd arian er mwyn sicrhau unedau yn Rhaeadr ar gyfer perfformio, dawns a phopeth creadigol. Mae Amgueddfa ac Oriel Rhaeadr yng nghanol y gymuned ac mae’n parhau fel prosiect mwyaf CARAD hyd yn hyn. Ers 2009 mae ‘r rhaglen arddangos wedi bod yn amrywiol ac wedi cynnwys ‘Tlysau Rhaeadr’, casgliad o emwaith Romano-Prydeinig, ac maent fel arfer yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol, a’r Torch Llanwrthwl, casgliad o oes yr efydd a ganfwyd yn lleol ac sy’n cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Mewn partneriaeth â sefydliadau lleol, mae’r tîm bach o staff a grwpiau ymroddgar o wirfoddolwyr wedi, ac yn dal i geisio dyfeisio ffyrdd o godi ymwybyddiaeth yn y dref trwy gynnal digwyddiadau cymunedol megis ‘The Gro Gathering’ a ‘Christmas Lantern Extravaganza’. Maen nhw’n casglu storïau lleol a’u trawsnewid i gynyrchiadau i’r theatr ac arddangosfeydd ac mae’r etifeddiaeth yn cael ei chadw’n fyw yn archifau’r amgueddfa.
Gwybodaeth am Cyfoeth Naturiol Cymru
Swydd Cyfoeth Naturiol Cymru yw i warchod ein hadnoddau naturiol a’r hyn maen nhw’n eu darparu i ni; helpu i leihau’r risg o lifogydd a llygredd i bobl a’u heiddo; gofalu am leoedd arbennig ar gyfer lles ac iechyd; bywyd gwyllt a choed; ac i gyd-weithio ag eraill i’w rheoli yn gynaliadwy. Mae gan y bobl sy’n gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru wybodaeth, arbenigrwydd, a’r angerdd i helpu wireddu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol.
Gwybodaeth am Tir Coed
Tir Coed is a charity based in rural Wales that ‘improves lives through woodlands’. It provides accredited training courses and bespoke activities that introduce people to a variety of woodland related skills whilst also giving them the health and social benefits of accessing woodlands. It facilitates accredited training courses to introduce unemployed people, young offenders, NEETs and young people at risk of offending to a variety of woodland related skills. All of the activities improve the health and accessibility of the woodland, creating a community resource that can be enjoyed by all, long after the projects have finished.