Heb os, atyniad mwyaf Cwm Elan yw’r argaeau sydd yn cynnig cefndir rhagorol trwy gydol y flwyddyn i seiclwyr, cerddwyr a ffotograffwyr.
Ac eithrio Dôl y Mynach, gellir cyrraedd yr argaeau mewn car.
Mae pedwar argae ar afon Elan: Craig Goch, Pen y Garreg, Garreg Ddu, a Caban Coch. Ceir yr argae mwyaf a’r mwya newydd ar yr afon Claerwen ac yna argae Dôl y Mynach sydd heb ei orffen.
Craig Goch
Cyfeirir yn aml at Graig Goch, sef yr argae uchaf i fyny’r afon yng Nghwm Elan, fel ‘top dam’. Mae uchder ei leoliad yn 1040 troedfedd (317m) uwchben lefel y môr. Fel yr argaeau i gyd, dechreuwyd y gwaith gyda dyfodiad y rheilffordd ar y safle. Dyma’r pella i’r rheilffordd orfod mynd a bu rhaid ffrwydro trwy garreg er mwyn cyrraedd y safle, fe’i adnabyddir nawr fel ‘Ceunant y Diafol’ (Devil’s Gulch) a gellir ei weld ar Lwybr Cwm Elan.
Dechreuwyd ar y gwaith o gloddio’r sylfeini er mwyn creu sylfaen diogel i’r adeilad ym mis Gorffennaf 1897, rhyw dair mlynedd ar ôl dechrau’r gwaith ar yr argae isaf sef Caban Coch.
Cred llawer mai Craig Goch yw’r argae mwyaf atyniadol, gyda mur cynhaliol sy’n crymu’n gain a chyfres o fwâusy’n cario’r ffordd gul ar draws yr argae. Mae ganddo dŵr falf cromennog ac mae’r adeiladwaith yn nodweddiadol o arddull ‘Baróc Birmingham’ a welir yn y cynllun gwaith dŵr.
Uchder: 36m
Hyd: 156m
Lefel y dŵr uwchben lefel y môr: 317m
Arwynebedd y gronfa ddŵr: 88ha
Cyfaint: 9,222 megalitr
Cwm: Elan
Garreg Ddu
Mae argae’r Garreg Ddu ar waelod cyfres Elan ac mae ganddo ran ddeublyg. Mae’n argae isel, cwbl suddedig ac yn chwarae rhan bwysig ar gyfer cadw darpariaeth cyson o ddŵr i Birmingham. Mae hefyd yn cynnal pileri o waith maen ar gyfer y ffordd i gwm nesaf afon Claerwen. Mae Garreg Ddu yn cadw’r dŵr yn ôl i fyny’r afon fel bod dŵr yn gallu cael ei dynnu bob amser o Dŵr y Foel. Mae’r dŵr yn cael ei dynnu o’r Foel yn hytrach na chronfa ddŵr Caban Coch gan fyddai hyn yn golygu y byddai angen defnyddio pympiau, felly mae’r safle hwn yn galluogi’r dŵr i gael ei gludo gyda thynfa disgyrchiant i Birmingham.
Gwelwyd pwysigrwydd yr argae suddedig i gynnal y llif i Birmingham ym mis Medi 1937, ar ôl cyfnod hir o sychder eithradol pan disgynodd lefelau y dŵr yng Nghwm Elan yn frawychus.
Roedd y ffordd wreiddiol sy’n arwain i’r dyffryn yma i’w cholli, ynghyd â nifer o adeiladau gwreiddiol, gyda Argae Caban Coch yn cael ei chwblhau a llifogydd y ddau gwm wedi hynny.
Cwm: Elan
Pen y Garreg
Pen y Garreg yw’r drydedd argae i fyny Cwm Elan, a gyfeirir ato’n aml fel yr ‘argae ganol.’ Ceir traphont Garreg Ddu bellach i lawr yr afon, ond nid yw’n debyg i’r argaeau eraill gan nad yw rhan yr argae o’r adeiladwaith yn weladwy uwchben y wyneb o dan amodau cyffredin.
Mae’r argae hwn yn anarferol gan fod ynddo dwnnel mynediad i’r tŵr canolog sy’n cael ei oleuo gan dyllau ar ochr yr argae sy’n mynd i lawr yr afon. Mae hyn yn galluogi Pen y Garreg i fod yn le hygyrch i’r cyhoedd ar ddyddiau penodol yn ystod y flwyddyn. Edrychwch ar ein tudalennau Digwyddiadau ar gyfer ein diwrnodau Argaeau Agored.
Uchder: 37m
Hyd: 161m
Lefel y dŵr uwchben lefel y môr: 288m
Arwynebedd y gronfa ddŵr: 50ha
Cyfaint: 6,055 megalitr
Cwm: Elan
Caban Coch
Yr argae isaf yn y gyfres o’r Elan a’r Claerwen a’r argae symlaf a’r un mwyaf gweithredol yr olwg, yn debyg i raeadr naturiol pan fo’r gronfa ddŵr yn llawn gyda’r dŵr yn llifo dros fur yr argae.
Ysgrifennodd Eustace Tickell, un o brif beiriannwyr ar y cynllun gwaith dŵr, am yr argae cyn iddo gael ei gwblhau:
“ … mewn cyfnod o lifogydd, pan fo dŵr y storm yn rhuthro dros y brig ac yn syrthio i ddyfnder o dros 120 troedfedd, fe fydd argae Caban Coch yn ymddangos fel rhaeadr odidog.”
Mae argae Caban Coch yn cyfrannu at y cyflenwad dŵr i Birmingham pan fo lefelau y dŵr yn normal, ond mae hefyd yn darparu dŵr ychwanegol er mwyn sicrhau bod llif digonol yn cael ei gynnal yn yr Elan a’r Gwy i lawr yr afon o’r argaeau.
Mae adeiladau cerrig o’r unfath bob ochr i’r afon o dan wal yr argae ble ceirtyrbinau sy’n cynhrychu trydan, falfiau a llifddorau sy’n cymhwyso cyfanswm y dŵr ychwanegol sy’n cael ei ryddhau i lawr yr afon.
Uchder: 37m
Hyd: 186m
Lefel y dŵr uwchben lefel y môr: 250m
Arwynebedd y gronfa ddŵr: 202ha
Cyfaint: 35,530 megalitr
Cwm: Elan
Claerwen
Cafwyd rhybudd ar ôl sychder difrifol ym 1937 am yr angen i gael mwy o le ar gyfer storio’r dŵr. Nid oedd y tri argae, a bwriadwyd ar gyfer Dyffryn Claerwen fel rhan o gynllun gwaith dŵr gwreiddiol Cwm Elan ym 1892, wedi cael eu hadeiladu, ar wahan i sylfaen argae Dôl y Mynach a gafodd ei adeiladu’n gynnar oherwydd ei leoliad o dan lefel y dŵr uchaf yng nghronfa ddŵr Caban Coch. Roedd y cynlluniau ar gyfer argae mawr newydd yn Nyffryn Claerwen uchaf ymhell ar y blaen erbyn dechrau 1939, ond rhoddwyd mwy o bwysau ar y cyflenwad dŵr presennol gan yr alw am gynhyrchiadau adeg rhyfel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth yr alw am argae a chronfa ddŵr newydd ar y Claerwen yn fwy pwysig ar ôl diwedd y rhyfel. Fodd bynnag, roedd gwelliant a chynnydd mewn technegau peirianneg ac mewn mecaneiddiad yn golygu bod argaeau llawer mwy o ran maint yn gallu cael eu hadeiladu erbyn y dyddiad hwn.
Gall argae Claerwen ddal bron cymaint o ddŵr a chyfanswm cyfunol y tri argae arall a adeiladwyd yn gynharach. Uchder yr argae newydd yw 184 troedfedd (56m) a 1167 troedfedd (355m) o hyd. Cynlluniwyd argae’r Claerwen i fod yn debyg o ran golwg i’r adeiladwaith hŷn gerllaw. Er iddo gael ei adeiladu â choncrit, rhoddwyd carreg ar wyneb yr argae a oedd yn llawer fwy costus o ran deunydd a llafur.
Cymerwyd chwe blynedd a gweithlu o 470 i adeiladu argae Claerwen, sef yr olaf o’r argae yn yr ardal. Golyga’r gwelliant mewn technoleg a mecaneiddiad mewn prosiectau peirianneg sifil mawr nad oedd angen cynifer o weithwyr llafuriol.
Agorwyd argae’r Claerwen ym mis Hydref 1952 gan y Frenhines Elizabeth a oedd newydd gael ei choroni, yn un o’i dyletswyddau swyddogol cyntaf.
Uchder: 56m
Hyd: 355m
Lefel y dŵr uwchben lefel y môr: 369m
Cyfaint: 48,300 megalitr
Cwm: Claerwen
Dol y Mynach
Mae argae Dôl y Mynach yn anorffenedig. Roedd cynllun gwreiddiol yr 1890au ar gyfer dilyniant yr argaeau a’r cronfeydd dŵr yg Nghwm Elan a Dyffryn Claerwen yn cynnwys darpariaeth ar gyfer tri argae ar Afon Claerwen, gyda’r bwriad o’u hadeiladu’n hwyrach pan fo angen cyflenwad dŵr ychwanegol ar Birmingham. Roedd argae Caban Coch yn mynd i greu cronfa ddŵr gyda lefel dŵr uchel a fyddai uwchben lefel sylfaen argae Dôl y Mynach, yr isaf o’r tri ar Afon Claerwen. Roedd yn angenrheidiol felly i adeiladu sylfaen argae Dôl y Mynach ar yr un pryd â’r argaeau eraill yn y cwm cyfagos i Afon Elan. Gellir gweld blociau o gerrig anferth ar wyneb allanol y meini cerrig, sy’n pwyso hyd at ddeg tunnell, wedi’u gosod mewn concrit sy’n ffurfio craidd caled i’r adeiladwaith anferth.
Cwm: Claerwen