Ffair Fwyd, Diod a Chrefftau Mynyddoedd Cambrian

Ffair Fwyd, Diod a Chrefftau Mynyddoedd Cambrian

location icon
26th October - 26th October 2024, 10:00am - 4:00pm

Dydd Sadwrn 26 Hydref, 10.00am – 4.00pm

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi y bydd Ffair Bwyd, Diod a Chrefftau Mynyddoedd Cambria nôl eleni!

Mae ein staff wedi bod yn brysur yn stocio’r siop ag amrywiaeth o gynhyrchion o Fynyddoedd Cambria, gydag eitemau newydd yn cyrraedd bob wythnos. Mae ffair eleni’n arbennig am ei bod yn dychwelyd ar ôl cychwyn yn 2021 gan groesawu 919 o ymwelwyr.

Mae’r ffair yn rhan o brosiect Menter y Mynydd, wedi ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’i Hwyluso gan Gyngor Sir Powys o dan fenter Twf y Canolbarth.

Gall ymwelwyr edrych ymlaen at weld amrywiaeth o gynhyrchwyr, gan gynnwys Radnor Preserves, sydd bellach yn gwerthu’n rhyngwladol, MAC ChocolatesMorgan’s Brew TeaAmanda Skipsey ArtDa Mhile Distillery, Mêl Mynach a Cambrian Wool.

Ac yn ogystal, bydd y cogydd teledu a’r awdures Nerys Howell yn cynnal tair sesiwn coginio difyr. Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau byw gan y cerddorion lleol Toby Hay a Gareth Bonello hefyd, sy’n cynnwys cân ar thema’r wybren dywyll wedi ei hysbrydoli gan Gwm Elan.