Canolbwyn Ar Natur – Rhagfyr 2023

Diweddaru Cofrestr o Blanhigion Prin Cwm Elan

Mae statws gwarchodedig rhannau helaeth o Gwm Elan, yn golgyu bod nifer o blanhigion ac anifeiliaid anghyffredin ac weithiau anarferol yn byw yma. 

Mae Cofrestr o Blanhigion Prin yn dal data ar holl blanhigion prin yr ucheldir yng Nghwm Elan ac wedi’u casglu dros nifer o flynyddoedd.  Nid oedd y gofrestr wedi’i diweddaru ers 17 o flynyddoedd ac felly fe gymeron ni’r cyfle, ym mlwyddyn olaf Elan Links a thrwy brosiect Rhywogaethau Prin, i geisio ail-ddarganfod cymaint o’r planhigion a phosib.  Yn y cyfamser, fe gofnododd Fiona Gomersall (Swyddog Treftadaeth Naturiol), Ray Woods (ecolegydd arbenigol), Rob Andrews (ceidwad DCWW) a Sorcha Lewis (ffermwr tenant) unrhyw blanhigion prin yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd trwy gydol y tymor.n.

Trefnwyd pedwar o ymweliadau maes, y rhan fwyaf i lynnoedd anghysbell yn y cwm – Llyn Gwngu, Llyn Gynon a’r ddau lyn yng Ngherrigllwydian, gan annog arbenigwyr a gwirfoddolwyr i ymuno.   Roeddem wrth ein boddau o glywed wedyn bod Cymdeithas Mynyddoedd y Cambria wedi casglu cofnodion am Lyn Carw, y pedwerydd llyn ‘naturiol’ nodedig yn y cwm.  Roedd y tir ar y ffordd i’r llynnoedd yn eitha heriol a’r diwrnodau’n hir ond roedd y cwmni yn llon, a chawsom ein gwobrwyo yn y pen draw gyda chyfartaledd o 8 planhigyn prin ar bob safle. 

Adnabyddwyd mwsoglau a llysiau’r afu gan gofnodwyr fryolegol y sir a ymunodd ac a ddarganfyddodd rhywogaethau newydd yn y cwm ac yn Sir Faesyfed.  Roedd gennym hefyd wirfoddolwr yn cofnodi gweision y neidr.

Darganfyddwyd poblogaeth dda o Luronium natans, Llyriad Nofiadwy, sef y prina o’r planhigion ucha, yn un o’r llynnoedd ac felly’n newyddion da iawn.   Ail-ddarganfyddiadau hyfryd eraill oedd y Lobelia dortmanna Bidoglys y Dŵr, Isoetes lacustris Gwair Merllyn (sef rhedynen y dŵr), Huperzia selago Y Cnwpfwsogl Syth Mwyaf, Dryopteris oreades Rhedynen Gwryw y Mynydd, Sparganium angustifolium Cleddyflys Culddail, Carum verticillatum Carwe Troellog, a lleoliadau newydd ar gyfer Vaccinium vitis-idaea Llus Cochion.

Mapiodd y teulu o Abergwyngu boblogaethau’r Viola lutea Fioled y Mynydd ar eu tir pori, ac roedd hyn yn fendigedig, ac fe ail-ddarganfyddodd ymwelydd Hammarbya paludosa Tegeirian y Gors yng ngogledd y cwm. Cofnodwyd oddeutu 140 o blanhigion ym mhob safle ac fe fyddant yn cael eu hanfon at  Wasanaeth Gwybodaeth Fiolegol (Biological Information Services (BIS)) yn Aberhonddu.  Gan ein bod yn cofnodi yn y dair sir, Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Cheredigion, mae cofnodwyr y siroedd hynny wedi cymryd rhan hefyd, i wirio cofnodion o blanhigion anodd.  Ar gyfartaledd ail-ddarganfyddwyd 41 allan o’r 80 o blanhigion ar y gofrestr eleni.  Nid yw hyn yn golygu bod y 39 arall wedi diflannu,  dim ond nad oedd yr amser eleni i chwilio amdanynt i gyd!  Gobeithio ein bod wedi codi proffil y gofrestr ac yn y blynyddoedd i ddod fe cyflawnir diweddariad llawn.