Dydd Sul, 27 Ebrill, 2.30pm i ddechrau am 3.00pm
Côr Meibion Rhaeadr Gwy
gyda
Suzanne Lloyd, Unawdydd
Mared Carrod, Telynores
Julie Carrod, Darlleniad o Gerdd
Mae Capel Nantgwyllt yn dathlu ei Ben-blwydd yn 125 oed yn 2025. Yn edrych dros Gronfa Ddŵr y Garreg-Ddu, adeiladwyd y capel yr un pryd â’r argaeau gwreiddiol i gymryd lle’r eglwys ganoloesol a foddwyd gyda gweddill y pentref. Hwn oedd un o’r adeiladau olaf i gael ei dylunio gan Stephen Williams o Raeadr Gwy.
Ymunwch â ni am brynhawn calonogol o ganu, cerddoriaeth a barddoniaeth.
Tocynnau £10.00 Ar gael gan aelodau o’r eglwys ac yn y ganolfan ymwelwyr
Elw i Gapel Nantgwyllt. Os na allwch chi ddod, ystyriwch wneud cyfraniad ariannol trwy wefan yr Eglwys yng Nghymru.