Mae Cwm Elan yn gartref i gyfoeth o leoliadau ac asedau treftadaeth hynafol. Gwelir ystod eang o safleoedd o’r oesoedd a fu hyd at godi’r cronfeydd dŵr yn y cyfnod diweddar. Mae’r hanesion yn cofnodi hanes ddiwylliannol y bobl hynny a symudodd ar draws yr ardal gan ei phoblogi dros y pum milienia olaf.
Mae’r cynllun yn anelu at warchod nifer o safleoedd dros Gwm Elan ynghyd â’r dystiolaeth hanesyddol y maent yn cynnig. Bydd hyn yn cyfrannu at gywirdeb y cofnodion hanesyddol sydd eisioes ar gael gan sicrhau eu diogelwch a’u rheolaeth ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cynllun hwn, yn yr hir dymor, yn darparu cofnod mwy manwl a chywir o’r safleoedd, yn ogystal a bod yn fwy weladwy gan ddarparu hygyrchedd i’r cyhoedd.
Fydd y gwaith hwn yn sicrhau bod agweddau ar ein treftadaeth adeiledig a hynafol yn cael eu cynnal a’u cadw rhag dirywiad yn y dyfodol, ble’n briodol. Fe fydd hi’n briodol i gasglu tystiolaeth oddi ar safleoedd sydd o dan fygythiad oddi wrth elfennau naturiol (er enghraifft erydiad), cyn i natur eu dinistrio.