Ymunwch â ni am ddiwrnod o ddathlu trysorau ein coetiroedd yng Nghwm Elan. Profwch sgiliau traddodiadol y coetir, gan gynnwys gwaith gof, trin lledr a cheffylau coedio. Cymerwch ran mewn taith gerdded trwy’r goedwig, mwynhewch ymdrochi yn y goedwig, a dysgwch ragor am ein Fforest Law Geltaidd.
Bydd y diwrnod yn llawn cerddoriaeth fyw gan y cerddorion lleol Mia Ellis, Ben Wilde, Toby Hay a Holly Blackshaw, Will Griff, Kidd Raven a Marc Harpham. Mwynhewch berfformiadau trwy gydol y dydd ynghyd â bwyd ffres o fan The Diner, a pheidiwch â cholli’r cyfle i grwydro’r stondinau crefftau sy’n gwerthu nwyddau gan grefftwyr lleol.
Cynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG) sy’n ariannu’r prosiect Mae’n cael ei gyflawni gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.