Mae Cerddwyr Powys, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, wedi dylunio pecyn deniadol o daflenni newydd sy’n amlinellu wyth taith gerdded ymestynnol ar draws Cwm Elan.
Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan y diweddar Chris Jones, oedd yn aelod poblogaidd o Gerddwyr Powys. Roedd e wrth ei fodd yn cerdded yn y dirwedd fendigedig yma ac yn awyddus i bobl eraill rannu’r un profiad.
Ar ôl lansio’r taflenni, bydd yna gyfle i fynd am dro gyda’r Cerddwyr. Bydd yna ddewis rhwng tro bach tua dwy filltir o hyd o’r ganolfan ymwelwyr, trwy bentref Elan ac ymlaen trwy’r goedwig i argae Caban Coch, neu daith hirach o ryw bum milltir y tu hwnt i Gaban Coch dros dirwedd fwy ymestynnol.
Bydd y pecynnau cerdded ar gael i’w gweld a’u prynu.
Am ddim