Coedwigoedd Glaw celtaidd Cwm elan

Mae Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn gynefinoedd hynod brin a chredir eu bod dan fwy o fygythiad na choedwigoedd glaw trofannol.

Dim ond ar arfordir gorllewinol y DU ac Iwerddon y ceir y coedwigoedd hyn lle mae amodau biohinsoddol, gan gynnwys glawiad uchel, aer pur, a lleithder yn gwneud Cymru’n lle delfrydol iddyn nhw ffynnu. Mae’r amodau yn y coedwigoedd glaw hyn yn berffaith i blanhigion prin, cennau a ffyngau coedwig dyfu. Cyfeirir at y coedwigoedd hyn hefyd fel Coedwigoedd Derw Tymherus neu fforestydd glaw Iwerydd ac maen nhw’n darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer poblogaethau adar a bywyd gwyllt sydd dan fygythiad. Mae amodau biohinsoddol tirwedd Elan ym mharth y goedwig law dymherus ac mae coetiroedd Cwm Elan wedi’u nodi fel rhai o’r coetiroedd pwysicaf yn Ewrop. Maen nhw o arwyddocâd eithriadol ar gyfer bywyd gwyllt prin a bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad yn y DU. Maen nhw hefyd o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Elenydd–Mallaen ac Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ar gyfer Canolbarth Cymru.

Yn 2019, daeth Dŵr Cymru yn bartner ar gyfer y prosiect Coedwig Law Geltaidd LIFE (gwerth £7 miliwn), mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, RSPB Cymru, Coed Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru. Y nod yw diogelu’r coetiroedd hyn ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Amcanion prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE yw:

  • Rheoli Rhywogaethau Goresgynnol

Yng Nghwm Elan, mae hyn wedi cynnwys cael gwared ar y Rhododendron ponticum, gan gynnwys ar yr ynys yng nghanol cronfa ddŵr Pen y Garreg, a blannwyd yn wreiddiol yn Oes Fictoria oherwydd eu blodau tlws ond sydd bellach yn dominyddu’r cynefin ar draul holl fywyd gwyllt arall y coetir. Hefyd, bwriedir cael gwared ar y Pyrwydd Sitca (Picea sitchensis) a’r Ffawydd (Fagus sylvatica). Mae eu nodwyddau pinwydd a charped o ddail sy’n gorchuddio’n niweidiol  llawr y goedwig, gan fygu’r fflora goetiroedd brodorol ar, yn enwedig yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Coetiroedd Cwm Elan.

  • Ailgyflwyno anifeiliaid pori i goetiroedd

Yn y gorffennol mwyaf diweddar, Mae coetiroedd ACA Cwm Elan wedi’u ffensio i atal anifeiliaid pori niweidiol, sydd wedi arwain at gynnydd yn niferoedd y mieri, rhedyn a rhywogaethau eraill a geir yn gyffredin yn yr isdyfiant. Mae hyn wedi arwain at fygu’r fflora daear cysylltiedig a llai o blanhigion, gan gynnwys ein rhywogaethau epiffytig nodedig.

Gan weithio mewn partneriaeth ag RSPB Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan a’u tenantiaid fferm, rydym yn gweithio’n frwd i gyflwyno anifeiliaid pori trymach cynaliadwy, fel gwartheg, yn ôl i’n Coedwigoedd Glaw Celtaidd, fel arf effeithiol i reoli’r cynefinoedd coetir brodorol trwy bori cadwraethol.


Ail blannu coedwigoedd Derw hynafol

Mae gwaith wedi’i wneud i adfer ACA coetiroedd Cwm Elan, gan gynnwys cael gwared ar goed anfrodorol a theneuo, sy’n arfer cadwraethol a ddefnyddir i gael gwared ar lasbrennau / coed ifanc gorlawn trwchus o amgylch coed aeddfed, gan roi lle i’r hen goed ledaenu eu canghennau a gadael i olau’r haul ddod i mewn o’u cwmpas. Bydd ymyriad o deneuo yn helpu i agor canopi’r coetir, gan ddenu adar fel Canwr y Coed (Phylloscopus sibilatrix), y Tingoch (Phoenicurus phoenicurus) a’r Gwybedog Brith (Ficedula hypoleuca), cyn cyflwyno anifeiliaid pori cadwraethol.


Article by Jen Newman, Dwr Cymru Welsh Water