Dydd Sadwrn 12 – Dydd Sul 27 Ebrill
Mae Bwni’r Pasg wedi bod yn brysur yn cuddio wyau ar draws yr ystâd! Allwch chi ddod o hyd iddyn nhw?
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich Taflen Antur, defnyddiwch y cliwiau i ffeindio’r wyau Pasg cudd, a chasglwch eich gwobr Pasg ar y diwedd.
Yn cynnwys:
- Map gyrru – I ffeindio’ch ffordd o gwmpas yr ystâd
- Map Antur – I’ch helpu chi i ddod o hyd i’r wyau cudd
- Pensil – I gofnodi’r cliwiau ar hyd y ffordd
Mae’r gweithgaredd yma ar gyfer plant a theuluoedd yn bennaf, ond croeso i oedolion ymuno yn yr hwyl hefyd!
£2.50 y plentyn