Dathlwch brydferthwch ein Coedwigoedd Celtaidd!
Ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu trysorau ein coetiroedd yng Nghwm Elan. Profwch sgiliau traddodiadol y coetir, gan gynnwys gwaith gof, trin lledr a cheffylau coedio. Cymerwch ran mewn taith gerdded trwy’r goedwig, mwynhewch ymdrochi yn y goedwig, a dysgwch ragor am ein Fforest Law Geltaidd.
Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.