Lleoliad: Ty Penbont
Mae Mair Tomos Ifans yn adrodd chwedlau, mythau a straeon traddodiadol, sy’n tynnu ar repertoire dwfn o straeon a chaneuon gwerin o bob cwr o Gymru yn ei gwaith fel chwedleuwr, cantores, actores a chrefftwr geiriau. Ymunwch â hi am berfformiad agos-atoch yn yr awyr agored o dan y sêr lle bydd yn rhannu detholiad o straeon wedi’u lleoli gyda’r nos, ynghyd â’i thelyn hudolus.
Tocynnau: £8.20
