DOLYDD GWAIR ELAN

Mae dolydd gwellt ar ‘ymylon yr ucheldir’ yn unigryw i Gymru.  Maent yma oherwydd ffermio traddodiadol yn y cwm dros gannoedd o flynyddoedd ac oherwydd y cronfeydd dŵr a’r angen am ddŵr glân.  Mae’r defnydd o wrtaith a phlaladdwr ar y ffermydd naill a’i yn absennol neu o’r defnydd lleiaf.
 
Pysen y coed, bwrned mawr, pansi’r mynydd, tegeirian llydanwyrdd a’r tegeirian gwyn bach yw rhai o’r rhywogaethau prin ac anghyffredin y gellir eu gweld yn y dolydd hyfryd hyn.
 
Yn ystod y pum mlynedd o Brosiect Gwair Doldir Elan Links rydym wedi bod yn mesur y llystyfiant a hefyd yn samplu pridd, yn casglu tystiolaeth er mwyn gallu rheoli’r dolydd yn well.  Ar ôl ystyried yn ofalus mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydsynio i roi cymhwysiad ysgafn o galch mewn dolydd penodol tra bod eraill yn cael cymhwysiad ysgafn o dail buarth.  Y nod yw gwella cynhyrchiant y dolydd fel bod yna ddigonedd o wair ar gyfer y gaeaf, ond heb beryglu cyfoeth rhywogaethau’r dolydd na niweidio’r prinder yn y glaswelltiroedd hyn.
 

Llynedd, fe wnaethom gomisiynu Jan Sherry ac Emma Douglas o PONT i gynnal arolwg eang gydag arian o Gronfa Rwydwaith Natur ac roeddynt yn gallu archwilio bron i bob dôl a thir pori amgaeedig yn y cwm.  Rhoddodd yr adroddiad canlyniadol rhestr hir i bob fferm o beth oedd yn tyfu yn eu caeau ynghyd â chyngor rheoli defnyddiol. Ym mis Tachwedd 2022 fe wnaeth Emma Williams archwiliad ar gapiau cwyr a thafodau’r ddaear yn rhai o’r tiroedd pori ac fe fydd hi’n parhau â’i hymchwiliad yr hydref hwn.  Mae Emma, gyda chymorth Sorcha Lewis (a Ray Woods) wrth ei bodd gyda’i darganfyddiadau sy’n cynnwys pethau prin megis Capiau Cwyr Date.  Mae Elan yn bendant ar y map am ffwng!

Am y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi cynnal digwyddiadau rheoli gwair doldir, a llynedd fe wnaethom arddangos cynaeafwr hadau’r dolydd a brynwyd gydag arian HLF.  Fe wnaethom hefyd roi ein harweinlyfr bach Blodau Dolydd Elan i’n ffermydd a oedd yn dwym o’r wasg y diwrnod hwnnw.  Eleni, fe fyddwn yn cynnal digwyddiad i edrych ar Arolwg In-by 2022 sy’n ganllaw i reolwyr wrth symud ymlaen ac sy’n cynnwys rheoli rhedyn a monitro dolydd.

Rydym yn falch iawn o gael Janice Vincett gyda ni y tymor hwn i wneud arolwg ar y dolydd sydd mwyaf cyfoethog mewn blodau yn y tir in-by ar gyfer y peillwyr.  Mae Janice yn arbenigo mewn ‘Hymenoptera’, y gwenyn a’r gwenyn meirch, ac mi roedd unwaith yn geidwad yn y cwm.  Mae’r hyn fydd hi’n darganfod yn adeiladu ar yr holl waith rydym wedi gwneud i sicrhau fod dolydd Elan yn parhau i gael eu gwerthfawrogi yn y dyfodol.

Fiona Gomersall
Ffoto: Martin Jones